Wyneb masnachlongwr a gollwyd i’r môr

  • Home 2
  • Wyneb masnachlongwr a gollwyd i’r môr

Wyneb masnachlongwr a gollwyd i’r môr

Category: Uncategorized @cy

Mae Cofeb y Masnachlongwr ym Mae Caerdydd ar ffurf wyneb ynghwsg wedi’i asio â chorff llong. Cafodd ei gwneud drwy rybedu platiau o fetel wrth ei gilydd, a oedd yn dechneg draddodiadol yn y diwydiant adeiladu llongau haearn a dur cynnar. Cafodd y cerflunydd Brian Fell, yr oedd ei dad ei hun wedi bod yn fasnachlongwr, ei gomisiynu i greu’r gwaith ym 1994 gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd, Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, Pwyllgor Cofeb y Llynges Fasnachol a Chyngor Sir Caerdydd.

Treuliodd Bill Henke MBE (sylfaenydd Cymdeithas Llynges Fasnachol Cymru) flynyddoedd yn codi arian i adeiladu’r gofeb. Mae plac sy’n cydnabod ei waith i’w weld ger y gofeb y tu allan i’r mosaig crwn. Mae’r geiriau yn y cylch o amgylch y mosaig yn darllen:

IN MEMORY OF THE MERCHANT SEAFARERS FROM THE PORTS OF BARRY PENARTH CARDIFF WHO DIED IN TIMES OF WAR

Bob mis Mai, bydd Cymdeithas Llynges Fasnachol Cymru’n trefnu gwasanaeth coffa i nodi pen-blwydd dadorchuddio’r Gofeb hon. Eleni fe gynhelir y gwasanaeth ger y Gofeb (ym Mae Caerdydd) ar 25 Mai 2019 am 11 y bore. Gwasanaeth aml-ffydd fydd hwn er mwyn adlewyrchu’r aberth a wnaed gan forwyr o bob cenedl a cheir darlleniadau o’r Tanakh, y Beibl, a’r Koran.

Bydd y rheiny sy’n mynychu’r gwasanaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau cyn-filwyr, y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Genhadaeth i Forwyr, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, y Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Morwrol, Cymdeithasau Llynges Fasnach Abertawe a Chasnewydd, y Cadetiaid Môr, y Llynges Frenhinol Wrth Gefn, cwmnïau llongau lleol, a’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau.

Fel rhan o’n prosiect, buom yn edrych ar y rhan a chwaraewyd gan longau masnach a’u criwiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cofeb y Masnachlongwr, Bae Caerdydd, dyluniwyd gan y cerflunydd Brian Fell. Ffynhonnell: CBHC

Llongau masnach – cyflenwadau hanfodol

Chwaraeodd porthladdoedd De Cymru ran hanfodol yn yr ymgyrch i gyflenwi glo o lofeydd Cymru i longau’r byd, yn enwedig llongau rhyfel y Morlys. Dibynnai’r cynghreiriaid ar longau masnach i gludo milwyr, bwyd, arfau, defnyddiau crai a chyfarpar. Yr oedd llwybrau môr pwysig ar hyd arfordir Penfro i Fôr Iwerydd, ac o amgylch Ynys Môn yn y Gogledd i borthladd Lerpwl. Byddai’r llongau-U yn targedu llongau o fewn y llwybrau hyn, gan ddefnyddio torpidos a ffrwydron môr i’w suddo. Cafodd mwy na 150 o longau eu suddo oddi ar arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a gallwch ddysgu mwy am y llongau hyn ar wefan y prosiect drwy ein map ar-lein.

Y Criwiau

Roedd y criwiau a fu’n gwasanaethu ar fwrdd llongau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn amrywio’n fawr – o ddynion lleol ar gychod pysgota bach i’r criwiau o 200 a mwy ar y teithlongau anferth a oedd yn dod o ryw ddwsin o wahanol wledydd. Roedd y criwiau’n cynnwys menywod a wasanaethai fel nyrsys a stiwardesau a gweision caban mor ifanc â 14 oed.

Cymry a oedd wedi dysgu eu crefft wrth weithio ar longau hwylio cyn y rhyfel oedd llawer o Gapteiniaid, Is-gapteiniaid, seiri a pheirianwyr y llongau hyn. Roedd eraill yn dod o’r trefedigaethau ac wedi ymsefydlu ym mhorthladdoedd Cymru.

Mae enwau’r llongwyr a fu farw ar y môr wedi’u cofnodi ar gofebau mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, ond nid oes gan y mwyafrif ohonynt unrhyw fedd ond y môr. Dyna pam mae gan y gofeb hon, sydd wedi’i chysegru i longwyr masnach o’r ddau Ryfel Byd, arwyddocâd arbennig iawn.

 

Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar TwitterFacebook ac Instagram