Popeth yn Dawel ar y Ffrynt Gorllewinol: Gweithrediadau milwrol wedi’r Cadoediad oddi ar arfordir Cymru
HMS Audacious yn suddo ar 27 Hydref 1914. Llwyddiant mawr i ffrwydron môr yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffotograff Q 48342 yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM). Gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918 daeth yr ymladd i raddau helaeth i ben, yn enwedig ar y Ffrynt Gorllewinol. Sut bynnag, byddai gweithrediada...