Cramenogion
< Yn ôl i Bywyd Môr
Oherwydd adeiladwaith cymhleth llongddrylliadau, gyda’u hagennau, silffoedd a thyllau di-rif, maen nhw’n cynnig cysgod ardderchog i grancod, cimychiaid a berdys. Yn ogystal, fel y gwelwyd ar longddrylliad yr SS Derbent yn 2019, mae niferoedd sylweddol o gramenogion eraill, fel amffipodau, i’w cael ymysg y cymunedau tywarch ac yn y tiwbiau a adeiladant. Cramenogion yw cregyn llong hefyd, a gallwch eu gweld ar longddrylliadau mewn dŵr dyfnach yn ogystal ag ar longddrylliadau mewn dŵr bas yn nes at y lan.
Cranc coch Cancer pagurus
Mae nodweddion neilltuol y cranc coch yn golygu ei fod yn hawdd ei adnabod. Mae’n edrych yn gadarn a chryf oherwydd ei argragen ‘grwst’ gochfrown a’i grafangau mawr â blaenau tywyll. Mae’r llun yn dangos un yn llechu o dan gwn dec yr SS Derbent.
Cranc nofio melfed Necura puber
Mae’r cranc nofio melfed yn hysbys am ei ymddygiad ymosodol pan fydd dan fygythiad – bydd yn codi ac yn lledu ei grafangau glas neu borffor gyda’u blaenau tywyll. Fel y mae’r enw cyffredin yn ei awgrymu, mae blew melfedaidd yn gorchuddio’r argragen, ac mae’r coesau ôl yn weddol fflat i hwyluso nofio. Mae’r llygaid coch yn nodedig iawn ac mae’r rhain, ynghyd â’i natur ffyrnig, yn egluro’r enw arall a roddir arno: ‘Cranc cythraul’.
Amffipodau adeiladu tiwbiau
Mae sawl rhywogaeth o amffipod sy’n adeiladu matiau o diwbiau a all orchuddio arwynebau a bywyd morol arall. Ar yr SS Derbent gellir gweld gorchudd brown â thyllau ynddo. Ym mhob twll mae amffipod unigol yn byw ac yn bwydo. Mae’r tiwbiau’n gorchuddio coesynnau hydroidau pibau corsen hyd yn oed, fel y gwelwch yn y ddau lun. Gall mwydod polydora gynhyrchu tiwbiau tebyg yr olwg.