ENW LLONG: SAINT JACQUES LLEOLIAD: -5.11, 51.64
ENW LLONG: SAINT JACQUES LLEOLIAD: -5.11, 51.64
Llong ager a adeiladwyd gan Atel. & Ch. De France, Dunkirk, ym 1909 oedd y SAINT JACQUES. Adeg ei cholli roedd yn eiddo i Société Navale de l’Ouest ac wedi’i chofrestru yn Le Havre. Roedd yn cludo llwyth o lo o’r Barri i Bizerte (Tunisia) dan reolaeth y capten Jules Simon pan gafodd ei suddo ar 15 Medi 1917 gan dorpido wedi’i danio gan yr UC 51. Suddodd y llong tua phum milltir oddi ar Bentir St Ann.
Y SAINT JACQUES oedd y drydedd long o’r enw hwnnw y bu Société Navale de l’Ouest yn berchen arni ac yn ei gweithredu (adeiladwyd y SAINT JACQUES gyntaf yn Dundee ym 1871 a’r ail yn West Hartlepool ym 1889). Ffurfiwyd y cwmni ym 1880 gan George Leroy ac roedd yn arferiad ganddo i enwi ei longau ar ôl seintiau hyd at 1972. Er enghraifft, ei agerlong gyntaf, â thunelledd o 1500 tunnell fetrig, oedd y SAINT PIERRE, ac yn fuan wedyn prynwyd y SAINT JEAN a’r SAINT PAUL.
Prynwyd mwy o longau ar ôl 1887, a daeth yn brif gwmni masnachu rhwng Normandy ac Antwerp, Sbaen a Phortiwgal, Gogledd Affrica a dwyrain Môr y Canoldir. Hefyd fe brynodd longau a allai gael eu defnyddio yn y fasnach ffrwythau a gwin gydag Algeria, Bordeaux a La Rochelle. Drwy ychwanegu llongau mwy o faint at ei lynges, fel y SAINT MATHIEU, SAINT BARTHELEMY a SAINT PHILIPPE, gallai fentro ymhellach fyth oddi cartref i gyrchfannau fel Dakar yng Ngorllewin Affrica.
Rhwng 1907 a 1909, archebodd y cwmni wyth llong newydd o iard longau Ateliers et Chantiers de France yn Dunkirk – roedd pob un yn pwyso tua 3500 tunnell a chawsant eu henwi’n SAINT ANDRÉ, SAINT JEAN, SAINT LUC, SAINT MARC, SAINT PAUL, SAINT PIERRE, SAINT JACQUES a SAINT THOMAS.
Yn ogystal â’r SAINT JACQUES, collodd y cwmni longau eraill yn ystod y Rhyfel Mawr. Suddwyd y SAINT PHILIPPE ar 29 Tachwedd 1918 oddi ar Guernsey gan yr UB 39. Cafodd y SAINT SIMON ei suddo ar 3 Ebrill 1917 gan yr UC 57 a’r SAINT ANDRÉ ar 19 Rhagfyr 1917 gan yr UB 58 ar fordeithiau rhwng Tunisia a Môr Hafren. Collwyd tair arall, y SAINT JEAN, SAINT LUC a SAINT BARNABÉ, ym 1918 i ymosodiadau gan yr UB 50 a’r UB 105.
Ar 15 Medi 1917, gadawodd y SAINT JACQUES y Barri a dechreuodd ddilyn y cyfarwyddiadau roedd wedi’u derbyn gan Ganolfan y Llynges yng Nghaerdydd , hynny yw, llywio cwrs 3 milltir i’r de o Oleulong Helwick, yna ymlaen i Oleulong Sant Gofan, ac wedyn i Bentir St Ann ac Aberdaugleddau.
Roedd y llong yn cludo 2700 tunnell o lo mân i’r Compagnie des chemins de fer Bône-Guelma (Cwmni Rheilffordd Bône-Guelma) a oedd yn gweithredu rheilffyrdd yn Algeria a Tunisia (a oedd yn rhan o Ogledd Affrica Ffrengig bryd hynny). Roedd y llong dan gyfarwyddyd peilot o’r Barri ac nid oedd yn igam-ogamu gan fod y capten, Jules Simon, yn teimlo ei bod yn ddigon agos at y lan i fod yn ddiogel rhag ymosodiad gan long-U. Roedd Simon wedi gofalu bod y gynwyr wrth eu gynnau ar y tu blaen a’r tu ôl ac ar y bont. Dywedodd Simon hefyd fod nifer o longau eraill o fewn golwg – agerlongau o Norwy a Ffrainc a oedd yn anelu am Aberdaugleddau, sawl llong tua’r gorllewin, gan gynnwys distrywlongau oddi ar Bentir St Ann, yn ogystal â’r treill-longau arfog SIDMOUTH ac ALBATROSS. Ond ni sylwodd yr un ohonynt fod yr UC 51, dan reolaeth yr Oberleutnant zur See Hans Galster, yn y cyffiniau hyd nes i’r torpido daro’r SAINT JACQUES am 15:50. Chwythodd y ffrwydrad dwll mawr, 36 droedfedd o hyd a 13 troedfedd o led, yng nghorff y llong o dan y llinell ddŵr. Cafodd ystafell yr injan ei dinistrio’n llwyr a llenwodd â dŵr, gan ladd y pum aelod o’r criw a oedd yn gweithio yno.
Dihangodd y capten, y peilot a 28 o’r criw yn y badau achub, ond arosasant wrth ymyl y llong rhag ofn y byddai’n bosibl ei hachub drwy ei thynnu i’r porthladd. Daeth y SIDMOUTH ochr yn ochr â’r SAINT JACQUES ac anfonodd neges i Aberdaugleddau yn gofyn am gymorth am 16.10. Cyrhaeddodd y dreill-long ALBATROSS ddeng munud yn ddiweddarach, ac yna’r tynfad achub HM FRANCES BATEY.
Roedd y SAINT JACQUES yn gogwyddo’n ddrwg i’r starbord, ond serch hynny fe lwyddodd rhai o griw’r FRANCES BATEY i fynd ar ei bwrdd a chlymu rhaff dynnu. Parhaodd y SAINT JACQUES ar wyneb y dŵr am 10 munud yn unig o’r daith i ddiogelwch Aberdaugleddau. Trodd drosodd ar ei hochr dde gan ddangos y difrod ar yr ochr chwith a suddodd â’i gwaelod at i fyny.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Christelle Méniel o Musée Portuaire Dunkerque am ei chymorth parod wrth ymchwilio i hanes y SAINT JACQUES.
Ffynhonnell: The National Archives, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM137/4000. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 1-15 Sep. 1917. ‘French SS “SAINT JACQUES”’, d.t.