ENW LLONG: U 87 LLEOLIAD: -5.09, 52.94
ENW LLONG: U 87 LLEOLIAD: -5.09, 52.94
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r U 87 ydy’r llongddrylliad hwn.
Ar 25 Rhagfyr 1917, yn Sianel San Siôr, cafodd yr AGBERI ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr U 87, a oedd dan reolaeth y KapLt Rudolf von Speth-Schülzburg (1884-1917). Roedd yr agerlong Elder Dempster hon yn teithio mewn confoi o Dakar i Lerpwl gyda chargo o gynnyrch o Affrica. Yn ddirybudd, symudodd yr U 87 rhwng llongau arfog y confoi ac ymosododd ar y llong fasnach. Er i’r holl fadau achub yng nghanol y llong ar yr ochr chwith gael eu dinistrio, roedd teithwyr a chriw’r AGBERI yn gallu dianc o’r llong, a oedd yn suddo’n araf, yn y badau eraill. Am awr wedyn fe fu brwydr fach ond ffyrnig rhwng llongau hebrwng y confoi a’r llong danfor Almaenig o amgylch cychod rhwyfo’r rhai a oedd wedi goroesi.
Roedd un o longau’r confoi, y PC 56, 140 metr yn unig o’r AGBERI, a hwyliodd at y llong danfor a’i tharo. Yna taniodd llong hebrwng arall, y BUTTERCUP, ar yr U 87 gan daro’r tŵr rheoli. Mae rhai ffynonellau’n awgrymu i’r PC 56 ollwng mwy o ffrwydron tanddwr i orfodi’r U 87 i ddod yn ôl i’r wyneb lle roedd yn darged haws. Cafodd y llong danfor ei bwrw eto gan y PC 56, gan dorri’r gwn ar flaen y dec i ffwrdd ac, o bosib, agor hollt fawr yn ei chorff. Suddodd y llong danfor gyda’i chriw cyfan o 43. Mae’n gorwedd nid nepell o’r AGBERI, 29 cilometr i’r gogledd-orllewin o Ynys Enlli.
Llong danfor yn Llynges Ymerodrol yr Almaen oedd yr U 87. Archebwyd y llong gan y Kaiserliche Werft yn Danzig (Gdańsk yng Ngwlad Pwyl erbyn hyn) yn 1915 a chafodd ei lansio flwyddyn yn ddiweddarach. Adeg ei hadeiladu, yr U 87 oedd un o longau tanfor mwyaf datblygedig yr Almaen. Yn ystod pum patrôl rhwng gwanwyn 1916 a diwedd 1917 fe suddodd yr U 87 ddwy ar hugain o longau ac achosodd ddifrod i ddwy arall.
Ymgymerodd yr U 87 â’i chomisiwn cyntaf dan y KapLt Rudolf Schneider (1882-1917) ar 26 Chwefror 1917. Ar ôl i Schneider foddi ar 13 Hydref 1917, bu’r llong-U yn patrolio gogledd Iwerydd ac arfordiroedd gorllewinol a deheuol Iwerddon yn bennaf, ond bu hi hefyd yn gweithredu yn nyfroedd Cymru.
Cyn i Rudolf Schneider ddod yn gapten yr U 87, bu’n capteinio’r U 24 o 6 Rhagfyr 1913 hyd 3 Mehefin 1916. Yn ystod y cyfnod hwn fe suddodd chwech ar hugain o longau, achosodd ddifrod i dair arall, a chymerodd un yn wobr. Un o’r llongau a ddinistriwyd oedd y deithlong ARABIC, a oedd yn eiddo i’r cwmni Prydeinig White Star. Cafodd ei suddo ar 19 Awst 1915. Digwyddodd hyn ychydig o fisoedd ar ôl suddo’r LUSITANIA ar 7 Mai 1915, pan laddwyd 1,198 o bobl, a’r canlyniad oedd dwysáu’r tyndra rhwng yr Almaen ac UDA a bygwth tynnu America, a oedd yn dal yn wlad niwtral, i mewn i’r rhyfel.
Pan suddodd Schneider yr ARABIC, roedd hi’n teithio gyda 181 o deithwyr a mwy na 300 o griw o Lerpwl i Efrog Newydd. Ers mis Mehefin 1915 roedd capteiniaid y llongau-U dan orchymyn i beidio ag ymosod ar deithlongau heb rybudd ac i sicrhau bod y teithwyr a’r criw yn gallu dianc cyn dechrau ymosod. Ni chaniateid iddynt ymosod oni bai bod teithlongau’n ceisio dianc neu wrthymosod. Gan fod Schneider dan yr argraff y gallai’r ARABIC ymosod ar yr U 24, fe daniodd dorpido at y llong a suddodd o fewn saith munud. Achosodd y digwyddiad hwn argyfwng diplomataidd rhwng yr Almaen ac Unol Daleithiau America gan fod tri theithiwr Americanaidd ymhlith y pedwar a deugain a fu farw. Roedd Johann Heinrich von Bernstorff (1862-1939), llysgennad yr Almaen yn Washington D.C., wedi cael y dasg o argyhoeddi Arlywydd yr UD, Woodrow Wilson (1856-1924), nad oedd Schneider wedi torri rheolau rhyfela ar y môr. Erbyn 3 Medi 1915, adroddodd Bernstorff i’w lywodraeth yn Berlin ei fod wedi dod i gytundeb â’r Americanwyr bod yn rhaid i longau tanfor Almaenig roi rhybudd cyn ymosod ar longau teithwyr. Hefyd cyhoeddodd Weinyddiaeth Dramor yr Almaen fod yn edifar ganddi fod bywydau wedi’u colli, ond amddiffynnodd weithredoedd Schneider hefyd. Dywedodd mai’r cyfan yr oedd wedi’i wneud oedd dilyn y gorchmynion a roddwyd iddo.
Er i’r tyndra rhwng yr Almaenwyr a’r Americanwyr leihau yn ystod y mis dilynol, roedd gweithredoedd Schneider yn uniongyrchol gyfrifol am ddigwyddiad arall ar yr un diwrnod a arweiniodd at ddwysáu’r rhyfel rhwng yr Almaen a Phrydain. Yr ARABIC oedd yr ail o bedair llong a suddwyd gan Rudolf Schneider i’r de o Iwerddon ar 19 Awst 1915. Roedd yr HMS BARALONG, llong-Q Brydeinig wedi’i chuddwisgo fel llong o’r Unol Daleithiau, yn patrolio dyfroedd Prydeinig dan reolaeth yr Is-gomander Godfrey Herbert (1884-1961) pan gododd signal cyfyngder yr ARABIC ar ôl iddi gael ei tharo gan dorpido’r U 24. Dechreuodd chwilio am Schneider a’i griw, a oedd wedi gadael am Ynysoedd Sili erbyn hyn, ond daeth o hyd i’r U 27 a oedd newydd danio at yr agerlong NICOSIAN gerllaw, gan ei chamgymryd am y llong-U a oedd wedi ymosod ar yr ARABIC. Taniodd y BARALONG ar yr U 27 gan dyllu corff y llong danfor. Pan ddihangodd deuddeg o’r criw Almaenig o’u llong, a oedd yn suddo’n gyflym, a cheisio nofio tuag at y NICOSIAN a oedd yn dal ar wyneb y dŵr, parhaodd Herbert i danio i’w canol. Llwyddodd wyth o’r llongwyr hyn, gan gynnwys y capten, y KapLt Bernd Wegener, i fynd ar fwrdd y NICOSIAN. Cawsant eu dilyn yn syth gan rai o griw’r BARALONG a saethodd bob un ohonynt yn farw yn y fan a’r lle. Wedyn, ceisiodd y Morlys Prydeinig guddio adroddiad Herbert ar ei ymddygiad ef ac ymddygiad ei griw. Ond daeth y stori i olau dydd beth bynnag pan ddywedodd y goroeswyr Americanaidd o’r NICOSIAN, ar ôl iddynt lanio yn Lerpwl, beth yr oeddynt wedi’i weld wrth eu conswl. Hefyd rhoddasant gyfweliadau i bapurau newydd Americanaidd ar ôl dychwelyd adref ychydig o fisoedd wedyn. Cyflwynodd yr Almaen gwyn i’r llysgennad Americanaidd a mynnodd y dylai Herbert sefyll ei brawf am lofruddiaeth. Yn sgil y digwyddiad hwn fe ffyrnigodd y rhyfela ar y môr wrth i gapteiniaid llongau-U fynd yn fwyfwy amheus o longau diniwed yr olwg a oedd yn hedfan lluman yr UD, a lleihaodd hyn effeithiolrwydd y llongau-Q.
Erbyn diwedd 1915, roedd Rudolf Schneider wedi cael ei dynnu oddi ar yr U 24 a’i wneud yn gapten yr U 87 newydd ar 26 Chwefror 1917. Rhwng mis Mai a mis Awst y flwyddyn honno, fe suddodd bedair ar bymtheg o longau a difrododd ddwy arall. Ar 13 Hydref, daliwyd Schneider a’i griw mewn storm a chafodd ei ysgubo i mewn i’r môr. Yn ôl y dyddiadur rhyfel swyddogol, taflodd y criw fwi achub iddo ond methodd â’i gyrraedd. Ddeng munud yn ddiweddarach, llwyddodd ObMaschMt Reuss i dynnu corff Schneider o’r môr ar ôl neidio i’r dŵr wedi’i glymu wrth raff. Er ymdrechu am bedair awr i’w ddadebru, methodd y criw â’i achub. Cafodd ei gorff ei gladdu yn y môr ac, fel ei ddirprwy, cymerodd Rudolf von Speth-Schülzburg yr U 87 drosodd a pharhaodd i batrolio yn unol â’r gorchmynion. Ar 25 Rhagfyr, arweiniodd penderfyniad Speth-Schülzburg i ymosod ar yr AGBERI at farwolaeth y criw cyfan yn y gwrthymosodiad gan y BUTTERCUP a’r PC 56. Mae’n ymddangos nad oedd Reuss, a oedd wedi ymdrechu i achub bywyd ei gapten, ar yr U 87 pan aeth ar ei phatrôl olaf ac iddo oroesi’r rhyfel, gan nad yw ei enw i’w weld ar unrhyw restr Almaenig o’r rhai a fu farw.
Ffynonellau: Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/642. U 24. Kriegstagebuch. 1 Awst 1915 – 3 Mehefin 1916. Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1025. U 87. Kriegstagebuch. 26 Chwefror 1917 – 21 Ionawr 1918. Gray, E. A. 1994. The U-Boat War: 1914-1918, London: Leo Cooper. Nolan, L. a J. E. Nolan. 2009. Secret Victory: Ireland and the War at Sea, 1914-1918, Cork: Mercier Press. ‘Rudolf Schneider.’ WWI U-Boat Commanders. Uboat.Net. 1995-2018. Rhyngrwyd.