Anemonïau Môr a Chwrelau
< Yn ôl i Bywyd Môr
Anemonïau môr yw un o’r grwpiau mwyaf cyffredin ac amlwg o anifeiliaid a welwch ar longddrylliadau ar hyd arfordir Cymru. Y nodweddion amlycaf yw’r tentaclau sy’n ymestyn o goesyn crwn a meddal, sef y golofn. Bydd anemonïau’n defnyddio’r tentaclau hyn i ddal bwyd sy’n symud heibio yn y dŵr. Mae arwynebau sefydlog llongddrylliadau’n cynnig lleoedd perffaith ar gyfer glynu ac yn galluogi’r anemonïau i fyw uwchlaw gwely’r môr mewn cerhyntau sy’n llifo’n gyflymach. Mae gan anemonïau allu arbennig i ymsefydlu ar longddrylliadau.
Anemoni Pluog Metridium dianthus
Mae’r Anemoni Pluog yn gyffredin ar longddrylliadau ar hyd arfordir Cymru a gall fod yn arbennig o doreithiog, gan orchuddio bron y cyfan o arwyneb y llong weithiau. Er enghraifft, mae rhai o adeiladweithiau’r Cartagena, sy’n gorwedd oddi ar ogledd-ddwyrain Môn, wedi’u gorchuddio’n gyfan gwbl gan y rhywogaeth hon. Gallant fod yn oren neu’n wyn ac maen nhw’n edrych fel twmpathau crwn pan fyddant ar gau. Pan fyddant ar agor, fe welwch nifer fawr o dentaclau tenau bach sy’n rhoi golwg pluog iddynt.
Anemoni Cain Sagartia elegans
Mae gan yr anemoni hwn hyd at 200 o dentaclau gweddol hir, ac mae’n byw mewn grwpiau bach neu glystyrau mawr. Mae’r lliw yn amrywio’n fawr, hyd yn oed ar yr un llongddrylliad, felly mae nifer o amrywogaethau lliw. Un o nodweddion neilltuol y rhywogaeth hon yw’r sugnolion neu ddefaid (warts) ar ei cholofn sy’n gallu edrych fel smotiau gwyn. Nid oes defnydd yn sownd wrth y sugnolion hyn, yn wahanol i rai rhywogaethau eraill.
Mae’r amrywogaeth miniata yn frown i oren o ran lliw ac mae ganddi fandiau a llinellau gwyn yn ardal y geg ac ar y tentaclau. Oherwydd ei lliwiau gall fod yn anodd ei gweld yn erbyn arwyneb brown y llongddrylliad (y llun ar y dde).
Cafodd yr amrywogaeth nivea (y llun ar y chwith), y mae ganddi dentaclau gwyn ac sy’n wyn yn bennaf ar draws y geg a’r disg, ei darganfod mewn clystyrau trwchus ar blatiau dec llongddrylliad yr SS Derbent oddi ar ogledd Môn yn ystod arolwg yn 2019.
Llaw Farw Alcyonium digitatum
Cwrel meddal yw’r Llaw Farw. Mae wedi’i ffurfio o gannoedd o bolypiaid mân iawn (tebyg i anemonïau môr hynod fach) sy’n gorchuddio’r adeiledd aml-labedog. Mae’n glynu wrth longddrylliadau ac yn edrych fel ffwr pan fydd y polypiaid gwyn wedi’u hestyn, fel yn y llun, neu’n llyfn neu fel lledr pan fydd y polypiaid wedi’u tynnu’n ôl. Bydd yn defnyddio tentaclau ei bolypiaid i gasglu defnydd organig o’r golofn ddŵr. Gellir gweld cwrelau yma ac acw ar y rhan fwyaf o longddrylliadau ond nid ydynt yn niferus.
Mae gan y Llaw Farw amrywogaethau lliw sy’n debyg i rai’r Anemoni Pluog – maen nhw’n oren neu’n wyn. Mae’r llun yn dangos cwrel Llaw Farw yn gymysg ag Anemonïau Cain yr amrywogaeth nivea ar yr SS Derbent.