‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig
Cafodd y VANDALIA ei tharo gan dorpido a’i suddo gan y llong danfor Almaenig U-96 ar 9 Mehefin 1918 tua 18 milltir i’r gorllewin-ogledd-orllewin o’r Smalls. Ar y pryd roedd yn eiddo i’r cwmni llongau enwog Cunard Steamship Co Ltd o Lerpwl. Roedd y VANDALIA yn un o 20 llong o eiddo’r cwmni a suddwyd gan y gely...