ENW LLONG: ROSE MARIE LLEOLIAD: -5.4, 52.72
ENW LLONG: ROSE MARIE LLEOLIAD: -5.4, 52.72
Mae’r sonar ambaladr a model yn dangos llongddrylliad anhysbys y tybid ar un adeg i fod y ROSE MARIE. Llong lo oedd y ROSE MARIE a gafodd ei suddo ar 5 Ionawr 1918 ar ôl cael ei tharo gan dorpido wedi’i danio heb rybudd gan yr U 61 pan oedd hi 13 milltir i’r de-ddwyrain o oleulong North Arklow. Collodd un o’r llongwyr ei fywyd.
Ai hwn yw llongddrylliad y ROSE MARIE?
Daeth yr HMS BEAGLE o hyd i’r llongddrylliad hwn ym mis Mehefin 1981 yn yr ardal lle cafodd y ROSE MARIE ei suddo.
Mae manyleb dechnegol y ROSE MARIE yn nodi bod y llong yn 280 troedfedd (85m) o hyd, ond mae’r llongddrylliad hwn tua 260 troedfedd (79-80m) o hyd.
Mae cynllun dec y llongddrylliad yn awgrymu bod y bont yn nes at y starn. Ond yn y llun hwn o chwaerlong y ROSE MARIE, mae’r bont yng nghanol y llong.
Rydym yn eich gwahodd i archwilio’r model 3D i weld a allwch adnabod unrhyw nodweddion a fydd yn ein helpu i benderfynu ai hwn yw llongddrylliad y ROSE MARIE mewn gwirionedd.
Hanfodol i’r ymdrech ryfel
Rydym wedi cynnwys y ROSE MARIE yn ein harolygon gan fod y llongau a gludai lo rhydd o Gymru i’r Llynges Frenhinol mor hanfodol bwysig i’r ymdrech ryfel. Cafodd y ROSE MARIE ei siartro i weithredu fel Llong Lo Rhif 1845 y Morlys ac am y chwe mis cyn ei cholli bu’n cludo glo o Grangemouth, Immingham a Doc y Barri i ganolfan y llynges yn Scapa Flow. O’r fan hyn yr hwyliodd y Llynges Fawr ym mis Mai 1916 i fynd i’r afael â Llynges Gefnforol yr Almaen ym Mrwydr Jutland.
Fel rhan o’r Cadoediad, cafodd 74 o longau Llynges Gefnforol yr Almaen eu hanfon i Scapa Flow i’w caethiwo yno. Byddai’r Ôl-Lyngesydd Ludwig von Reuter yn rhoi’r gorchymyn i suddo’r llongau hyn ym mis Mehefin 1919.
Llong lo ager 2,220 tunnell ag arfau amddiffynnol a adeiladwyd ym 1916 yn Sunderland i’r Rodney Steamship Company yn Newcastle oedd y ROSE MARIE. Cafodd ei suddo ar 5 Ionawr 1918 ar ôl cael ei tharo gan dorpido wedi’i lansio’n ddirybudd gan yr U 61 pan oedd hi 13 milltir i’r de-ddwyrain o oleulong North Arklow. Roedd hi’n dychwelyd o Scapa Flow heb lwyth. Mae’n debyg ei bod hi wedi bod yn cario glo rhydd Cymreig i’r llynges o longau rhyfel Prydeinig yng ngogledd yr Alban.
Collwyd un o’r criw – Edgar Treharne 22 oed o Dillwyn Street, Llanelli a oedd yn aelod o Wirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol (RNVR). Ni chafwyd hyd i’w gorff. Roedd Edgar wedi bod yn gwasanaethu yn yr RNVR fel gynnwr ar longau masnach arfog ers mis Medi 1916 ac roedd wedi bod ar fwrdd yr SS BENHEATHER pan gafodd y llong honno ei suddo ym mis Ebrill 1917. Bu’n gweithio yng Ngwaith Tunplat Burry, Llanelli.
Dirgelwch tynged yr U 61
Diflannodd yr U 61 ddau fis ar ôl suddo’r ROSE MARIE, ar ddiwedd Mawrth 1918. Dechreuodd yr U 61 ei phatrôl olaf ar 14 Mawrth 1918, pan hwyliodd o Heligoland am Fôr Iwerddon. Dri diwrnod yn ddiweddarach, cyfarfu â’r U 101 i’r gorllewin o Ynysoedd Erch, a oedd wedi gwneud cais drwy radio am ran i’r injan. Ar ôl cyrraedd yr ardal yr oedd wedi cael gorchymyn i’w phatrolio, suddodd hi’r ETONIAN, teithlong ager Brydeinig, yn gynnar ar 23 Mawrth oddi ar yr Old Head of Kinsale. Wedi hynny, nid fu unrhyw sôn am yr U 61.
Roedd yr U 61 wedi suddo 30 o longau yn ystod y deuddeng mis blaenorol o dan reolaeth Victor Dieckmann. Rhaid tybio iddo farw gyda’i griw o 35 o ddynion pan suddodd yr U 61. Ond i wybod yn iawn beth a ddigwyddodd iddynt, mae’n debyg y bydd yn rhaid dod o hyd i longddrylliad y llong danfor. Roedd yn 30 mlwydd oed. Amcangyfrifwyd i hyd at 50% o danforwyr yr Almaen golli eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y llongau glo a gludai lo rhydd Cymreig i Scapa Flow
Roedd Llynges Fawr y Llynges Frenhinol wedi’i lleoli yn Scapa Flow, Ynysoedd Erch, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod y Llynges yn newid yn raddol i danwydd olew ar y pryd, roedd y mwyafrif o’r llongau rhyfel yn parhau i ddefnyddio glo. Roedd yr ‘Admiralty steam-coal’ lled-fitwminaidd a oedd orau gan y Llynges yn cael ei gloddio mewn 40 glofa’n unig mewn rhannau o feysydd glo de Cymru. Roedd angen tua 1,000 tunnell o lo ar bob llong ryfel, felly roedd ailgyflenwi’r Llynges yn dasg enfawr a gâi ei gyflawni gan nifer fawr o longau a threnau (y ‘Jellicoe Specials’).
Roedd yn cymryd 14 diwrnod i longau cludo glo o Gaerdydd a phorthladdoedd eraill de Cymru deithio i Scapa Flow ac yn ôl. Roedd hyn yn golygu bod llawer iawn ohonynt yn hwylio ar unrhyw un adeg a’u bod yn dargedau lluosog i’r llongau-U. Cafodd 31 o longau glo eu suddo ym 1915 a 119 ym 1917. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn cario glo o byllau de Cymru.
Ffynonellau: ‘ALICE MARIE.’ Wear Built Ships SS RT. sunderlandships.com. 2019. Gwefan. Davies, J. D. 2013. Britannia’s Dragon, The History Press. ‘Llanelly Gunner Missing.’ South Wales Weekly Post. 16 Chwef. 1918. t.1. ‘ROSE MARIE.’ Ships hit during WWI. Uboat.Net. 1995-2018. Gwefan. ‘ROSE MARIE.’ Wear Built Ships SS RT. sunderlandships.com. 2019. Gwefan. ‘U 61.’ WWI U-boats. Uboat.Net. 1995-2018. Gwefan.