Mae Casgliad y Werin Cymru yn cynnwys deunydd y daeth y cyhoedd ag ef i sioeau ffordd a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru fel rhan o’r prosiectau Y Profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf a Cymry’r Rhyfel Mawr. Mae hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud â’r Rhyfel ar y Môr sydd wedi cael ei lwytho i fyny gan sefydliadau, grwpiau ac unigolion. Y wefan hon sy’n gartref i ddeunydd Prosiect Llongau-U Cymru. Gallwch fynd iddi i ychwanegu eich ffotograffau a’ch storïau eich hun.
Coflein yw cronfa ddata Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru o safleoedd Cymreig. Defnyddiwch y dudalen Chwiliad Safle i deipio enw llong a gollwyd yn nyfroedd Cymru.
Gwefan cymorth torfol sy’n caniatáu i chi uwchlwytho gwybodaeth a ffotograffau yw Cymru yn y Rhyfel. Mae ysgolion wedi defnyddio’r wefan hon yn sylfaen ar gyfer eu gweithgareddau Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan y wefan adran ar Rhyfel y Môr.
Sefydlwyd Prosiect Cymru 1914 i ddigido, ar raddfa fawr, ddeunyddiau gwreiddiol yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael eu cadw mewn llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifdai yng Nghymru.
Mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn gartref i gopïau wedi’u digido o fwy na 120 o bapurau newydd Cymreig a oedd yn cael eu cyhoeddi yn ystod cyfnod y rhyfel. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am longau a suddwyd, ysgrifau coffa i longwyr a llongwragedd a fu farw, adroddiadau am ddigwyddiadau a effeithiodd ar gymunedau, a ffotograffau a cherddi
Gallwch ddefnyddio Cardiff Mariners a Swansea Mariners i gyrchu cronfeydd data o longwyr a chofrestri o longau o Gaerdydd ac Abertawe. Mae llawer o’r wybodaeth yn ymwneud â chyfnodau cynharach, ond mae peth gwybodaeth am gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac os ydych chi’n chwilio am hanes teuluoedd â thraddodiad morwrol mae hon yn wefan ddefnyddiol. Mae llawer o ddeunydd arall yma hefyd, er enghraifft, ffotograffau o longau a phorthladdoedd.
Cronfa ddata ar-lein yw Morwyr Cymru / Welsh Mariners sy’n rhoi manylion mwy na 23,500 o Longwyr Masnach, yn gapteiniaid, is-gapteiniaid a pheirianwyr. Mae’r wefan yn ymdrin â chyfnod cynharach na’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond gall fod yn ddefnyddiol os ydych am ddarganfod mwy am deuluoedd â hanes morwrol.
Gwefan lle cewch wybodaeth am bob agwedd ar Benrhyn Llŷn a’r môr yw Rhiw.com. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am longau a llongwyr lleol o gyfnod y rhyfel.
Mae cronfeydd data Amlwch Data yn ymdrin â llongwyr o Amlwch, y llongau y buont yn hwylio arnynt, a’r hyn a ddigwyddodd iddynt. Mae’r wybodaeth yn cwmpasu cyfnod y rhyfel ac yn cynnwys deunydd arall megis ffotograffau.
Mae gan The Heritage and Cultural Exchange – Tiger Bay & the World gronfa ddata chwiliadwy o wybodaeth am longau Caerdydd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau o gymuned Tre-biwt yn ystod y degawdau diwethaf.[/
Mae cyfoeth o drawsgrifiadau a sganiau o ddogfennau gwreiddiol ar wefan Find My Past, gan gynnwys llawer o setiau o gofnodion wedi’u digido o gasgliadau’r Archifau Cenedlaethol ac archifdai lleol, er enghraifft, cofnodion gwasanaeth y Llynges Frenhinol a’r llynges fasnachol, cofnodion marwolaeth ar y môr, cofnodion bedyddio, priodi a chladdu, a chyfrifiadau (yn enwedig cyfrifiad 1911) sy’n rhoi manylion unigolion a’u teuluoedd a ble roeddynt yn byw ychydig cyn y rhyfel.
Mae llyfrgelloedd ac archifdai lleol yng Nghymru yn tanysgrifio i’r rhain, felly gallwch weld y cofnodion am ddim yn y mannau hyn. Os ydych chi’n defnyddio’r wefan gartref, byddwch yn gallu gwneud chwiliadau ond bydd angen i chi dalu i weld y cofnodion eu hunain.
Gallwch gyrchu cronfa ddata o’r rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy fynd i wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Gallwch fireinio chwiliad ar y gronfa ddata hon yn ôl gwasanaeth, rheng, llong, a man geni. Mae’n nodi ble mai’r unigolyn yn cael ei goffáu ac yn rhoi manylion y bedd os yw wedi’i gladdu.
Gwefan sy’n ymdrin yn benodol â llongau-U y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yw Uboat.Net. Mae ffrwyth ymchwil helaeth i filoedd o longau a llongau-U wedi’i gynnwys yma. I ddod o hyd i wybodaeth am long, rhowch ei henw yn y bar chwilio yn y cyswllt. Bydd hyn yn agor tudalen sy’n dangos lleoliad y llong pan gafodd ei suddo ac yn cynnig cysylltau i fwy o wybodaeth.
Wreck Site yw’r gronfa ddata ar-lein fwyaf yn y byd sy’n ymdrin â llongddrylliadau. Mae’n cynnwys gwybodaeth dechnegol am y llongau, yn ogystal â lluniau, adroddiadau deifwyr, a manylion y rhai a gollwyd mewn llawer achos.
Wici sy’n canolbwyntio ar hanes y llynges rhwng 1880 a 1920 yw’r Dreadnought Project. Mae gan y wefan erthyglau am 8300 o longwyr a 5000 o longau, gan gynnwys cynlluniau llongau. Mae cyfres o efelychiadau 3D wedi’u cynhyrchu ac mae ganddi dudalen adnoddau dda.
Gwefan gynhwysfawr gydag adran ar y Rhyfel Byd Cyntaf yw Naval-History.Net. Ewch yma i gael gwybodaeth fanwl am hanes y Rhyfel ar y Môr, o ffynonellau gwreiddiol yn aml. Mae yna adrannau ar y Llynges Frenhinol, y gwasanaeth masnachol, a’r rhyfel yn erbyn y llongau-U, ac mae’n cynnwys rhestri medalau hefyd.
Pastscape yw cronfa ddata ar-lein Historic England o safleoedd yn Lloegr. Mae’r chwiliad uwch yn caniatáu i chi chwilio am ‘WRECK’ o’r ‘FIRST WORLD WAR’ a fydd yn ildio mwy na 3000 o ganlyniadau.
Mae yna gysylltau ar wefan y Royal Museums Greenwich i’r wybodaeth am longau a chriwiau’r gwasanaeth masnachol a’r Llynges Frenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael ei chadw yn Llyfrgell ac Archif Caird yn Amgueddfa Forwrol Greenwich.[/
Y Llynges Frenhinol (RN). Gweler y canllawiau ar commissioned officers, warrant officers a ratings up to 1928 and 1928 onwards.
Y Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR) – llongwyr proffesiynol a fu’n gwasanaethu gyda’r Llynges Fasnachol ac y gellid galw arnynt i wasanaethu pe bai rhyfel yn torri allan. Gweler canllaw The National Archives.
Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol (RNVR) – dinasyddion preifat a oedd wedi gwirfoddoli i hyfforddi mewn canolfannau ar y tir ac yna ar y môr, y gellid galw arnynt i wasanaethu pe bai rhyfel yn torri allan. Byddai’r rhan fwyaf o’r swyddogion a gâi eu recriwtio adeg rhyfel yn cael comisiwn dros dro yn yr RNVR. Gweler canllaw The National Archives.
Byrfoddau yng nghofnodion llongwyr masnach. Gweler canllaw The National Archives i’r byrfoddau a gâi eu defnyddio yng nghofnodion llongwyr.
Lives of the First World War, gwefan wedi’i chreu gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (mewn partneriaeth â Find My Past) sy’n gofeb ddigidol barhaol i’r bobl a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n cynnwys enwau bron wyth miliwn o ddynion a menywod. Mae angen i’r cyhoedd roi cnawd ar esgyrn yr hanesion bywyd hyn drwy ychwanegu delweddau, storïau a ffeithiau. Bydd y wefan yn aros yn fyw hyd 18 Mawrth 2019 ac yna fe fydd ar gael yn barhaol fel adnodd ar-lein.
Sefydlwyd y prosiect Jutland Crew Lists i greu cronfeydd data chwiliadwy, gyda chymorth gwirfoddolwyr, o’r rheiny a fu’n gwasanaethu ar longau a gymerodd ran ym Mrwydr Jutland ym mis Mai 1916. Mae cofnodion gwreiddiol mewn llawysgrifen yn The National Archives yn cael eu copïo i greu rhestri chwiliadwy o’r llongwyr a wasanaethodd, a fu farw, neu a glwyfwyd yn y frwydr honno.
The Great War 1914-18 – a guide to British Campaign Medals of WW1 – ewch i’r wefan hon i gael gwybodaeth fanwl am y mathau o fedalau a gâi eu dyfarnu ac am beth, ac i weld ffotograffau lliw o safon uchel o’r medalau hyn.
Tracing your Merchant Navy Ancestors: A Guide for Family Historians, gan Simon Wills (Pen and Sword Family History, Barnsley, 2012)
Tracing your Naval Ancestors: A Guide for Family Historians, gan Simon Fowler Wills (Pen and Sword Family History, Barnsley, 2011)
My Ancestor was a Merchant Seaman, gan C T ac M J Watts (Society of Genealogists, 2002)
Women in the First World War, gan Neil Storey a Molly Housego (Shire Publications, Oxford, 2010)
The Fleets Behind the Fleet: The Work of the Merchant Seamen and Fishermen in the War, gan W. MacNeile Dixon, (Hodder & Stoughton, 1917)
The Merchant Navy gan Archibald Hurd, cyhoeddwyd gan John Murray, London, 1921–29 (3 cyfrol). Gellir gweld yr hanes swyddogol hwn o’r Llynges Fasnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar-lein ar y wefan Naval-History.Net
Growing up among sailors, gan J Ivor Davies (Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 1983)
Black Salt: Seafarers of African Descent on British Ships, gan Ray Costello (Liverpool University Press, 2012)