Sbyngau
< Yn ôl i Bywyd Môr
Mae sbyngau’n rhan bwysig o’r gymuned ar longddrylliadau gan eu bod yn gallu bod yn niferus iawn. Hefyd mae llawer o rywogaethau ohonynt a gallant ychwanegu at gymhlethdod adeileddol y llongddrylliad. Mae’n anodd adnabod sbyngau o dan y dŵr neu o luniau gan fod y rhywogaeth mor amrywiol, a chan fod eu lliw a’u ffurf yn amrywio cymaint o fewn yr un rhywogaeth. Rhoddwn sylw yma i rai o’r rhywogaethau amlycaf a welsom ar y llongddrylliadau a astudiwyd yn ystod y prosiect.
Sbwng simnai Polymastia penicillus
Mae gan y sbwng simnai ymestyniadau unionsyth sy’n codi o waelod sydd dan haen o silt. Mae’n felyn golau i oren o ran lliw, ac mae rhai o’r ymestyniadau’n fwy o faint ac yn terfynu mewn twll mawr, o’r enw osgwlwm, lle mae dŵr yn cael ei daflu allan. Mae’r llun hwn yn dangos y sbwng ar ochr corff yr SS Derbent.
Sbwng corniog cnawdog Haliclona oculata
Mae’r sbwng hwn i’w weld ar ffurf peli neu flobiau afreolaidd sy’n sownd wrth adeiladwaith y llongddrylliad. Mae’n felyn ei liw ac mae ganddo dwll mawr (osgwlwm) neu sawl twll weithiau ar yr arwyneb uchaf. Gall oddef amodau siltaidd, fel y mae’r llun o’r sbwng ar y Cartagena yn ei ddangos.
Sbwng carpion moron Suberites carnosus
Gall y sbwng hwn fod ar ffurf twmpathau ag osgwla mawr neu ar ffurf daselog sy’n ymdebygu i foron wedi’u carpio. Mae’n ffurfio crawen a all fod yn oren golau neu’n oren llachar o ran lliw. Mae’r llun yn dangos y sbwng ar yr SS Derbent.
Sbwng carpion moron Amphilectus fucorum
Gall y sbwng hwn fod ar ffurf twmpathau ag osgwla mawr neu ar ffurf daselog sy’n ymdebygu i foron wedi’u carpio. Mae’n ffurfio crawen a all fod yn oren golau neu’n oren llachar o ran lliw. Mae’r llun yn dangos y sbwng ar yr SS Derbent.