Casgliad y Werin Cymru – Yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn bod gennym y wefan anfasnachol, ddi-dâl, ddwyieithog hon, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r nod o helpu pobl i rannu eu lluniau a’u storïau ar-lein. Pan ychwanegwch eich deunydd at y wefan, caiff ei storio’n ddiogel a bydd ar gael i’r cenedlaethau a ddaw. Cewch uwchlwytho ffotograffau, dogfennau a fideos, a chreu casgliadau a storïau gan ddefnyddio’ch eitemau eich hun ac eitemau eraill sydd ar y wefan.
Mae’r Prosiect Llongau-U a’r amgueddfeydd a grwpiau sy’n bartneriaid yn y fenter wedi uwchlwytho deunydd i wefan Casgliad y Werin Cymru sydd wedi cael ei gasglu yn ystod y prosiect a, gan fanteisio ar ddeunydd sydd eisoes ar y wefan, wedi creu casgliadau a storïau’n ymwneud â’r Rhyfel ar y Môr. Beth am ychwanegu’ch rhai chi?
Mae rhoi deunydd ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn hawdd. Os nad ydych wedi gwneud hyn o’r blaen, bydd angen i chi gofrestru yma yn y lle cyntaf drwy ddilyn y camau a ddangosir. Mae canllawiau i ddefnyddwyr yno i’ch helpu.
Dyma rai enghreifftiau o’r deunyddiau a roddwyd ar y wefan:
Wilfred Charles Powell, aelod o Wirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, a fu’n gwasanaethu fel gweithredwr weiarles ar fwrdd yr HMS Hambledon, llong ysgubo ffrwydron, a lansiwyd ym 1917. Fe ddaeth David K Powell â’r deunyddiau hyn i ddigwyddiad sioe ffordd a chawsant eu llwytho i fyny i wefan Casgliad y Werin Cymru gan Cymry'r Rhyfel Mawr / Welsh Voices of the Great War.
Defnyddiwch feddalwedd fel Microsoft Publisher i gyfuno’ch gwybodaeth a’ch delweddau mewn taflen hawdd ei darllen. Gallwch wedyn argraffu’r daflen a’i rhoi mewn llyfrgelloedd, ysgolion, amgueddfeydd, canolfannau croeso ac ati. Bydd hyn yn eich galluogi i rannu’ch gwybodaeth ag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd na fyddai’n dod o hyd iddi ar-lein.
Gall yr amrywiaeth o ddeunyddiau a gasglwch ac o eitemau a chrëwch gael eu harddangos gyda’i gilydd mewn llyfrgell, amgueddfa, neuadd gymunedol neu hyd yn oed siop wag. Mae gan lawer o bobl ddiddordeb mewn storïau lleol ac mae’n bosibl y bydd gweld deunydd hanesyddol yn beth newydd i rai.
Mae llawer o grwpiau’n chwilio am siaradwyr i roi sgyrsiau i’w haelodau, yn enwedig ar bynciau o ddiddordeb lleol. Mae sgwrs yn ffordd wych o rannu’r wybodaeth rydych wedi’i chasglu, ennyn diddordeb, a chasglu mwy o storïau gan y gynulleidfa. Defnyddiwch feddalwedd fel PowerPoint i roi sioe sleidiau wrth ei gilydd ac ysgrifennwch neu dysgwch sgript i fynd gyda hi. Cynigiwch eich sgwrs i grwpiau neu gymdeithasau lleol.
Mae celf yn ffordd wych o gyflwyno hanes. Dyma rai ymatebion creadigol gan wirfoddolwyr a grwpiau sydd wedi ymchwilio i agweddau ar y Rhyfel ar y Môr. Maen nhw’n enghreifftiau o’r hyn y gellir ei wneud gyda grŵp o bobl sydd wedi’u hysbrydoli gan stori, delwedd, neu ymweliad ag amgueddfa neu archifdy.