Wyneb masnachlongwr a gollwyd i’r môr
Mae Cofeb y Masnachlongwr ym Mae Caerdydd ar ffurf wyneb ynghwsg wedi’i asio â chorff llong. Cafodd ei gwneud drwy rybedu platiau o fetel wrth ei gilydd, a oedd yn dechneg draddodiadol yn y diwydiant adeiladu llongau haearn a dur cynnar. Cafodd y cerflunydd Brian Fell, yr oedd ei dad ei hun wedi bod yn fasnachlongwr...