
HMS SAXIFRAGE a Suddo’r ORONSA a’r DAMÃO
Fel llong-Q, gwaith HMS SAXIFRAGE yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd hela llongau-U, a byddai hi’n aml yn arwain confois a’u gwarchod rhag llongau tanfor y gelyn. Ar y 26ain o Ebrill 1918 fe gafodd y dasg o hebrwng confoi i Lerpwl.

Ar fore’r 28ain o Ebrill 1918, wrth hebrwng y confoi, daeth HMS SAXIFRAGE ar draws dwy long yr oedd llong-U wedi ymosod arnynt, sef teithlong o’r enw ORONSA (dolen) a llong fasnach o’r enw DAMÃO (dolen). Roedd y tywydd yn dawel a llonydd ac roedd llongau-U Almaenig yn y cyffiniau o hyd. Roedd y SAXIFRAGE yn hebrwng yr SS Standard ARROW i Lerpwl ar y pryd, ond ar ôl dod o hyd i safle’r ymosodiad fe aeth ar y blaen i’r confoi i chwilio am y gelyn.
Ar ôl bod yn sgrinio o flaen yr SS MASSILA fe welodd long-U ac aeth ar ei hôl. Yn ôl y llyfr log aeth yr helfa yn ei blaen am awr neu ddwy, ond nid oes unrhyw gofnod bod llong-U wedi’i suddo neu ei difrodi yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth i’r distrywlongau achub goroeswyr o’r ddwy long o’r môr, dychwelodd y SAXIFRAGE ar noson olau leuad i’r confoi. Nodir yn y llyfr log iddynt weld goleulong am 10:30. Dychwelodd y llong-Q i’w phorthladd yn Buncrana gan hebrwng y confoi yn ôl yn ddiogel.
Lisa-Marie Turner
Ymddiriedolaeth Forwrol SAXIFRAGE
Gwefan: www.saxifragemartimetrust.com