Astudiaeth Achos Gweler yr astudiaeth achos ar gyfer yr SS CAMBANK, sy’n rhoi enghreifftiau o’r math o wybodaeth am longau y gellir ei darganfod drwy ddefnyddio adnoddau hawdd eu cyrchu.
Mae llongau masnach cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf yn hynod o ddiddorol. Cyfnod oedd hwn pan oedd nwyddau’r byd yn cael eu cludo rhwng porthladdoedd prysur a oedd yn llawn sŵn a phobl. Roedd y llongau hwylio yn cael eu disodli gan agerlongau er bod llawer ohonynt yn parhau i gael eu defnyddio. Roedd yr ierdydd a adeiladai’r llongau yn gweithio bob awr o’r dydd i gwrdd â’r galw amser rhyfel (yn enwedig o ystyried y niferoedd a oedd yn cael eu suddo gan longau-U) ac roedd y llongau a adeiladwyd ganddynt yn gampau peirianegol ysblennydd. Cafodd 2479 o longau masnach eu suddo yn ystod y rhyfel a gellir darganfod llawer o wybodaeth amdanynt drwy ddefnyddio’r ffynonellau a nodir isod.
Y wefan fwyaf defnyddiol i fynd iddi i gael gwybodaeth am bob agwedd ar longau masnach yw gwefan y Crew List Index Project (CLIP). Mae hwn yn brosiect nid-er-elw wedi’i redeg gan wirfoddolwyr a gafodd ei sefydlu i hwyluso gwaith ymchwil i longwyr masnach Prydeinig a oedd yn gwasanaethu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n wefan anhygoel, sy’n cynnig mwy o wybodaeth am longau a llongwyr nag unrhyw ffynhonnell arall. Dyma’r lle cyntaf i fynd i wneud unrhyw chwiliad oherwydd yr holl wybodaeth sydd arni a chan ei fod hefyd yn darparu cysylltau i ffynonellau gwybodaeth eraill. Rhai o’r cronfeydd data y gellir eu chwilio yw:
Mae’r cronfeydd data hyn wedi’u seilio ar gofnodion gwreiddiol sy’n cynnwys y ffynonellau canlynol.
O 1855, byddai llongau Prydeinig yn derbyn rhif swyddogol unigryw wrth gael eu cofrestru am y tro cyntaf. Dyma fyddai rhif y llong drwy gydol ei hoes, hyd yn oed pe câi ei hailgofrestru neu ei hailenwi. Câi ei gerfio neu ei weldio ar ran sylweddol o adeiladwaith y llong yn aml.
Câi’r rhifau swyddogol eu rhoi gan y Prif Gofrestrydd Llongau (Registrar General of Shipping). Ym mhob Porthladd Cofrestru (Port of Registry) câi’r rhifau eu cofnodi yn y Cofrestri Llongau a hefyd yn y Llyfr Pennu (Appropriation Book) ar gyfer y porthladd hwnnw. Câi copïau o’r cofnodion hyn eu hanfon at y Prif Gofrestrydd Llongau a oedd yn cadw’r Llyfrau Pennu canolog, sef y rhestr swyddogol gyflawn o longau cofrestredig Prydeinig a’u rhifau swyddogol.
Mae gwirfoddolwyr y CLIP wedi tynnu lluniau cynnwys y chwe chyfrol hyn, a defnyddiwyd y data ohonynt yn sylfaen ar gyfer y mynegai o rifau swyddogol ar y wefan.
Cafodd y Rhestr Llynges Fasnachol (Mercantile Navy List (MNL)) flynyddol gyntaf ei chyhoeddi ym 1849. O 1857 roedd yn rhestru rhif swyddogol pob llong gofrestredig Brydeinig a oedd ar y môr bryd hynny, ac yn rhoi manylion y cofrestru, y perchennog a’r llong. Cafodd ei chyhoeddi hyd 1977, ond nid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y cofnod hwn o longau cofrestredig Prydeinig yw’r un mwyaf defnyddiol o lawer gan ei fod yn gynhwysfawr – mae’n cynnwys pob llong â thunelledd o fwy na 15 tunnell.
Y rhestr flynyddol o longau sydd wedi’u hyswirio gyda ‘Lloyd’s of London’ yw hon. Mae’n cynnwys rhifau swyddogol o 1872 hyd heddiw. Nid yw Cofrestr Lloyds yn gynhwysfawr: dim ond llongau sydd wedi’u cofrestru gyda Lloyds sydd arni, felly nid yw llawer o longau llai o faint wedi’u rhestru.
Ar ôl i chi ddod o hyd i’r dudalen ar gyfer y llong y mae gennych ddiddordeb ynddi ar wefan y CLIP, fe welwch gysylltau yn y golofn ‘Source’ i’r holl wybodaeth sydd ar gael am y llong honno. Cliciwch ar y cysylltau hyn i weld y wybodaeth. Er enghraifft, os ewch i’r dudalen ar gyfer y DERBENT, fe welwch restr o ffynonellau ynghyd â chysylltau iddynt. Os cliciwch ar y cyswllt ‘Appropriation Book’ fe fydd tudalen wedi’i sganio o’r llyfr yn agor sy’n dangos y cofnod ar gyfer y DERBENT. Os cliciwch ar y cyswllt ‘MNL’ fe fydd tudalen wedi’i sganio o Restr Llynges Fasnachol wreiddiol 1915 yn agor sy’n dangos y cofnod ar gyfer y DERBENT.
Enghraifft: canlyniadau chwilio am y DERBENT ar wefan y CLIP.
Enghraifft: tudalen wedi’i sganio o’r Llyfr Pennau gwreiddiol yn dangos y cofnod ar gyfer y DERBENT.
Enghraifft: tudalen wedi’i sganio o’r Rhestr Llynges Fasnachol 1915 wreiddiol yn dangos y cofnod ar gyfer y DERBENT.
Mae’r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol yn Greenwich wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau ymchwil i’r rheiny sy’n dymuno chwilota ymhellach i, er enghraifft, cynlluniau llongau, symudiadau a llwythi llongau, a chofnodion cwmnïau llongau.
Y wefan Naval-History.Net yw’r adnodd arlein mwyaf cynhwysfawr ar gyfer ymchwilio i weithrediadau’r Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gallwch ddefnyddio’r bar chwilio ar y dudalen gartref i ddod o hyd i’r holl wybodaeth am long benodol ac mae’r dudalen ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-18 yn cynnwys cysylltau i’r wybodaeth am y cyfnod hwnnw.
Gallwch ddarllen y pum cyfrol o Weithrediadau’r Llynges am ddim ar-lein ar wefan Naval-History.Net. Mae’r rhain yn rhoi manylion gweithrediadau ac ymgyrchoedd y Llynges Frenhinol yn ystod y rhyfel a gallwch olrhain gweithrediadau llongau penodol. Gallwch weld yr atodiadau sy’n rhestru colledion ac yn disgrifio ymgyrchoedd hefyd. Yn anffodus, nid yw’r mapiau wedi’u cynnwys, a byddai’n rhaid i chi weld y llyfrau eu hunain i astudio’r rhain.
Yn ôl Gordon Smith, Naval-History.Net, mae’r cyfrolau hyn yn
“indispensable to any researcher or scholar of World War 1 who wants to start to understand the vastness of the war at sea and the role of the Royal Navy and its Allies”.
Y storfa swyddogol ar gyfer cofnodion y Llynges Frenhinol yw’r Archifau Cenedlaethol (The National Archives (TNA)) yn Kew, Llundain. Mae ganddynt gyfres o ganllawiau ymchwil i’ch helpu i chwilota ymhellach yn eu casgliadau helaeth o gofnodion am y Llynges Frenhinol.
Mae gan y wefan Uboat.Net y wybodaeth fwyaf cynhwysfawr am longau a llongau-U a gollwyd yn ystod y ddau ryfel byd. Ar y dudalen chwilio ‘Ships hit by U-boats during WW1‘ gallwch deipio enw’r llong i mewn a bydd map yn agor sy’n dangos ble cafodd ei suddo, y dyddiad, y llong-U a’i suddodd, y math o long a maint y llong. Bydd clicio eto ar enw’r llong ar y dudalen hon yn mynd â chi i dudalen arall lle mae mwy o wybodaeth, er enghraifft, gweithredwr y llong, nifer y rhai a laddwyd, y llwybr, a’r cargo.
Mae ffotograffau ar lawer o’r tudalennau, gan gynnwys ffotograffau o gapteiniaid y llongau-U.
Mae yna wybodaeth helaeth hefyd am y llongau-U a’u tynged yn ystod y rhyfel ac wedyn.
Enghraifft: y dudalen ar gyfer y DRINA ar Uboat.Net.