'In Memoriam' o’r Cambrian Daily Leader, 6 Rhagfyr 1917; a’r llyfr ‘Royal Naval Reserve’ ar gyfer Norman Lloyd Williams o Gaergybi.
Pan oedd anwyliaid i ffwrdd ar y môr gallai eu teuluoedd dreulio misoedd yn aros am newyddion, a phe bai’r gwaethaf yn digwydd a’u perthynas yn cael ei boddi, ni fyddai corff i’w gladdu yn aml iawn. Byddai’r straen o hawlio iawndal gan y cwmni llongau a phensiwn gan y llywodraeth, yn ogystal â’r tlodi a ddeuai yn sgil colli enillwr cyflog, hefyd yn cael effaith fawr ar deuluoedd a chymunedau.
Cafodd y prinder bwyd a dogni a achoswyd o ganlyniad i golli cymaint o longau masnach effaith ar gartrefi a busnesau lleol ar hyd a lled Cymru.
Anghofir am yr effeithiau tymor-hir yn aml. Roedd llawer o’r rheiny a oroesodd wedi cael eu hanafu neu eu trawmateiddio wrth wasanaethu ar y môr ac effeithiodd hyn ar eu gallu i ddod ag arian i mewn ar ôl y rhyfel. Mae’n debyg hefyd i effeithiau emosiynol y trawma gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Beryl Makkers a ffotograff o’i thad, John Freeman o Jamaica, a oedd yn llongwr yn y Rhyfel Mawr ac a ymgartrefodd yn Nhre-biwt.
Cafodd llongwyr du a llongwyr o leiafrifoedd ethnig mewn porthladdoedd fel Caerdydd a’r Barri ddylanwad mawr ar eu cymunedau, gan briodi menywod lleol a magu teuluoedd yn aml. Cafodd elfennau o’u diwylliant brodorol, megis bwyd a cherddoriaeth, eu cyflwyno ganddynt i’w cymunedau ac aethant ati i greu sefydliadau fel Clwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACS) yn Nhre-biwt, a gynhyrchodd sbortsmyn fel Joe Erskine a Billy Boston. Cafodd y terfysgoedd hil ym 1919, a’r tlodi a achoswyd gan ddiweithdra yn y dociau ar ôl y rhyfel, effeithiau hirbarhaol.
Un o’r agweddau pwysicaf ar y prosiect llongau-U yw gweithio gyda chymunedau i ddarganfod storïau lleol o bob rhan o Gymru nad yw llawer o bobl yn gwybod amdanynt. Mae unigolion wedi dod atom gyda ffotograffau, llythyrau, dogfennau a gwybodaeth sydd wedi bod yn eu teuluoedd ers cenedlaethau. Mae’r trysorau hyn yn werthfawr iawn gan eu bod yn ychwanegu manylion a storïau dynol at y darlun ehangach o Gymru a’i rhan yn y Rhyfel ar y Môr. Credwn fod yna lawer mwy ohonynt yn aros i gael eu darganfod a’u rhannu.