Single Project

WALPAS

WALPAS
ENW LLONG: WALPAS
LLEOLIAD: -5.37, 52.74

Credir mai’r WALPAS ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.

Barcentîn â thri hwylbren wedi’i wneud o bren pinwydd oedd y WALPAS. Roedd hi’n hwylio o dan luman newydd ei fabwysiadu’r Ffindir pan gafodd ei suddo ar 27 Ebrill 1918. Roedd gan y llong griw o 9 ac roedd yn teithio o Fleetwood i Cadiz gyda llwyth o byg pan gafodd ei stopio ym Môr Iwerddon gan yr U 91 dan reolaeth y KapLt Alfred von Glasenapp (1882-1958). Lladdwyd aelod o griw’r WALPAS gan un o’r ergydion a daniwyd gan yr U 91.

Pan gyfarfu’r WALPAS â’r U 91, roedd y llong danfor Almaenig wedi bod ar y môr am ddau ddiwrnod ar bymtheg ers gadael y porthladd yn Heligoland ar 10 Ebrill 1918. Yn ystod wythnos gyntaf ei phatrôl, bu’r U 91 yn teithio i’r gogledd ar hyd arfordir Denmarc cyn croesi Môr y Gogledd ac anelu am y de ar hyd arfordir gorllewinol yr Alban. Er y byddai hwn yn batrôl llwyddiannus i Glasenapp a’i griw – byddai’r U 91 yn suddo deg llong yn ystod cyfnod o un wythnos – treuliodd y tanforwyr tua thri chwarter eu hamser yn teithio i’r lleoliadau yn eu gorchmynion neu’n cadw pellter diogel oddi wrth longau arfog, confois a chychod patrôl. Yn ôl y dyddiadur rhyfel swyddogol a gadwyd ar fwrdd yr U 91, gwelodd y llong danfor y WALPAS am 7 o’r gloch y nos, cododd i’r wyneb a thaniodd ar y sgwner gan ei suddo o fewn chwarter awr, heb i neb golli ei fywyd. Er bod tôn y ffeiliau milwrol swyddogol yn ddidaro ac i’r pwynt, mae dyddiadur personol Glasenapp yn datgelu awyrgylch dryslyd ymhlith y criw Almaenig drwy gydol y digwyddiad hwn.

Lluman masnachol y Ffindir a baner genedlaethol y Ffindir a gafodd ei defnyddio dros dro yng ngwanwyn 1918. Ffynhonnell: Wikimedia Commons.

Yn ôl nodiadau preifat Glasenapp, roedd criw y WALPAS wedi gweld perisgop y llong danfor ac wedi gobeithio dianc drwy godi a gostwng eu baner, i ddangos nad oedd eu llong yn un Brydeinig. Yn y cyfamser, ar y llong-U, roedd y criw’n trafod pa faner genedlaethol yr oedd y llong anhysbys yn ei hedfan. Awgrymwyd y Ffindir, gan fod y lliwiau’n edrych fel cyfuniad o faneri Norwy a Sweden. Ond roedd Glasenapp yn argyhoeddedig ei fod wedi darllen yn y papurau newydd fod y Ffindir wedi mabwysiadu llew melyn ar gefndir coch ers ennill annibyniaeth oddi wrth Rwsia Ymerodrol yn gynharach y flwyddyn honno. Er gwaethaf yr ansicrwydd, penderfynodd Glasenapp ymosod ar y llong beth bynnag, gan ei bod yn teithio er budd y gelyn. Pan aeth y WALPAS ar dân ar ôl cael ei tharo gan ergydion yr U 91, dihangodd ei chriw i’r bad achub. Aeth Glasenapp ar eu hôl a mynnu eu bod yn ildio eu papurau. Er mawr syndod iddo, nid oedd y capten wedi cynhyrfu o gwbl a datganodd gydymdeimlad â’r Almaen hyd yn oed mewn Saesneg bratiog, ‘Good Finnland [sic], good Germany,’ pan ymadawodd ef a’i griw yn eu bad achub. Ar ôl astudio’r papurau, daeth yn amlwg pam nad oedd y capten a’i griw yn poeni am golli eu llong a’r cargo cyfan. Roedd y WALPAS yn cludo cargo bach o 454 tunnell fetrig o byg, a oedd yn werth 20,000 marc adeg heddwch. Ond o ganlyniad i ymosodiadau’r llongau tanfor, roedd pris y pyg wedi codi’n aruthrol i 75,000 marc, ac roedd y cyfan wedi’i dalu ymlaen llaw – yn ogystal â bonws o 2,000 marc i’r capten.

Glaniodd Capten Huhtala a’i griw yng Nghaergybi, ac yn ei adroddiad swyddogol i’r Morlys Prydeinig wedyn fe ddisgrifiodd y digwyddiadau o’i safbwynt ef. Ysgrifennodd: ‘Officer seen was young, one gold ring – brass buttons. […] Crew generally were unshaven, and dirty looking’. Nododd hefyd: ‘Commander of submarine spoke very bad [E]nglish, but two of the crew spoke Swedish perfectly. Commander asked: What ship? Replied Finnish. Don’t you know you are not allowed to sail round here and to England during War time?’ Pan ofynnodd Huhtala i’r Almaenwyr am gyfeiriadau i’r harbwr agosaf, dywedwyd wrtho am deithio i’r dwyrain.

Ar ôl i’r U 91 gilio, nododd Glasenapp yn ei ddyddiadur preifat fod y WALPAS, a oedd bellach yn ffagl enfawr o byg yn llosgi, i’w gweld yn glir ar y gorwel am oriau nes iddi suddo am tua 11 o’r gloch y nos, yn dilyn un fflach olaf o dân.

Adeiladwyd y WALPAS yn Rauma, yn ne-orllewin y Ffindir, ym 1901. Ym 1918, roedd y llong wedi’i chofrestru yn Rauma o hyd, ond ei pherchennog oedd Augustus Westberg o Luvia, a’i Chapten oedd Frans Emil Huhtala. Yn ôl y Lloyd’s Register of Shipping, roedd y WALPAS wedi’i chofrestru fel llong Rwsiaidd. Y rheswm am hyn oedd i’r Ffindir gael ei chyfeddiannu gan Rwsia o dan y Tsar Alexander I ym 1809 a’i throi’n Archddugiaeth yn Rwsia Ymerodrol. Sut bynnag, yn sgil y Chwyldro yn Rwsia ym mis Hydref 1917, pan ddisodlwyd y frenhiniaeth gan lywodraeth Sofietaidd, cyhoeddodd y Bolsiefigiaid eu Datganiad o Hawliau Pobloedd Rwsia. O ganlyniad, ymgyrchodd aelodau senedd y Ffindir nad oeddynt yn Sosialwyr am annibyniaeth, a chydnabuwyd Ffindir annibynnol gan Rwsia Sofietaidd ym mis Ionawr 1918. Ond o ganlyniad i raniadau gwleidyddol mewnol, torrodd rhyfel cartref chwerw allan rhwng y Gwarchodlu Gwyn gwrth-Sosialaidd a’r Gwarchodlu Coch. Yn ystod y cyfnod hwn o wrthdaro gwleidyddol mewnol yr aeth y WALPAS ar ei mordaith olaf.

Ffynonellau:
Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. U 91. Kriegstagebuch. 10 Ebrill 1918 – 6 Mai 1918. 

Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. ‘Abschrift aus dem Privatkriegstagebuch “U 91” (Kapitänleutnant v. Glasenapp).’ 

Cofrestr Lloyd’s. 1915. Lloyd’s Register of Shipping 1915-16. Cyfrol 1, London: Wyman and Sons.

Swyddfa Longau America. 1918. 1918 Record of American and Foreign Shipping. New York: American Bureau of Shipping [“American Lloyd’s”].

Yr Archifau Cenedlaethol, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4015. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 16–30 Apr. 1918. ‘Form S. A. Revised. Sailing Vessel “Walpas”. (Barquentine).)’, dim lle cyhoeddi.