Y lle cyntaf i chwilio am long yw adran Rhyfel Byd Cyntaf gwefan sy’n ymdrin yn benodol â rhyfeloedd llongau-U y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, sef Uboat.Net. Mae ymchwil helaeth i filoedd o longau wedi’i gofnodi ar y wefan hon. Os gwyddoch enw’r llong rydych chi’n dymuno ymchwilio iddi, teipiwch ef yn y bar chwilio. Bydd hyn yn agor tudalen sy’n dangos lleoliad y suddo a chysylltau i fwy o wybodaeth. Cliciwch ar enw’r llong i fynd i’r dudalen ar y wefan sy’n ymdrin â hi. Yn achos y CAMBANK, cawn wybod ei bod hi’n agerlong a oedd yn pwyso 3112 tunnell ac iddi gael ei hadeiladu yn South Shields i’r Merevale Shipping Company Ltd o Gaerdydd. Mae hefyd yn nodi pryd a ble y cafodd ei suddo, gan ba long-U, y porthladdoedd yr oedd hi’n teithio ohonynt ac iddynt, y cargo ar ei bwrdd, a nifer y bywydau a gollwyd.
O’r fan hyn gallwch chwilio am y CAMBANK ar wrecksite.eu i gael mwy o wybodaeth ddiddorol, megis rhif swyddogol y llong (IMO/Off). Yn achos y CAMBANK, rydym wedi darganfod mai 110097 oedd ei rhif, a bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol wrth wneud chwiliadau pellach.
Ar y dudalen llongddrylliad ar gyfer y CAMBANK fe welwch ffotograffau perthnasol, adroddiad ar y suddo, a gwybodaeth a gasglwyd gan ddeifwyr. Mae yma wybodaeth hefyd am y rheiny a fu farw, wedi’i darparu gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Mae’n nodi mai enw gwreiddiol y CAMBANK oedd y RAITHMOOR. Byddai llongau’n newid enwau’n aml ond yn cadw’r un rhif swyddogol. Mae’n ymddangos bod y RAITHMOOR yn eiddo i Walter Runciman & Company ac iddi gael ei gwerthu i’r Merevale Shipping Company yng Nghaerdydd ym 1913 pan gafodd ei hailenwi. Gallwch chwilio am y CAMBANK yng nghatalog ar-lein y Comisiwn Brenhinol, Coflein, hefyd. Mae cofnod yno ar gyfer y llong fel safle llongddrylliad. Cewch fwy o wybodaeth yma am y llong, gan gynnwys pryd a ble y cafodd ei hadeiladu, ei dimensiynau, a’i manyleb dechnegol. Rhoddir rhestr o ffynonellau ychwanegol yn ogystal.
Oddi yma gallwch fynd i’r cronfeydd data CLIP a theipio rhif y llong. Bydd hyn yn rhoi cyswllt i chi i’r rhestr lawn o gytundebau criw ar gyfer y CAMBANK – bob blwyddyn o 1899 hyd 1915. Mae rhestr griw 1915 ar gael ar wefan Yr Archifau Cenedlaethol. O ran y blynyddoedd eraill, bydd yn rhaid i chi eu harchebu o’r wefan CLIP lle gallwch lawrlwytho sganiau o’r rhestri gwreiddiol am dâl bach.
Gellir cael rhestr griw 1915 ar gyfer y CAMBANK ar wefan Yr Archifau Cenedlaethol.
Mae’n werth chwilio yn archifau lleol y man lle cafodd y llong ei chofrestru. Yn achos y CAMBANK, gwyddom iddi gael ei chofrestru yng Nghaerdydd, felly’r lle i edrych yw Archifau Morgannwg. Os chwiliwch eu catalog ar-lein, dewch o hyd i dair rhestr griw ar gyfer y flwyddyn 1913.
I ddarganfod mwy am y cwmni a oedd yn berchen ar y CAMBANK, y Merevale Shipping Company o Gaerdydd, chwiliwch gatalog yr archifdy lleol, sef Archifau Morgannwg yn yr achos hwn. Bydd y chwiliad yn dod o hyd i gytundebau criw a llyfrau log ar gyfer tair llong arall a oedd yn eiddo i’r cwmni, pob un ohonynt yn dechrau gyda’r rhagddodiad ‘Cam’ – y CAMROSE, y CAMWELL a’r CAMDALE – sy’n mynd yn ôl i’r cyfnod cyn y rhyfel. Os chwiliwch am Merevale Shipping yng nghatalog ar-lein The National Archives, fe welwch i’r cwmni gael ei gorffori ym 1904 a’i ddiddymu cyn 1916. Mewn erthygl yn y Barry Dock News, dyddiedig Gorffennaf 1915, nodir mai ‘well-known pitwood importer’ yw un o’r cyfarwyddwyr, Mr T P Thomas. Mae hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am fusnes y cwmni, cyn y rhyfel o bosibl.
I ddod o hyd i ffotograff o’r llong cyn iddi gael ei suddo gallwch chwilio delweddau Google – nid oedd dim yno ar gyfer y CAMBANK, felly’r cam nesaf oedd chwilio casgliadau ar-lein Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys delweddau o fwy na 5000 o agerlongau. Nid yw ei ffotograff o’r CAMBANK wedi’i ddigido, felly roedd angen cysylltu â’r gwasanaeth ymholiadau i ofyn am gopi wedi’i ddigido o’r llun.
Y SS CAMBANK ar y môr oddi ar Gaerdydd, tua 1910. © Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Gallwch yn awr chwilio am unrhyw adroddiadau ym mhapurau newydd Cymru am y CAMBANK.
Os chwiliwch Papurau Newydd Cymru Arlein fe ddewch o hyd i sawl adroddiad am y suddo. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys disgrifiadau hir gan y criw a oroesodd sy’n ychwanegu manylion diddorol at y ffeithiau a ffigurau moel. Er enghraifft, roedd hi’n cludo llwyth o far copr gwerth £60-70,000 a oedd ar ei ffordd i Waith Rio-Tinto, ac roedd pobl Amlwch yn hynod o garedig wrthynt.
Pennawd o’r Western Mail, 24 Chwefror 1915.
Gan fod y CAMBANK yn un o’r llongddrylliadau y gwnaethom arolwg ohono fel rhan o’r prosiect llongau-U, mae ffrwyth yr ymchwil i’w gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru, gan gynnwys y rhestr griw sy’n rhoi manylion y rheiny a oedd ar ei bwrdd pan gafodd ei suddo. Fel rhan o’r prosiect, mae grŵp cymunedol yng Nghaerdydd, Tiger Bay and the World, wedi casglu gwybodaeth am longau Caerdydd o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys Archifau Morgannwg, ac wedi’i rhoi ar eu gwefan.
Mae’r delweddau o longddrylliad y CAMBANK sy’n deillio o’n harolwg i’w gweld ar wefan y prosiect hefyd. Mae’r wefan yn gartref i animeiddiadau ailgreu a lluniau o 17 o’r 168 llongddrylliad o’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd yn nyfroedd Cymru.
Mae llongddrylliad yr SS CAMBANK yn cael ei ddangos yma, yn gorwedd o hyd lle cafodd ei suddo oddi ar Drwyn Eilian. Delwedd arolwg a gynhyrchwyd yn 2017 gan Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor.