Pysgod

Pysgod

< Yn ôl i Bywyd Môr

Mae’n gyffredin i weld heigiau o bysgod a physgod unigol yn nofio o amgylch a thrwy longddrylliadau neu’n cysgodi yn yr adeiladweithiau. Mae’r adeiladweithiau cymhleth hyn, mewn cynefinoedd naturiol sy’n gallu bod yn unffurf iawn, yn darparu cysgod rhag ysglyfaethwyr a moroedd garw. O’r herwydd, mae llongddrylliadau yn nyfroedd Cymru a gweddill y DU yn lleoliadau poblogaidd i bysgotwyr hamdden.

 


Codyn llwyd Trisopterus luscus

Cod llwyd yw rhai o drigolion mwyaf adnabyddus llongddrylliadau a chânt eu gweld yn aml. Byddant yn nofio mewn heigiau o amgylch a thrwy adeiladweithiau’r llongau. Maen nhw’n perthyn i deulu’r penfras ac maen nhw’n hawdd eu hadnabod fel rheol oherwydd bod ganddynt 3 neu 4 o fandiau golau i lawr y corff. Os nad yw’r bandiau hyn yn glir, mae’r corff dwfn, y barfogyn hir ar yr ên a’r smotyn tywyll ar waelod yr asgell bectoral yn helpu i’w hadnabod.

 


Morlas Pollachius pollachius

Aelod o deulu’r penfras yw’r morlas. Mae gan forleisiaid ên isaf hirach a llinell ystlysol grom ac nid oes ganddynt farfogyn. Maen nhw i’w gweld mewn grwpiau bach a heigiau. Ond gwelir unigolion mawr yn aml ger llongddrylliadau ac y tu mewn iddynt, weithiau yng nghwmni heigiau o god llwyd.

 


Tompot Parablennius gattorugine

Aelod chwilfrydig o deulu’r llyfrothen yw hwn. Mae ganddo ddau dentacl canghennog rhwng y llygaid a gwefus uchaf mawr. Brown yw ei liw fel rheol, ac mae barrau brown yn ymestyn i mewn i’r asgell ddorsal. Mae tompotiaid i’w gweld yn aml yn cuddio mewn bylchau neu’n aros ar silffoedd neu ger adeiladweithiau crog. Gwelwyd un wedi ymgartrefu mewn agen ym mhrif winsh y Cartagena yn 2018.