
Mae’n ddrwg gennyf adrodd nad yw Llong Danfor H5 wedi dychwelyd o’i phatrôl …
Felly dechreuodd yr adroddiad a anfonwyd ar 7 Mawrth 1918 gan Gapten Naismith i’r Is-Lyngesydd Syr Lewis Bayley, Llyngesydd â Rheolaeth dros y Dynesfeydd Gorllewinol. Aeth Naismith yn ei flaen:
‘Ystyrir ymhellach mai hi oedd y Llong Danfor y cyfeiriwyd ati yn y neges ganlynol gan yr Is-Lyngesydd, Aberdaugleddyf: gan sylwi bod ei llinell batrolio yn Lledred 53 6G rhwng Hydred 4 30 a 4 50Gn.
Neges yn dechrau: mae capten yr SS RUTHERGLEN yn adrodd i’w Long daro Llong Danfor 2030, 2 Mawrth yn y safle Lledred 53 4G, Hydred 4 40Gn. Roedd y llong danfor yn croesi blaen y llong ar gryn gyflymder. Ar ôl y gwrthdrawiad clywyd gweiddi a gwelwyd dynion yn y dŵr, ac roedd arogl cryf o anwedd petrol. Mae blaenbig y RUTHERGLEN yn llawn dŵr. Diwedd.
Roedd ei Phrif Swyddog, yr Is-gapten A W Forbes, yn swyddog o gryn brofiad yr oedd gennyf y parch mwyaf ato a hyder llwyr ynddo. Rwyf yn argyhoeddedig, o’m hadnabyddiaeth o’r Swyddog hwn, iddo gymryd pob cam posibl, yn gyntaf i ddinistrio’r gelyn, ac yn ail i sicrhau diogelwch ei long, a, beth bynnag oedd amgylchiadau’r gwrthdaro, na ellir priodoli unrhyw fai iddo ef. Roedd yn nodedig am ei reolaeth arbennig ar un o’n llongau danfor mwyaf ac mae ei golli ef a’i ddynion, a wnaeth waith ardderchog yn y dyfroedd hyn, yn golled drom i’r Gwasanaeth. Er mawr ofid i ni, cafodd yr Is-swyddog E W F Childs, o Long Danfor AL2 Llynges yr Unol Daleithiau, ei golli hefyd.
O ran yr SS RUTHERGLEN, awgrymir na ddylid ei hysbysu bod y llong danfor a gafodd ei tharo ganddi yn un Brydeinig ond dylai dderbyn y wobr arferol am suddo’r gelyn, oherwydd bod yn rhaid i lwyddiant yr ymgyrch ddibynnu i raddau helaeth ar weithredu cyflym gan unrhyw long fasnach sy’n darganfod ei bod mewn sefyllfa ffafriol i ymosod ar long danfor. Nid ystyrir ei bod hi’n ymarferol cael trefn sy’n galluogi llongau masnach a llongau tanfor y cynghreiriaid adnabod ei gilydd, a gall y risg y bydd damweiniau o’r fath yn digwydd ar noson dywyll, er mor ofnadwy ydyw, gael ei dderbyn fel risg angenrheidiol ar adeg rhyfel.’
Roedd yr H5 yn un o ddosbarth o longau tanfor a adeiladwyd gan y Bethlehem Steel Works, UDA, i’r Llynges Frenhinol. Yr Is-gapten Cromwell Hanford Varley a benodwyd yn gomander cyntaf y llong danfor yn Harwich ar 16 Mai 1916. O fis Mai 1917, roedd yr H5 yn un o lynges fach o longau tanfor a oedd wedi’u lleoli yn Berehaven ym Mae Bantry ac yn Killybegs, Iwerddon, gydag HMS VULCAN ac HMS PLATYPUS. Eu tasg oedd darganfod llongau tanfor yr Almaen a oedd yn gweithredu o amgylch arfordir Iwerddon ac yn y dynesfeydd Gorllewinol. Ym mis Ionawr 1918, dociodd yr USS BUSHELL yn Berehaven gyda saith llong danfor ddosbarth AL yn perthyn i Lynges yr Unol Daleithiau. Roedd y gyd-ymgyrch, y rhoddwyd y ffugenw ‘GF’ iddo, mor gyfrinachol fel na ddywedwyd wrth y llongau hebrwng confois a llongau masnach fod llongau tanfor Prydeinig ac Americanaidd yn gweithredu yn yr ardal. Dewiswyd swyddogion o’r llongau tanfor Americanaidd newydd i fynd ar fwrdd y llongau tanfor Prydeinig a oedd yn ymgymryd â phatrolau ‘GF’. Ar 25 Chwefror 1918, nododd yr Is-swyddog Earle Childs yn ei ddyddiadur iddo fod ar fwrdd yr HMS VULCAN i gyfarfod â chapten yr H5. Erbyn hynny, roedd criw y llong danfor yn cynnwys 5 dyn a oedd wedi ennill DSM ac roedd y comander, yr Is-gapten A W Forbes, yn dal DSO.
Ar 26 Chwefror 1918, hwyliodd yr H5 gyda’i chriw profiadol a’r Is-swyddog Childs ar ei bwrdd o Berehaven i fynd ar batrôl ym Môr Iwerddon ar hyd y llinell yn ymestyn 10 milltir i’r dwyrain o Oleulong Bae Caernarfon, ar hyd lledred 53 06G rhwng hydred 4 30Gn a 4 50Gn. Roedd disgwyl iddi ddychwelyd i’r porthladd erbyn 0900 awr ar 2 Mawrth. Byddai’r RUTHERGLEN ei hun yn cael ei suddo gan long danfor ym Môr y Canoldir ym mis Gorffennaf 1918.
Coffeir criw’r H5 ar banel 29 yn Amgueddfa Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol, ac ar Gofebau Llyngesol Chatham, Plymouth a Portsmouth. Coffeir Earle Childs ym Mynwent Americanaidd Brookwood.
HMS H5 (Ffynhonnell: Shears, Andy; Waterman, Scott. Anglesey Wrecks and Reefs, Volume One. A Practical Guide to Diving the Wreck and Reefs of the Anglesey Coastline. Shearwater Publications. 2002. t.44)

Darllen pellach:
- Evans A. S. 1986, Beneath the Waves: A History of HM Submarine Losses, 1904-1971. William Kimber & Co. Limited, London, tt.114-115
- Terraine, John, 1989, Business in Great Wates. The U-Boat Wars 1916-1945. Leo Cooper Ltd, London, t.116
Gan Geoffrey Hicking a Deanna Groom.
Partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook a defnyddiwch @LlongauUBoat
Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.