Post Tagged with: "Rhyfel Mawr"

Cofio’r RMS LEINSTER (a’r MEXICO CITY) – 10 Hydref 1918

Mae hanes suddo’r LEINSTER gan dorpido yn adnabyddus iawn gan i’r weithred honno arwain at y golled fwyaf o ran bywydau ym Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae canmlwyddiant y suddo’n cael ei goffáu heddiw gan Amgueddfa Arforol Caergybi mewn seremoni arbennig a fynychir gan ddisgynyddion y criw a’r teithw...

Siapan a Sir Benfro – yr HIRANO MARU

HIRANO MARU – Ffynhonnell: David James, Cymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru.   Ar 4 Hydref 1918 roedd yr HIRANO MARU, llong fasnach a oedd yn eiddo i Gwmni Llongau Nippon Yusen Kaisha, yn hwylio o Lerpwl i Yokohama heibio i Dde Affrica gyda 320 o griw a theithwyr ar ei bwrdd. Ei chapten oedd Hector ...

Cofio’r USS TAMPA a suddwyd ar 26 Medi 1918

Staff Gwylwyr y Glannau’r UD gyda chynrychiolwyr yr eglwys, David James o Gymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru, a Simon Thomas o’r Genhadaeth i Forwyr, Aberdaugleddyf.   Ar 23 Medi 2018, yn ystod gwasanaeth y Sul yn eglwys Sant Tyfei a Santes Faith, Llandyfái, cyflwynodd cynrychiolwyr Gwylwyr y Glan...

Cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18: Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr

  Lleoliad: Neuadd Pater, Noc Penfro.   Mae’n bleser gan dîm y Prosiect Llongau-U eich gwahodd i’n cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18 dau-ddiwrnod: ‘Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr’ a gynhelir yn Neuadd Pater, Noc Penfro ar 3 a 4 Tachwedd 2018. Ymunwch â ni i ddysgu ...

‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig

Cafodd y VANDALIA ei tharo gan dorpido a’i suddo gan y llong danfor Almaenig U-96 ar 9 Mehefin 1918 tua 18 milltir i’r gorllewin-ogledd-orllewin o’r Smalls. Ar y pryd roedd yn eiddo i’r cwmni llongau enwog Cunard Steamship Co Ltd o Lerpwl. Roedd y VANDALIA yn un o 20 llong o eiddo’r cwmni a suddwyd gan y gely...

Fferi a Gelyn – Fferïau ac agerlongau post Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr

Mae llongddrylliad y CORK yn ein hatgoffa o’r gwasanaethau fferi, cargo a phost hanfodol a oedd yn rhedeg rhwng Cymru ac Iwerddon drwy gydol y rhyfel. Y ddau brif gwmni a oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn oedd y City of Dublin Steamship Company (CDSPCo) a’r London and North Western Railway Company (LNWR), a diod...

Coffáu Profiad Cymru O’r Rhyfel Mawr Ar Y Môr

3-4 Tachwedd 2018 Neuadd Pater, Lewis Street, Doc Penfro, SA72 6DD Bydd y gynhadledd ddau ddiwrnod hon yn edrych ar brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi syl...

100 mlynedd yn ôl – suddwyd yr agerlong yr SS Boscastle ar 7 Ebrill 1918 gan yr U-111

Adeiladwyd yr SS Boscastle yn West Hartlepool i E. Jenkins a’i Gwmni, Caerdydd. Dyma’r disgrifiad ohoni adeg ei lansio ym 1912: “Length over all, 309ft.; breadth, 44ft. 9in.; and depth, 32ft. 1 in., with long bridge, poop, and top-gallant forecastle. The saloon, staterooms, captain’s, officers, and engine...

Y Rhyfel y Môr: Nadolig 1917

SS AGBERI: Y negesydd distaw Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos nad yw suddo’r SS AGBERI yn ddigwyddiad sydd wedi cael llawer o sylw gan ysgolheigion, y cyfryngau na’r cyhoedd ehangach. Sut bynnag, pan osodir y digwyddiad yng nghyd-destun ehangach y Rhyfel Byd Cyntaf, daw’n glir bod manylion ei dinistr yn amlyg...

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Heddiw cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe...