Partneriaid Cymunedol

  • Home 2
  • Partneriaid Cymunedol

Partneriaid Cymunedol

 

Amgueddfa Abertawe

Aeth mwy na 6,200 o blant ysgol o ysgolion cynradd yr ardal i weld yr arddangosfa ‘Abertawe a’r Rhyfel Mawr 1914-18’ yn Amgueddfa Abertawe. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys paneli’r Prosiect Llongau-U, ac ymgymerodd yr ysgolion â gweithgareddau’n ymwneud â’r llongau-U a’r llongwyr o Abertawe a fu farw wrth wasanaethu yn y llynges fasnachol er mwyn dod â chyflenwadau hanfodol i Brydain. Mae gan yr amgueddfa gasgliadau morwrol, gan gynnwys sgriw yrru llong-U o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod

Cafodd yr amgueddfa hon ei sefydlu ym 1878 a dyma’r amgueddfa annibynnol hynaf yng Nghymru. Mae wedi’i lleoli ar diroedd castell Dinbych-y-pysgod. Mae’r amgueddfa’n gartref i gasgliad mawr sy’n adan lewyrchu hanes morwrol y dref. Un o’r storïau y gwnaed ymchwil iddi fel rhan o’r Prosiect Llongau-U yw honno am wrhydri pysgotwr lleol a saethodd at long-U a’i suddo wrth wasanaethu fel gynnwr gyda’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn.

 

 

Amgueddfa Arforol Caergybi

Yr orsaf bad achub hynaf yng Nghymru yw cartref yr amgueddfa arforol yng Nghaergybi. Mae’n cael ei rheoli a’i rhedeg gan wirfoddolwyr. Rhoddwyd sylw mawr i gydnabod a choffáu’r rhan a chwaraeodd y dref yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr arddangosfeydd a gynhaliwyd yno yn ystod cyfnod y coffáu, yn enwedig i golli’r RMS LEINSTER a suddwyd gan long-U ym mis Hydref 1918, gan ladd 530 o bobl, llawer ohonynt o Gaergybi.

 

 

Amgueddfa Ceredigion

Amgueddfa gyda chasgliadau morwrol sy’n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol yw Amgueddfa Ceredigion. Fel rhan o’r Prosiect Llongau-U, mae Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion wedi creu arddangosfa ryngweithiol sy’n ymdrin â bywyd ar y môr ac yn y llongau tanfor. Cafodd taith mewn cwch dros safle’r APAPA, sef llongddrylliad o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ei chyfuno â thaith i ganolfan SEACAMS ym Mangor i ddarganfod sut y cafodd yr arolygon eu gwneud.

 

 

Amgueddfa Cymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru

Mae’r amgueddfa hon yn iard gychod Hancock, Doc Penfro, yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr a chynhelir llu o weithgareddau yma gyda phobl ddi-waith a grwpiau ieuenctid i feithrin sgiliau atgyweirio cychod a gwneud cyryglau. Fel rhan o’r Prosiect Llongau-U buont yn ymchwilio i hanes yr HIRANO MARU a suddwyd gan dorpido ym 1918. Arweiniodd hyn at gynnal seremoni ym mynwent Angle i ddadorchuddio cofeb ryfel newydd, a fynychwyd gan berthnasau’r llongwyr o Japan a gollwyd.

 

 

Amgueddfa Forwrol Llŷn

Mae’r amgueddfa hon, sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn bennaf, wedi’i lleoli yn hen eglwys Santes Fair, Nefyn. Mae’r casgliadau’n cynnwys arteffactau a ffotograffau’n ymwneud â threftadaeth forwrol gyfoethog yr ardal. Fel rhan o’r gweithgareddau ar gyfer y Prosiect Llongau-U fe ddysgodd y gwirfoddolwyr am hanes llafar cyn dechrau recordio pobl leol. Daeth deunydd unigryw i law i’w sganio yn ystod diwrnod cymunedol, a chynhaliwyd arddangosfa a sgwrs a oedd yn boblogaidd iawn gan y cyhoedd.

 

 

Amgueddfa Hwlffordd

Mae’r amgueddfa wedi cynnal cyfres o sgyrsiau ar themâu arbennig yn ymwneud â Sir Benfro a’r Rhyfel ar y Môr ac wedi trefnu arddangosfa ar brofiad plant ysgol Sir Benfro a’r dathliadau heddwch yn sgil y rhyfel.

 

 

 

Amgueddfa Parc Howard

Rhoddodd y bartneriaeth â’r Prosiect Llongau-U gyfle i Amgueddfa Parc Howard feithrin cysylltiadau newydd â chymunedau lleol drwy gasglu storïau pobl o’r ardal a oedd wedi colli eu bywydau ar y môr. Bu hyn yn ysbrydoliaeth ar gyfer Flotilla, gwaith celf ceramig wedi’i ddyfeisio gan Esther Ley, artist Cymreig o dras Almaenig, ar ffurf ‘cychod’ coffa wedi’u creu gan blant lleol a grwpiau cymunedol. Mae Flotilla wedi cael lle parhaol bellach ym Mharc Howard.

 

 

Amgueddfa Porth-cawl

Sefydlwyd yr amgueddfa yn yr hen Orsaf Heddlu ym Mhorth-cawl a gwirfoddolwyr sy’n ei rheoli. Ar gyfer y Prosiect Llongau-U, bu gwirfoddolwyr yn ymchwilio i ymwneud Porthcawl â’r Rhyfel ar y Môr, gan gynnwys sgrapio llongau rhyfel yno ym 1919 a cholli’r TAMPA, un o longau Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau, ym 1918. Cynrychiolwyd yr amgueddfa mewn gwasanaeth coffa yn Washington D.C. i’r rheiny a fu farw pan suddwyd y llong.

 

 

Amgueddfa’r Môr Porthmadog

Yn amgueddfa Porthmadog, sydd wedi’i lleoli mewn hen gwt llechi, adroddir 200 mlynedd o hanes morwrol y porthladd llechi pwysig hwn. Gwnaed ymchwil i longwyr a llongau o’r ardal a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chynhaliwyd arddangosfa a oedd yn cynnwys ffilm am suddo’r llong hwylio, y MISS MORRIS, a recordiad o gapten yn siarad am y profiad o fod ar fwrdd llong a suddwyd.

 

 

Amgueddfa Caerdydd

Yn Amgueddfa Caerdydd cewch ddysgu am hanes cyfoethog a diddorol ein prifddinas. Mae casgliadau’r amgueddfa’n adrodd stori’r ddinas o’r cyfnodau cynharaf, drwy flynyddoedd llewyrchus y chwyldro diwydiannol, hyd heddiw. Mae’n parhau i ymestyn ei chasgliadau er mwyn sicrhau bod holl amrywiaeth Caerdydd a’i chymunedau, ddoe a heddiw, wedi’i chynrychioli.

 

 

Barmouth Sailors’ Institute

Enghraifft brin o ystafelloedd cyhoeddus sy’n parhau i gael eu defnyddio yw Barmouth Sailors’ Institure (Sefydliad y Llongwyr yn Abermohttp://www.sunderlandtrust.com/. Roedd ar un adeg yn lle i forwyr ddarllen ac ymlacio. Mae’r casgliad o lyfrau, darluniau ac arteffactau’n ymwneud â’r môr ar agor bob dydd fel Amgueddfa Achrededig. Mae sgyrsiau, arddangosiadau, diwrnod cymunedol ac ymweliadau gan ysgolion wedi cael eu trefnu fel rhan o’i hymwneud â’r Prosiect Llongau-U.

 

Bodrhyddan Hall

Adeilad rhestredig Gradd I yw Bodrhyddan Hall (Neuadd Bodrhyddan) ac mae’n gartref i’r Arglwydd Langford a’i deulu ers 500 mlynedd a mwy. Mae’r tŷ wedi’i leoli mewn sawl erw o erddi ffurfiol bendigedig a choetir a adenillwyd, a dyma un o’r ychydig o blastai yng Nghymru sy’n parhau ym meddiant y teulu a’i cododd. Mae’r casgliadau helaeth yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag aelodau’r teulu a fu’n gwasanaethu yn y fyddin a’r llynges.

 

Flintshire War Memorials 1914-18

Cafodd y Flintshire War Memorials (Cofebion Rhyfel Sir y Fflint) ei ddechrau fel prosiect amser hamdden gan Eifion a Viv Williams yn wreiddiol, ond mae’r tîm o wirfoddolwyr wedi tyfu a thyfu, gan helpu i greu gwefan ar gyfer cofnodi’r storïau y tu ôl i’r enwau ar holl gofebion y Rhyfel Mawr yn Sir y Fflint. Mae’r prosiect wedi derbyn cymorth ymarferol ac ariannol gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Friends of the Newport Ship

Cafodd Friends of the Newport Ship (Cyfeillion Llong Casnewydd) ei ffurfio yn 2002 i hybu ymwybyddiaeth o Long Ganoloesol Casnewydd ac i godi arian i’w diogelu. Bydd gwirfoddolwyr yn cynnal dyddiau agored rheolaidd yng Nghanolfan y Llong, ac yn cynnig teithiau tywys am ddim i ymwelwyr. Bydd y Cyfeillion hefyd yn cynnal sgyrsiau a digwyddiadau, ac maen nhw wedi cyhoeddi arweinlyfr sy’n cyflwyno’r darn unigryw hwn o dreftadaeth Casnewydd i’r cyhoedd. Mae gan y Cyfeillion wybodaeth helaeth am lawer agwedd arall ar hanes morwrol Casnewydd hefyd.

 

Llyfrgelloedd, Archifau a Diwylliant Conwy

Cafodd gweithdy cerameg ei gynnal yn ysgol Bro Aled yn Llandudno lle dysgodd y disgyblion am hanes y rhyfel yn erbyn y llongau tanfor. Cafodd ffigurau a llong danfor eu creu a arddangoswyd yn Archifau Conwy. Bu gwirfoddolwyr yn yr archifdy yn ymchwilio i hanes llong-U oddi ar Benygogarth a chynllun carcharorion rhyfel Almaenig i gael eu hachub. Cafodd y digwyddiadau yng nghyffiniau Llandudno eu hailgreu gan blant ysgol lleol.

 

 

Newport Museum & Art Gallery

Bu Newport Museum & Art Gallery (Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd) yn casglu gwybodaeth am hanes, diwylliant ac amgylchedd Casnewydd ers ei sefydlu ym 1888. Mae’r arddangosfeydd parhaol yn adrodd hanes Casnewydd o’r cyfnod cynhanesyddol i’r 20fed ganrif a chynhelir arddangosfeydd dros dro hefyd sy’n cynnig rhywbeth newydd yn gyson i ymwelwyr chwilfrydig. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi’r amgueddfa a Llong Ganoloesol Casnewydd drwy ei Wasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth.

 

Oriel Ynys Môn

Canolfan celf a hanes yn Llangefni yng nghanol Ynys Môn yw hon. Gan weithio gydag ysgolion a Phrosiect Sero, cynhelir diwrnod cymunedol yn 2019 a fydd yn canolbwyntio ar y ganolfan awyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Llangefni a’r awyrlongau a hedfanai oddi yno i chwilio am longau-U oddi ar arfordir Môn. Cynhelir yr arddangosfa llongau-U yno yn 2019 hefyd.

 

 

Pembroke Dock Heritage Centre

Amgueddfa annibynnol wedi’i chynnal gan wirfoddolwyr a’i gweithredu gan Sunderland Trust (Ymddiriedolaeth Sunderland Doc Penfro) yw Pembroke Dock Heritage Centre (Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro). Mae dau gan mlynedd a mwy o dreftadaeth filwrol Doc Penfro wedi’i chofnodi’n fanwl ac mae ei bwysigrwydd hanesyddol yn ymestyn yn ôl yn llawer pellach i’r adeg pan laniodd Harri Tudur yn Sir Benfro ym 1485. Nod Ymddiriedolaeth Sunderland Doc Penfro yw rhannu’r hanes a phrofiad unigryw hwn â’r byd yn y Ganolfan Dreftadaeth, sydd wedi’i lleoli yng Nghapel Sioraidd yr Iard Longau Frenhinol.

 

Storiel, Bangor

Plas yr Esgob ym Mangor, a adferwyd yn ddiweddar, yw cartref Storiel. Mae casgliadau hanes cymdeithasol o bob rhan o Gymru, gyda phwyslais ar Wynedd, wedi’u dwyn ynghyd yma. Roedd ei gweithgareddau ar gyfer y Prosiect Llongau-U yn cynnwys sefydlu grŵp celf i bobl ifanc o’r enw Criw Celf a ysbrydolwyd gan daith i Amgueddfa’r Môr Porthmadog a hanes y MISS MORRIS. Gyda chymorth yr artist Theresa Urbanska, aethant ati i greu darn artistig a ddangoswyd fel rhan o’r arddangosfa.

 

Tiger Bay & the World – The Heritage & Cultural Exchange

Prosiect yn ymwneud ag ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd yw Tiger Bay & the World. Sefydlwyd y prosiect i gofnodi hanes morwrol amlddiwylliannol cyfoethog yr ardal ers y 1980au. Rhai o’r gweithgareddau a drefnwyd mewn partneriaeth â’r Prosiect Llongau-U oedd digido recordiadau llafar yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ymchwilio i longau Caerdydd o’r cyfnod, a diwrnod cymunedol i wrando ar sgyrsiau a rhannu atgofion. Cynhelir arddangosfa yn adeilad y Pierhead ym mis Rhagfyr 2019.

 

VC Gallery, Sir Benfro

Sefydliad cymunedol annibynnol bach yw VC Gallery sy’n dwyn ynghyd gyn-aelodau’r lluoedd arfog a phobl Sir Benfro. ‘Mae’r pwyslais yn gyfan gwbl ar gymdeithasu, ysbryd cymunedol, ac ymgysylltu drwy gelf.’ Fel rhan o’r Prosiect Llongau-U, trefnwyd gweithdai i ystyried ymatebion creadigol i ymweliadau â mynwent leol i weld beddau llongwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gwaith celf a grëwyd wedi cael ei arddangos yn Noc Penfro.