‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig

  • Home 2
  • ‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig

‘Yn haeddu’r Groes Haearn’ – Teyrnged i gyn-Gapten y VANDALIA gan Danforwyr Almaenig

Category: Newyddion

Cafodd y VANDALIA ei tharo gan dorpido a’i suddo gan y llong danfor Almaenig U-96 ar 9 Mehefin 1918 tua 18 milltir i’r gorllewin-ogledd-orllewin o’r Smalls. Ar y pryd roedd yn eiddo i’r cwmni llongau enwog Cunard Steamship Co Ltd o Lerpwl. Roedd y VANDALIA yn un o 20 llong o eiddo’r cwmni a suddwyd gan y gelyn, gan gynnwys ei fanerlong, y LUSITANIA, ar 7 Mai 1915. Collodd 1198 o bobl ar fwrdd y LUSITANIA eu bywydau.

O dan enw gwreiddiol y llong, ANGLO-CALIFORNIAN, roedd y VANDALIA wedi dod wyneb yn wyneb â llong danfor arall, yr U-39, ar 4 Gorffennaf 1915. Roedd ar ei ffordd o Quebec i Avonmouth gyda llwyth o 927 o bynfeirch ar gyfer y Ffrynt Gorllewinol pan welodd y llong danfor ar yr wyneb. Rhoddodd y capten, Frederick Parslow, orchymyn i anfon signal SOS a atebwyd ar unwaith gan long ryfel Brydeinig. Rhoddodd hyn obaith i Parslow fod help wrth law a pharhaodd i hwylio ar ei chyflymder uchaf er mwyn ceisio dianc rhag y llong danfor.

Aeth y llong danfor ar ei hôl hi am hanner awr gan nesáu drwy’r adeg ac yna, am yr awr a hanner nesaf, bu’n tanio ar yr ANGLO-CALIFORNIAN wrth iddi lywio cwrs igam-ogam. Nid oedd gan y llong Brydeinig unrhyw arfau a chafodd ei tharo’n aml.

Yn y diwedd fe benderfynodd Capten Parslow ufuddhau i signal y llong-U i adael y llong ac achub bywydau. Caewyd peiriannau’r llong i lawr a gostyngwyd y badau achub. Rhoddodd y llong danfor y gorau i danio a daeth yn nes. Ar y foment honno, dechreuodd y llong arfog y PRINCESS ENA, a fuasai’n dal i fyny’n araf deg ar y llong danfor, danio arni ar bellter o 9,000 llath. Ond methodd â chyrraedd y targed a dechreuodd y llong danfor danio o bellter agos ar bont a chychod yr ANGLO-CALIFORNIAN.

Yn ystod yr ymosodiad olaf hwn, cafodd Capten Parslow ei ladd ar y bont. Gan gamu i mewn yn lle’r capten, rhoddodd y Prif Swyddog orchymyn eto i adael y llong. Aeth y criw i mewn i’r cychod a oedd ar ôl a dechreuwyd eu gostwng. Dyna pryd y cyrhaeddodd y distrywlongau y MENTOR a’r MIRANDA, a dihangodd yr U-39 ar frys.

Ymddangosodd y darlun hwn gan Charles Pears yn y New York Times Midweek Pictorial ar 12 Awst 1915. Mae’n dangos mab Capten Parslow yn parhau i lywio’r llong tra bo’r U-39 yn tanio arni. Frederick Parslow oedd enw’r mab hefyd. Derbyniodd yntau Fedal Gwasanaeth Rhagorol yn nes ymlaen. Ysywaeth, ef oedd capten yr Anglo-Australian ym mis Mawrth 1938 pan ddiflannodd yn llwyr ar ei ffordd o Gaerdydd i Vancouver.

(Ffynhonnell:  https://www.periodpaper.com/products/1915-rotogravure-wwi-charles-pears-anglo-californian-ship-captain-parslow-yny2-239168-yny2-042 )

 

Swyddogion eraill a ddangosodd ddewrder rhyfeddol oedd mab y capten (yr is-gapten) a oedd wedi aros gyda’i dad ar y bont drwy gydol y cyfan yn llywio’r llong. Roedd y telegraffydd hefyd wedi aros yn ei le, gan anfon a derbyn negeseuon. Bu milfeddyg (F Neal), a oedd yn gofalu am y ceffylau, yn rhoi cymorth i aelodau’r criw a gawsai eu hanafu yn ogystal ag i’r anifeiliaid.

Hwyliodd y llong i Queenstown, sef Cobh bellach, lle mae Frederick Parslow ac 8 o’i griw wedi’u claddu ym mynwent Old Church. Mae pedwar llongwr ar ddeg, nad oes ganddynt fedd, wedi’u henwi ar gofeb Tower Hill, Llundain i’r llynges fasnachol. Mae dynion o Brydain, Canada, America, Rwsia a’r Ffindir ymhlith y rhai a gollwyd.

I gydnabod dewrder Frederick Parslow, cafodd ei wneud yn Lefftenant yn y Llynges Frenhinol Wrth Gefn ym mis Mai 1919, ac o ganlyniad i hynny roedd modd dyfarnu Croes Fictoria iddo. Derbyniodd Parslow Fedal Lloyds hefyd. Yn ogystal, cafodd siec am £250 ei rhoi i’r ANGLO-CALIFORNIAN gan Lloyds i gydnabod ymddygiad gwrol y criw. Rhoddwyd Medal Gwasanaeth Rhagorol i James Crawford, y Prif Beiriannydd.

Adroddwyd yn ddiweddarach yn The Cambrian Leader, ar 5 Gorffennaf 1915, fod papur newydd y New York American wedi cyhoeddi erthygl lle dywedir bod criw’r U-39 yn cytuno y dylai capten yr ANGLO CALIFORNIAN fod wedi derbyn y Groes Haearn, medal Almaenig.

Gwerthwyd yr ANGLO-CALIFORNIAN wedyn i’r Cunard Steamship Co Ltd ym 1916 a newidiwyd ei enw i VANDALIA. Ar ôl hynny cafodd ei rheoli gan Lawther, Latta & Co o Lundain. Pan suddwyd y llong gan yr U-96 ym mis Mehefin 1918, ni chafodd neb ei ladd. Cymerodd ddwy awr i’r llong suddo ac felly fe gafodd y criw ddigon o amser i ddianc.

Ganwyd Frederick Daniel Parslow yn Islington, Llundain, ar 14 Ionawr 1856. Dilynodd ei dad i’r Llynges Fasnachol ac enillodd ei dystysgrif capten ym 1882. Fe’i penodwyd yn gapten yr ANGLO-CALIFORNIAN ym 1912.

 

 

Ymddangosodd yr hysbysiad bod Croes Fictoria wedi’i ddyfarnu i Frederick Parslow yn The London Gazette ar 23 Mai 1919. Dros y ddalen, mae’r hysbysiad yn gorffen gyda’r paragraph ‘Throughout the attack Lieutenant Parslow remained on the bridge, on which the enemy fire was concentrated, entirely without protection, and by his magnificent heroism succeeded, at the cost of his own life, in saving a valuable ship and cargo for the country. He set a splendid example to the officers and men of the Mercantile Marine.’

(Ffynhonnell: https://www.thegazette.co.uk/London/issue/31354/supplement/6445)

 

Mae ffynonellau’n cynnwys:

The Cambrian Daily Leader, 5 Gorffennaf 1915 (https://newspapers.library.wales/view/4099557/4099558/11/)

The Cambrian Daily Leader, 10 Awst 1915 (https://newspapers.library.wales/view/4099794/4099796/48/)

Herald of Wales and Monmouthshire Recorder, 10 Gorffennaf 1915 (https://newspapers.library.wales/view/4114716/4114720/64/)

South Wales Weekly Post, 11 Medi 1915 (https://newspapers.library.wales/view/4092557/4092565/165/)

 

Partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion CymruYsgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: LlongauU@cbhc.gov.uk

Neu dilyn â ni ar Facebook & Twitter o dan ein enw@llongauUboat.

Bydd gwefan ein Prosiect ar gael cyn bo hir – https://prosiectllongauu.cymru

Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar TwitterFacebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.

 

Geoffrey Hickling a Deanna Groom, CBHC