Post Tagged with: "Rhyfel Byd Cyntaf"

Animeiddiad : Carcharorion Almaenig mewn ymgais feiddgar i ddianc o’r Gogarth, Llandudno

Mae’r ffilm fer hon, nawr ar Cagliad y Werin Cymru, wedi’i greu gan Ganolfan Ddiwylliant Conwy a TAPE Community and Film fel rhan o brosiect er mwyn ‘Coffau’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn y Llongau U, 1914-1918’, yn adrodd hanes cyffrous tri charcharorion Almaenig a geisiodd ddianc oddi ar y Gogarth, L...

HMS SAXIFRAGE a Suddo’r ORONSA a’r DAMÃO

Fel llong-Q, gwaith HMS SAXIFRAGE yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd hela llongau-U, a byddai hi’n aml yn arwain confois a’u gwarchod rhag llongau tanfor y gelyn. Ar y 26ain o Ebrill 1918 fe gafodd y dasg o hebrwng confoi i Lerpwl. HMS SAXIFRAGE ym 1918. Gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth Forwrol SAXIFRAGE; © Yr Amgueddfa R...

Popeth yn Dawel ar y Ffrynt Gorllewinol: Gweithrediadau milwrol wedi’r Cadoediad oddi ar arfordir Cymru

HMS Audacious yn suddo ar 27 Hydref 1914. Llwyddiant mawr i ffrwydron môr yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffotograff Q 48342 yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM). Gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918 daeth yr ymladd i raddau helaeth i ben, yn enwedig ar y Ffrynt Gorllewinol. Sut bynnag, byddai gweithrediada...

Cofio’r RMS LEINSTER (a’r MEXICO CITY) – 10 Hydref 1918

Mae hanes suddo’r LEINSTER gan dorpido yn adnabyddus iawn gan i’r weithred honno arwain at y golled fwyaf o ran bywydau ym Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae canmlwyddiant y suddo’n cael ei goffáu heddiw gan Amgueddfa Arforol Caergybi mewn seremoni arbennig a fynychir gan ddisgynyddion y criw a’r teithw...

Siapan a Sir Benfro – yr HIRANO MARU

HIRANO MARU – Ffynhonnell: David James, Cymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru.   Ar 4 Hydref 1918 roedd yr HIRANO MARU, llong fasnach a oedd yn eiddo i Gwmni Llongau Nippon Yusen Kaisha, yn hwylio o Lerpwl i Yokohama heibio i Dde Affrica gyda 320 o griw a theithwyr ar ei bwrdd. Ei chapten oedd Hector ...

Cofio’r USS TAMPA a suddwyd ar 26 Medi 1918

Staff Gwylwyr y Glannau’r UD gyda chynrychiolwyr yr eglwys, David James o Gymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru, a Simon Thomas o’r Genhadaeth i Forwyr, Aberdaugleddyf.   Ar 23 Medi 2018, yn ystod gwasanaeth y Sul yn eglwys Sant Tyfei a Santes Faith, Llandyfái, cyflwynodd cynrychiolwyr Gwylwyr y Glan...

Cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18: Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr

  Lleoliad: Neuadd Pater, Noc Penfro.   Mae’n bleser gan dîm y Prosiect Llongau-U eich gwahodd i’n cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18 dau-ddiwrnod: ‘Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr’ a gynhelir yn Neuadd Pater, Noc Penfro ar 3 a 4 Tachwedd 2018. Ymunwch â ni i ddysgu ...

‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig

Cafodd y VANDALIA ei tharo gan dorpido a’i suddo gan y llong danfor Almaenig U-96 ar 9 Mehefin 1918 tua 18 milltir i’r gorllewin-ogledd-orllewin o’r Smalls. Ar y pryd roedd yn eiddo i’r cwmni llongau enwog Cunard Steamship Co Ltd o Lerpwl. Roedd y VANDALIA yn un o 20 llong o eiddo’r cwmni a suddwyd gan y gely...

Coffáu Profiad Cymru O’r Rhyfel Mawr Ar Y Môr

3-4 Tachwedd 2018 Neuadd Pater, Lewis Street, Doc Penfro, SA72 6DD Bydd y gynhadledd ddau ddiwrnod hon yn edrych ar brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi syl...

100 mlynedd yn ôl – suddwyd yr agerlong yr SS Boscastle ar 7 Ebrill 1918 gan yr U-111

Adeiladwyd yr SS Boscastle yn West Hartlepool i E. Jenkins a’i Gwmni, Caerdydd. Dyma’r disgrifiad ohoni adeg ei lansio ym 1912: “Length over all, 309ft.; breadth, 44ft. 9in.; and depth, 32ft. 1 in., with long bridge, poop, and top-gallant forecastle. The saloon, staterooms, captain’s, officers, and engine...