Bywyd Môr
Bywyd Môr ar Longddrylliadau
Fel y nodwyd yn aml yn ystod y Prosiect Llongau-U, mae’r llongddrylliadau hyn yn allweddol i’n dealltwriaeth o hanes y Rhyfel Byd Cyntaf.
Drwy astudio safleoedd y llongddrylliadau, yr adroddiadau am suddo’r llongau, a storïau’r bobl a hwyliai arnynt, daethom i wybod am ddewrder y llongwyr a phwysigrwydd coffáu eu haberth a’i gofnodi i’r cenedlaethau a ddaw.
Er i bwrpas gwreiddiol y llongau gael ei golli pan gawsant eu suddo, mae ganddynt erbyn hyn bwrpas newydd a hollol wahanol – maen nhw’n cynnig cynefinoedd unigryw i rywogaethau morol. Mae amrywiaeth eang o fywyd morol wedi ymgartrefu ar lawer o’r llongddrylliadau, sydd hefyd yn denu anifeiliaid symudol fel pysgod o ardaloedd eraill. O ganlyniad, fe gyfeiriwn atynt fel ‘riffiau artiffisial’.
Mae’r bywyd morol ar y llongddrylliadau, a’r adeiladweithiau eu hunain, o gryn ddiddordeb i ddeifwyr sgwba. Mae archwilio llongddrylliadau’n boblogaidd iawn a gall gyfrannu’n sylweddol at yr economi lleol drwy roi hwb i gwmnïau sy’n darparu cychod a chyfleusterau eraill at ddefnydd deifwyr. Yn ogystal, gall llongddrylliadau fod yn safleoedd poblogaidd ar gyfer pysgota hamdden gan fod pysgod mawr i’w cael yn aml yn byw ynddynt neu’n nofio drwyddynt.
Pam mae llongddrylliadau’n gystal cynefinoedd?
Mae llongddrylliadau’n darparu tri amod pwysig, ymhlith llawer o rai eraill, sy’n fuddiol i fywyd y môr: 1) adeiladwaith sefydlog i lynu wrtho, 2) cyflenwad da o fwyd a 3) amgylchedd cymhleth ar gyfer cysgodi.
Mae adeiladwaith metel y mwyafrif o longddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn darparu arwyneb sefydlog i fyw arno o’i gymharu â’r cynefinoedd naturiol o’u cwmpas y mae’r llanwau a’r tonnau’n gallu aflonyddu arnynt. Mae hyn yn caniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn bwydo ac yn lleihau’r posibilrwydd o niwed. Drwy fyw ar longddrylliadau mae’r anifeiliaid hyn hefyd yn uwch yn y golofn ddŵr nag y byddent pe baen nhw’n byw ar wely’r môr. Mae’r cerhyntau dŵr yn gyflymach yn y fan hyn ac yn dod â mwy o fwyd i’r hidlwyr bwyd niferus sy’n byw ar y llongddrylliadau
Pan fydd anifeiliaid yn byw mewn cynefinoedd mwy cymhleth, mae’n llai tebygol y cânt eu bwyta gan ysglyfaethwyr. Ar longddrylliadau, mae’r amrywiaeth o arwynebau ar wahanol onglau ac o dyllau, bargodion a chysgod yn cynnig mwy o leoedd i guddio a llochesu na chynefinoedd naturiol mwy unffurf. Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam y mae llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn gartrefi delfrydol i gyfoeth o fywyd môr.
Cliciwch ar flwch i ddarganfod mwy am y bywyd morol ar longddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn nyfroedd Cymru. Nid ydym wedi cynnwys yr holl rywogaethau sy’n byw ar y llongau ond rhoddwn sylw i rai o’r rhywogaethau cyffredin gan ddefnyddio lluniau a gasglwyd yn ystod y Prosiect Llongau-U.