ENW LLONG: PENSHURST LLEOLIAD: -5.52, 51.51
ENW LLONG: PENSHURST LLEOLIAD: -5.52, 51.51
Credir mai’r PENSHURST ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.
Llong-Q Brydeinig oedd y PENSHURST. Wrth deithio gerllaw ynysoedd Lly wennol, Sir Benfro, fe gafodd ei suddo gan yr U 110 dan reolaeth y KapLt Carl Albrecht Kroll ar 24 Rhagfyr 1917. Lladdwyd dau o’r rheiny ar y llong.
Llongau masnach ag arfau trwm a oedd yn edrych fel llongau masnach confensiynol oedd y Llongau Gwasanaeth Arbennig neu Longau-Q. I wneud i’r llong edrych yn fwy diniwed byth, wrth i long-U agosáu byddai rhai o’r criw – a elwid yn ‘griw panig’ – yn cymryd arnynt eu bod yn gadael y llong i roi’r argraff nad oedd neb arni. Yna pan fyddai’r llong danfor o fewn cyrraedd, byddai gynnau cudd y llong-Q yn cael eu dadorchuddio er mwyn tanio arni. Roedd y PENSHURST yn llong o’r fath ac roedd yn un o rai mwyaf llwyddiannus y Llynges Frenhinol o ran gwrthymosodiadau.
Ar 24 Rhagfyr 1917,roedd y PENSHURST yn hwylio ger y Smalls yn chwilio am long danfor a oedd yn gweithredu yn yr ardal pan welodd long-U dau bwynt i’r chwith ar y blaen. Ar ôl iddi fynd dan y dŵr, dilynodd y PENSHURST lwybr igam-ogam nes i’r U 110 danio torpido i’w hochr chwith rhwng y boeleri ac ystafell yr injanau.
Cafodd y dynion a oedd yn cuddio ar y dec eu gwlychu gan y dŵr a saethodd i fyny gyda’r ffrwydrad. Roedd injanau a boeleri’r PENSHURST wedi’u dryllio. Dechreuodd y starn suddo, a chyn bo hir roedd y gwn ôl dan ddŵr. Gwyddai’r capten, Cedric Naylor, mai dim ond oriau oedd gan y llong cyn y suddai.
Ceisiodd yr U 110, o’i rhan hi, adnabod y PENSHURST, gan hwylio o’i hamgylch gyda’i dau berisgop allan o’r dŵr hyd tua 2:40 pm. Yna fe benderfynodd suddo’r PENSHURST drwy danio ei gynnau a chododd i’r wyneb. Erbyn hyn roedd hanner y PENSHURST o dan y dŵr, a’r unig ynnau a oedd ar gael i wrthymosod oedd y gynnau 12 pwys.
Cododd y llong-U yn ddigon uchel i allu defnyddio’i gwn ôl a dechreuodd danio. Gadawodd Naylor iddi danio ddwywaith cyn rhoi gorchymyn i ynwyr y PENSHURST saethu’n ôl. Yn anffodus, wrth ollwng y sgrin, darganfu’r gynwyr nad oedd modd iddynt ostwng y gwn 12 pwys yn ddigon isel. Dim ond drwy ddeg gradd neu lai y gellid gostwng llawer o ynnau’r Llynges.
Serch hynny, roedd y criw yn gallu tanio pryd bynnag y rholiodd y llong y ffordd iawn ac, allan o chwe ergyd, llwyddodd i daro’r llong danfor ddwywaith – unwaith ar y dec blaen ac unwaith y tu ôl i’r tŵr rheoli.
Nid oedd capten yr U 110, Carl Albrecht Kroll, am roi ei long mewn mwy o berygl, felly rhoddodd orchymyn i blymio, gan adael y PENSHURST i suddo. Yna cyrhaeddodd yr HMS PC 65. Roedd yr U 110 wedi aros gerllaw, ond pan welodd y PC 65 fe adawodd. Aeth Naylor ati i geisio achub ei long, ac ni roddodd y gorau i’r dasg nes i’r HMS PC 43 gyrraedd a dod ochr yn ochr. Yna cyrhaeddodd y MARGARET HAM a’r FRANCIS BATEY, tynfadau achub, a driffter i roi cymorth. Aeth Naylor ar fwrdd ei long eto. Y bwriad oedd tynnu’r PENSHURST i’r lan ond dymchwelodd y corn mwg ac fe suddodd tua 30 milltir o Aberdaugleddau. Bu bron i Naylor fynd i lawr gyda’i long.
Am eu gweithredoedd, derbyniodd Naylor ail far i’w fedal Urdd Gwasanaeth Nodedig (D.S.O.) a derbyniodd y Lefftenant Gweithredol Ernest Hutchinson R.N.R. y Groes Gwasanaeth Nodedig (D.S.C.). Derbyniodd y Prif Is-swyddog, A. E. Cottrell, a’r Prif Daniwr, Samuel Spence Rees R.N.R., Fedalau Gwasanaeth Nodedig. Hefyd fe rannodd y criw wobr o £500 rhyngddynt.
Lladdwyd dau o’r criw: Reginald Arthur Marlton, Cynorthwyydd y Cogydd, Rhif Swyddogol: DEV/M 14855; ac Albert Brewer, Taniwr Dosbarth 1af, Rhif Swyddogol: CH/K 15525. Er bod y ddau wedi llwyddo i ddianc i rafft a oedd wedi troi drosodd, roeddynt wedi boddi wedyn.
Agerlong a oedd yn nodweddiadol o’i chyfnod oedd y PENSHURST. Roedd hi wedi cael ei hadeiladu gan y Montrose Shipping Company ym 1906 (Rhif Swyddogol 123643, Rhif Iard 23). Ei harfau ar y dechrau oedd dau wn 3 phwys, dau wn 6 phwys, a gwn 12 pwys wedi’i gelu mewn bad achub ffug yng nghanol y llong. Ymladdodd 11 frwydr o dan y capteiniaid Francis Henry Grenfell a Cedric Naylor.
Rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 1917, cafodd arfau’r PENSHURST eu huwchraddio. Wedyn roedd ganddi ddau wn 4 modfedd yn y gyndy, dau wn 12 pwys ar adenydd y bont, a gwn 4 modfedd yn lle’r gwn 12 pwys yn y bad achub ffug. Gwnaed hyn i adlewyrchu datblygiadau yn y rhyfel ehangach yn erbyn y llongau-U, a oedd yn ymosod fwyfwy o’r tu cefn, sef man gwan y llongau-Q. Roedd yn rhaid gwella’u harfau i’w hamddiffyn rhag ymosodiadau o’r cyfeiriad hwn ac o ymosodiadau o gryn bellter i ffwrdd gan ynnau dec y llongau-U.
At ei gilydd, nid oedd y llongau-Q yn llwyddiannus iawn: yn ôl Dwight Messimer fe gafodd pum llong-Q eu colli am bob llong-U a suddwyd, sy’n awgrymu i 60 ohonynt gael eu colli ac iddynt suddo deuddeg llong-U yn unig. Serch hynny, ymdrechodd y PENSHURST dro ar ôl tro i gyfiawnhau ei bodolaeth. Mewn brwydr ar 22 Chwefror 1917, fe ddihangodd un o longau tanfor uwch yr Almaen, yr U 84, o drwch blewyn a daeth hyn i sylw’r Llyngesydd Scheer. Yna, ar 19 Awst 1917, fe gafodd ei tharo gan dorpido yn ei howldiau, ond llwyddodd i orfodi’r ymosodwr i ffoi. Cafodd 15 o’i chriw eu hanrhydeddu neu eu crybwyll am eu dewrder.
Er gwaethaf yr ymgyrchoedd caled, roedd y PENSHURST yn un o’r llongau-Q mwyaf cysurus i wasanaethu arni. Er ei bod hi’n agerlong gyffredin a chyfyng, dangosodd holiadur a lenwyd gan griwiau’r llongau-Q fod y dynion wedi’u gwasgaru’n well drwy’r PENSHURST nag mewn llongau-Q eraill.
O edrych ar ei chriw, gwasanaethodd nifer o gymeriadau grymus ar fwrdd y PENSHURST. Swyddog llynges wedi ymddeol a gawsai ei alw’n ôl i wasanaethu oedd ei chapten cyntaf, Francis Henry Grenfell. Roedd ganddo gefndir yn y llynges ac ym maes addysg, roedd yn ddifraw yn wyneb y gelyn, ac roedd yn gapten y PENSHURST ar gyfer y rhan fwyaf o’i buddugoliaethau.
Roedd ei olynydd, Cedric Naylor, yn ddigynnwrf hefyd pan oedd y gelyn yn tanio ar ei long. Canlyniad hyn oedd y byddai llongau-U yn cael eu denu o hyd i gyrraedd gynnau’r PENSHURST ac roedd gan y Llyngesydd Bayly o Queenstown feddwl mawr ohono. Byddai ei yrfa ar ôl y rhyfel yn llai disglair. Fe’i cafwyd yn gyfrifol am dirio llong a methai â dygymod â rheolau’r Llynges Frenhinol. Ar y llaw arall, byddai’n cael ei grybwyll mewn adroddiadau yn ystod Ymgyrch Ironclad ym 1942.
Pa siomedigaeth bynnag a wynebai yn nes ymlaen yn ei yrfa, mae’n briodol bod Naylor wedi derbyn ei far D.S.O. cyntaf cyn brwydr olaf y PENSHURST ar yr un pryd â Gordon Campbell V.C. Fel capten y llongau-Q enwog HMS FARNBOROUGH, HMS PARGUST ac HMS DUNRAVEN, roedd Campbell yr un mor feiddgar a medrus. Roedd y ddau’n llawn haeddu eu medalau.
Ffynonellau: Bridgland, Tony. 1999. Sea Killers in Disguise: The Story of the Q-Ships and Decoy Ships in The First World War. Barnsley: Leo Cooper- an imprint Pen & Sword Books. Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1081. U 110. Kriegstagebuch. 20 Rhag. 1917 - 16 Ion. 1918. ‘Cedric Naylor.’ Lives of the First World War. d.d.-2018. Gwefan. Chatterton, E. Keble. 1922. Q-Ships and their Story. A History of Decoy Vessels. Argraffiad 1af. London: Sidgwick and Jackson Ltd. Coder, Barbara J. 2000. Q-Ships of the Great War. Maxwell Air Force Base: Air University. Dunn, Steve R. 2018. Bayly's War: The Battle for the Western Approaches in the First World War. 2018. Barnsley: Seaforth Publishing. Fifth Supplement to The London Gazette. 30 Hyd. 1917. t.11315. d.d. Gwefan. ‘Penshurst.’ Scottish Built Ships: The History of Shipbuilding in Scotland. d.d. Gwefan. Ritchie, Carson. 1985, Q-Ships. Lavenham, Suffolk: Terence Dalton Limited. The National Archives, Kew. ADM - Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 196/144/743. Cedric Naylor Service Record. ---. ADM 196/44/94. Francis Henry Grenfell Service Record. ---. ADM 137/3293. Inquiry into the Loss of HMS Penshurst. ---. ADM 137/649. Queenstown Policy: Decoy Ships. June to December 1917. ---. ADM 137/1360. South West Approach: German Submarines 16-31 December 1917.