ENW LLONG: ORONSA LLEOLIAD: -5.09, 52.89
ENW LLONG: ORONSA LLEOLIAD: -5.09, 52.89
Credir mai’r ORONSA ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.
Ar 28 Ebrill 1918, roedd yr ORONSA, agerlong a oedd yn cludo cargo o nitrad a siwgr, yn hwylio drwy Fôr Iwerddon. Roedd 110 o deithwyr a 155 o griw ar ei bwrdd. Capten yr ORONSA oedd Frederic Holt Hobson o Benbedw ac roedd y llong yn anelu am Lerpwl fel rhan o gonfoi HN62. Yn gynnar yn y bore, roedd y confoi tuag 20 cilometr i’r gorllewin o Ynys Enlli ar noson olau leuad pan ymosodwyd arni gan long danfor Almaenig, yr U 91, dan reolaeth y KapLt Alfred von Glasenapp.
Symudodd yr U 91 yn araf rhwng y llongau o’r tu blaen nes cyrraedd safle rhwng y ddwy agerlong fwyaf, yr ORONSA a’r DAMÃO, llong o Bortiwgal. O bellter o 530 metr, taniodd dorpido at starn yr ORONSA. Heb aros i weld y canlyniad, trodd prif beiriannydd yr U 91 y llong danfor o gwmpas ac ymosododd ar y DAMÃO a’i suddo. Ar ôl suddo dwy agerlong fawr y naill yn syth ar ôl y llall, plymiodd y llong danfor yn gyflym i ddianc rhag unrhyw wrth-ymosodiadau gan longau arfog y confoi. Sut bynnag, yr unig beth a welodd Glasenapp a’i griw oedd dau fom dŵr yn cael eu gollwng gryn bellter i ffwrdd. Arhosodd y llong danfor dan y dŵr am awr arall, yn aros i sŵn sgriwiau gyrru’r llongau ddistewi i sicrhau bod y confoi wedi mynd heibio.
Suddodd yr ORONSA o fewn deg munud. Pan holwyd ef wedyn, dywedodd y Capten Hobson iddo deimlo clec ac iddo sylweddoli yn syth bod llong danfor wedi ymosod. Felly rhoddodd orchymyn i’r badau achub gael eu gostwng ar unwaith ac, er i bethau ddigwydd yn gyflym iawn, llwyddodd bron pawb ar fwrdd yr ORONSA i ddianc yn y badau achub diolch i ymateb sydyn y capten a’r ffaith bod y môr yn llonydd a’r noson yn glir. Yn ôl adroddiad swyddogol y capten i’r Morlys, y SCOURGE a achubodd y rheiny a oedd wedi goroesi. Cafodd tri o bobl eu lladd: Alexander Neville Lubbock, 34 oed, Is-Gomander yn y Llynges Frenhinol, o Limpsfield, Surrey; Edwin Joseph Lanchbury, 38 oed, y Prif Bobydd ar y llong, o Gibraltar; a J. Stone, y 6ed Peiriannydd, 26 oed, o Hull.
Cafodd suddo’r ORONSA gryn sylw yn y wasg Americanaidd. Roedd grŵp o 57 gweithiwr Y. M. C. A. ar fwrdd y llong, a oedd yn teithio i Ewrop i gefnogi’r ymdrech ryfel ac a helpodd y teithwyr eraill i mewn i’r badau achub. Yn y papur newydd milwrol The Stars and Stripes, adroddwyd i werth $30,000 o gyfarpar pêl-fas gael ei ddinistrio pan suddodd y llong. Roedd y cyfarpar ar ei ffordd i’r milwyr Americanaidd i hybu morâl.
Agerlong Brydeinig oedd yr ORONSA. Roedd hi’n 265 troedfedd (141.7 metr) o hyd a 56 troedfedd (17.1 metr) o led, ac roedd ganddi dunelledd o 8,075 GRT (tunelledd cofrestredig crynswth) (8204.6 tunnell fetrig). Cafodd ei hadeiladu gan Harland & Wolff yn Belfast ym 1906 ac roedd yn eiddo i’r Pacific Steam Navigation Company o Lerpwl. Roedd y llong wedi’i chynllunio i gludo hyd at 150 o deithwyr Dosbarth Cyntaf, 130 o deithwyr Ail Ddosbarth ac 800 o deithwyr Trydydd Dosbarth. Yn ystod y rhyfel roedd yr ORONSA wedi bod yn cael ei defnyddio fel teithlong ag arfau amddiffynnol a gludai gargo a theithwyr. Criw y gwn oedd Albert Shepherd, William E. Bridges a Leonard A. Harris. Wrth ddychwelyd o Talcahuano, dociodd am gyfnod byr yn Efrog Newydd cyn cychwyn ar ei thaith olaf i Lerpwl ar 13 Ebrill 1918. Bymtheng niwrnod yn ddiweddarach, cafodd ei suddo gan dorpido G 6.D wedi’i danio gan yr U 91. Ym 1951-2, rhoddwyd caniatâd i Risdon Beazly Ltd achub y metelau anfferrus a gawsai eu defnyddio i adeiladu’r ORONSA.
Wrth suddo’r ORONSA a’r DAMÃO, roedd yr U 91 wedi defnyddio ei dau dorpido olaf. O ganlyniad, rhoddodd Glasenapp orchymyn i’w griw lywio’r llong danfor yn ôl i’r porthladd yn Wilhelmshaven. Yn ôl y dogfennau swyddogol, roedd yr U 91 yn gallu cario hyd at 12 torpido. Yn ystod ei phatrôl o 10 Ebrill hyd 6 Mai 1918, roedd y llong danfor yn cario deg torpido G 6.D a dau dorpido K.III. Yn ogystal, roedd gan yr U 91 ffrwydron ar ei bwrdd a sieliau ar gyfer y ddau wn dec. Byddai torpidos yn cael eu defnyddio yn erbyn llongau mawr fel yr ORONSA a’r DAMÃO, ac arfau rhatach a oedd yn cymryd llai o le, fel grenadau a ffrwydron, yn erbyn llongau hwylio a llongau bach eraill fel rheol.
Ffynonellau: Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. U 91. Kriegstagebuch. 10 Ebrill 1918 – 6 Mai 1918. Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. ‘Abschrift aus dem Privatkriegstagebuch “U 91” (Kapitänleutnant v. Glasenapp).’ ‘First Ball Glove Is Made in France.’ The Stars and Stripes. Ffrainc. 7 Mehefin 1918. 5. ‘Oronsa Sinks in Ten Minutes.’ Marlborough Express, 1 Mai 1918. 3. Sondhaus, L. 2017. German Submarine Warfare in World War I: The Onset of Total War at Sea, Lanham: Rowman & Littlefield. ‘U-Boat Sinks Steamship; Only 3 of 250 Are Lost; 57 Y. M. C. A. Men Aboard.’ New York Herald, 30 Ebrill 1918. 4. Yr Archifau Cenedlaethol, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4015. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 16–30 Apr. 1918. ‘Form S. A. Revised. British S.S. “Oronsa”’, dim lle cyhoeddi.