Pwrpas y pecyn offer hwn yw helpu unigolion a chymunedau lleol i ddechrau eu hymchwil eu hunain.
Mae’n egluro sut i ddod o hyd i wybodaeth am y llongau masnach a oedd yn cludo cyflenwadau hanfodol i ac o borthladdoedd Cymru o dan fygythiad parhaus y llongau-U; am longau’r Llynges Frenhinol a oedd yn amddiffyn Prydain ar y môr; am y dynion a menywod a wasanaethai ar fwrdd y llongau hyn, ac am y cymunedau gartref.
Ym mhob rhan o’r pecyn offer rhoddwn enghreifftiau o’r mathau o adnoddau sydd ar gael, ar-lein ac yn lleol. Mae astudiaethau achos yn rhoi enghreifftiau o’r hyn y gallwch ei ddarganfod a chynigiwn gynghorion defnyddiol ar sut i fynd ati.