Mae’n ddrwg gennyf adrodd nad yw Llong Danfor H5 wedi dychwelyd o’i phatrôl …
Felly dechreuodd yr adroddiad a anfonwyd ar 7 Mawrth 1918 gan Gapten Naismith i’r Is-Lyngesydd Syr Lewis Bayley, Llyngesydd â Rheolaeth dros y Dynesfeydd Gorllewinol. Aeth Naismith yn ei flaen: ‘Ystyrir ymhellach mai hi oedd y Llong Danfor y cyfeiriwyd ati yn y neges ganlynol gan yr Is-Lyngesydd, Aberdaugleddyf: ...