Bryosoaid a Hydroidau

Bryosoaid a Hydroidau

< Yn ôl i Bywyd Môr

Mae bryosoaid a hydroidau yn perthyn i wahanol Ffyla (gwahanol fathau o anifeiliaid), ond maen nhw’n edrych yn debyg ac yn byw mewn cynefinoedd tebyg.
Fel rheol fe fydd niferoedd mawr iawn o bryosoaid a hydroidau ar longddrylliadau yn nyfroedd Cymru, ac amrywiaeth eang o rywogaethau, ond gan eu bod mor fach mae’n anodd eu hadnabod a gwahaniaethu rhyngddynt drwy astudio ffotograffau a fideos. Mae’r mwyafrif ohonynt, a’r mwyafrif o sbyngau, ar longddrylliadau’n ffurfio tywarch ar arwynebau caled, ond mae rhai rhywogaethau’n ddigon mawr i ddeifwyr eu gweld ac i’w hadnabod ar ffilm. Hidlwyr bwyd ydynt, felly gallant fanteisio ar yr adeiladwaith solet a’r cerhyntau cyflymach ar lefel uwch.

 


Hydroid antenau canghennog Nemertesia ramosa

Rhywogaeth o hydroidau mawr yw hon. Mae ganddynt goesynnau canghennog anhyblyg sy’n amrywio o ran lliw o felyn i oren. Natur ganghennog yr hydroid sy’n ei wneud yn wahanol i’r hydroid antenau. Gall y coesynnau canghennog fod cymaint â 40 cm o hyd, gan ffurfio tyfiant tebyg i lwyn sy’n ymestyn at i fyny o’r arwyneb mae’n glynu wrtho. Mae canghennau bach yn ymwthio o’r coesynnau ac mae polypiaid bwydo i’w gweld ar hyd y rhain. Gellir gweld malwod môr Doto yn bwydo ar yr hydroid antenau canghennog a byddant yn aml yn dodwy eu hwyau ar y coesynnau, fel mae’r llun o longddrylliad yr SS Derbent oddi ar Ynys Môn yn ei ddangos.

 


Hydroid antenau Nemertesia antennina

Rhywogaeth o hydroidau mawr yw hon. Mae ganddynt goesynnau canghennog anhyblyg, melyn i oren o ran lliw a hyd at 30 cm o hyd, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio tyfiant tebyg i dwffyn sy’n tyfu at i fyny o’r arwyneb maen nhw’n glynu wrtho. Mae canghennau bach yn ymestyn o’r coesynnau ac mae polypiaid i’w gweld ar hyd y rhain. Gellir gweld malwod môr Doto yn bwydo ar yr hydroid antenau a byddant yn aml yn dodwy eu hwyau ar y coesynnau (maen nhw’n edrych fel torchau pinc), fel mae’r llun o longddrylliad yr SS Derbent oddi ar Ynys Môn yn ei ddangos.

 


Hydroid pibau corsen (canghennog) Tubularia

Mae’r hydroid pibau corsen canghennog a’r hydroid pibau corsen yn gyffredin ar longddrylliadau gan eu bod nhw’n hoffi ardaloedd cysgodol lle mae’r cerrynt yn gryf. Mae gan y ddwy rywogaeth bolypiaid pinc a thentaclau main ar ben coesyn anhyblyg melyn i oren. Fel yr awgryma’r enw, mae gan yr hydroid pibau corsen canghennog goesynnau sy’n canghennu yn y gwaelod, tra bo coesynnau’r hydroid pibau corsen yn ymdoddedig neu’n annibynnol.