Single Project

CAMBANK

CAMBANK
ENW LLONG: CAMBANK
LLEOLIAD: -4.17, 53.45

Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r CAMBANK ydy’r llongddrylliad hwn.

Y CAMBANK, agerlong wedi’i chofrestru yng Nghaerdydd, oedd y llong gyntaf i gael ei suddo yn nyfroedd Cymru gan long danfor o’r Almaen yn y Rhyfel Mawr 1914-18. Aeth i lawr oddi ar Ynys Môn ar 20 Chwefror 1915 a chollwyd pedwar o fywydau.

Ym mis Chwefror 1915, roedd y CAMBANK ar ei ffordd o Huelva (Sbaen) i Garston (Lerpwl) gyda chargo gwerthfawr o gopr.

Am 11 y bore ar 20 Chwefror 1915, cafodd y CAMBANK ei tharo’n ddirybudd gan dorpido, wedi’i danio gan yr U 30, ddeng milltir oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn. Ffrwydrodd y torpido yng nghanol y llong a suddodd mewn 20 munud. Rhoddodd y capten orchymyn i ollwng y badau, a chafodd 21 o’r 25 o forwyr ar fwrdd y llong eu hachub. Cafodd tri o’r criw yn ystafell yr injan eu lladd ar unwaith gan y ffrwydrad a boddodd morwr arall wrth geisio neidio o’r llong i’r bad. Cafodd y ffrwydrad ei weld a’i glywed ar y lan, a lansiwyd y bad achub lleol ym Mhorth Llechog i helpu i ddod â’r goroeswyr i Borth Amlwch yn ddiogel. Yna cawsant eu rhoi ar drenau i fynd â nhw adref.

Roedd 11 ohonynt yn dod o Gaerdydd ac roedd eu teuluoedd yn synnu eu gweld pan ddaethant adref. Cawsant eu holi gan y Western Mail a gyhoeddodd ddisgrifiadau gafaelgar o’u profiadau. Roedd llongau eraill yn y cyffiniau adeg yr ymosodiad ar y CAMBANK, ond gadawyd llonydd i’r rhain. Roedd pobl yn amau bod ysbïwyr Almaenig yn Huelva wedi sylwi ar y cargo gwerthfawr yn cael ei lwytho ac i’r llong-U gael gorchymyn i ymosod yn benodol ar y CAMBANK.

Y pedwar llongwr a gollodd eu bywydau oedd: Joseph William Boyle, 30 oed, trydydd peiriannydd o Runcorn; Michael Lynch, 30 oed, taniwr a thrimiwr o Swydd Down; Robert Quigley, 34 oed, ‘donkeyman’ o Blackburn; a Charles Sinclair, 36 oed, taniwr a thrimiwr o Elgin.

Enw gwreiddiol y CAMBANK oedd y RAITHMOOR. Cafodd ei hadeiladu gan John Readhead & Sons, South Shields ym 1899 i’r cwmni llongau W J Runciman & Son. Cafodd ei gwerthu i’r Merevale Shipping Company, Caerdydd, ym 1913, a newidiwyd enw’r llong i’r CAMBANK i gyd-fynd â thraddodiad enwi’r cwmni hwnnw.

Y Capten Thomas Richard Prescott 

‘Pam welsom berisgop y llong danfor gyntaf roedd tua 250 o lathenni i ffwrdd. Wrth iddi godi, fe daniodd dorpido. Ymdrechais i droi’r llong er mwyn osgoi’r torpido ond methais. Rhaid bod y llong danfor yn ein disgwyl gan nad oedd unrhyw obaith gennym. Cafodd y llong ei tharo yn ei chanol a suddodd mewn rhyw chwarter awr. Holltodd yn ddwy ac roedd y starn a’r blaen yn gogwyddo wrth iddi suddo.’

Aeth ymlaen i ddweud, ‘Roeddwn i wedi cael rhybudd bod llongau tanfor gelyniaethus yn y cyffiniau ac roeddwn i wedi cael y bad starbord yn barod. Oni bai am hynny, ni fyddai’r un ohonom ni wedi cael ei achub.’

Arthur Victor James, Prif Swyddog

Roedd yn cysgu yn ei gaban pan drawodd y torpido y llong. Pan neidiodd allan o’i fync roedd i fyny at ei wddf mewn dŵr a oedd yn troelli o’i gwmpas yn gyflym, gan ei fwrw’n ôl ac ymlaen a’i gleisio o’i gorun i’w sawdl. Gyda thrafferth fawr, llwyddodd i gyrraedd y dec yn ei byjamas a rhuthrodd at y bad starbord a oedd yn siglo ar y camlathau. Dringodd cymaint o swyddogion a chriw ag oedd modd i mewn i’r bad achub hwn, torwyd rhaffau’r camlathau a disgynnodd y bad i’r môr. Llwyddodd y dynion i rwyfo’n glir o’r agerlong cyn iddi dorri’n ddwy a suddo.

Nododd Mr James y ffaith bod y CAMBANK yn cario llwyth o farrau copr gwerth £60-70,000 a oedd ar eu ffordd i Waith Rio-Tinto, ac awgrymodd fod yr Almaenwyr wedi cael gwybod am y cargo ac wedi ymosod ar y llong yn benodol.

Meddai Mr James am y croeso a gawsant ym Mhorth Amlwch, ‘Roedd y Cymry yn arbennig o garedig wrthym ni.’

Fred Conway. Ffynhonnell: British Merchants Seaman Cards.

Fred Conway, Prif Beiriannydd

Siaradodd yn flin am ymddygiad gwarthus yr Almaenwyr, ‘Llofruddiaeth oedd e. Fe wnaethon nhw danio torpido heb eiliad o rybudd.’

‘Roeddwn i yn ystafell yr injan ar y pryd, felly weles i mo’r torpido. Y cyfan rydw i’n ei gofio yw fflach a sŵn dychrynllyd ac yna fe ddaeth y dŵr yn llif o’m cwmpas. Fe ges i fy sgubo oddi ar fy nhraed, ond drwy weithio fy ffordd ar hyd y nenfwd gyda’m dwylo roeddwn i’n gallu cyrraedd y drws.’ Adroddir i Mr Conway ddweud, ‘Meddyliwch am y peth! Roedden ni’n hwylio yn ein blaen ar fore braf ar ôl taith ddiflas ac roedd popeth yn mynd yn dda o’r diwedd. Ddeg munud wedyn doedd ’na ddim byd ond malurion.’

Mynegodd ei gydymdeimlad dros y trydydd peiriannydd, Joe Boyle, a gawsai ei ladd yn syth gyda thaniwr a’r ‘donkeyman’, ‘Dim ond fe druan oedd gan ei fam. Roedd yn byw yn Garston ac ychydig o oriau’n unig o’i gartref.’

Charles Harold Blackmore cerdyn medal. Ffynhonnell: The National Archives, Kew. BT 351/1/11702.

Charles Harold Blackmore, Stiward yn yr Ystafell Fwyta

Cafodd ei deulu eu synnu’n fawr pan ddaeth adref. Nid oeddynt yn gwybod dim am yr ymosodiad. Dywedodd ei dad, ‘Roedd y creadur mewn cyflwr gwael ac roedd yn gwisgo trowsus oedd yn rhy fawr, cot oedd yn rhy fach, a phâr o esgidiau oedd ddau faint yn rhy hir i’w draed. Roedd e wedi cael yr holl bethau hyn gan bobl Amlwch. Roedd wedi colli popeth oedd ganddo.’

Dywedodd Mr Blackmore ei hun, ‘Cafodd y corn mwg ei chwythu i ffwrdd gan y ffrwydrad. Roeddwn i’n gorffen fy ngwaith ar y pryd ac roeddwn i’n methu agor y drws oherwydd y straen ar y llong. Os gweddïais erioed, dyna pryd y gwnes i, gan fod y llong yn ystumio a dim ond gydag ymdrech enfawr y llwyddais i wthio’r drws ar agor yn ddigon pell i allu mynd drwyddo. Roedd ager ofnadwy ymhob man ac roedd y dŵr hyd at fy ngwddf. Pan gyrhaeddais y dec roedd yn gogwyddo, a dim ond o drwch blewyn y llwyddais i neidio i’r bad achub yn y dŵr wrth ochr y llong. Neidiodd rhywun arall gyda mi, ond disgynnodd y dyn druan rhwng y llong a’r bad achub.’

Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw fwriad i fynd i’r môr eto ond y byddai’n ymuno â’r Fyddin er mwyn dial. (Aeth ymlaen i wasanaethu yn y ‘1st Herts’ o fis Rhagfyr 1915 hyd nes iddo gael ei ryddhau’n anrhydeddus ym mis Awst 1917 ar ôl cael ei glwyfo.)

Hector Turpin, Stiward

‘Digwyddodd yr ymosodiad tuag un ar ddeg o’r gloch. Gwaeddodd un o’r criw: ‘Mae ’na long danfor’ a bron ar unwaith fe gawsom ni ein taro gan y torpido. Gallem ei weld yn dod tuag atom fel neidr. Roedd y ffrwydrad yn ofnadwy. Fe gyrhaeddodd tonnau mawr o ddŵr a thân hanner ffordd i fyny’r hwylbren.’

‘Roedd hi’n daith wael o’r dechrau i’r diwedd, dim byd ond tywydd garw ac anlwc. Dyma fy ail longddrylliad. Gobeithiaf y bydd hi’n amser hir cyn yr af i ar daith arall.’

Ffynonellau:

Ffotograffau: Cardiau Llongwyr Masnach Prydeinig, 1918-1921, TNA/BT350.

Rhestr griw ar gyfer y CAMBANK dyddiedig 28 Tachwedd 1914, cyrchwyd yn Crew List Index Project, a chafwyd o Maritime History Archive, Newfoundland.

Ymchwil gan Trevor Godbold, History & Heritage Exchange, Caerdydd, ar gyfer y Prosiect Llongau-U.