Single Project

JANVOLD

JANVOLD
ENW LLONG: JANVOLD
LLEOLIAD: -5.32,52.87

Credir mai’r JANVOLD ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.

Agerlong a adeiladwyd ym 1904 gan y Grangemouth & Greenock Dockyard Co. ar Afon Clud yn yr Alban oedd y JANVOLD. Yn ystod ei hoes roedd ganddi bum perchennog a newidiwyd ei henw deirgwaith – o’r MAIMAXA i’r JAN BLOCKX, yna’r GIJONES, ac yn olaf y JANVOLD. Y perchennog olaf oedd Johs Larsen o Bergen. Capten y llong ar ei mordaith olaf o Bilboa i Glasgow gyda llwyth o fwyn haearn oedd Julius Kristoffer Meyer. Ar 26 Mai 1918, suddwyd y JANVOLD yn Sianel San Siôr oddi ar Ynys Enlli gan dorpido wedi’i danio gan yr U 98. Collodd pedwar llongwr eu bywydau – Bernhard Hansen, y Peiriannydd 1af, o Bergen, 46 oed; Haakon Kristiansen, Llongwr, o Holmestrand, 33 oed; Aksel Bruvik, Taniwr, o Bruvik ger Bergen, 25 oed; ac Emilio Lascano, Llongwr, a anwyd ym 1897 yn Buenos Aires ac a oedd wedi ymuno â’r llong ym mis Mawrth 1918.

Adeiladwyd y JANVOLD ar Afon Clud i Edmund Des Fountaines o Archangel. Rhoddwyd yr enw MIAMAXA (enw lle: ‘Maimaksa’ heddiw) ar y llong ar ôl cangen o Afon Dvina yn Archangel sy’n llifo i’r Môr Gwyn drwy ddrysfa o ynysoedd bach yn nelta’r afon. Mae cysylltiadau masnachu’r teulu â Rwsia yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1800au drwy bum cenhedlaeth. Mae melinau coed mawr i’w cael ar hyd y Maimaksa hyd heddiw, ac mae’n debyg i lawer o’r llwythi cynnar a gludwyd gan y llong ddod o’r melinau hyn.

Ym 1912, ar ôl 8 mlynedd ym mherchnogaeth Edmund Des Fountaines, gwerthwyd y llong i gwmni o’r Iseldiroedd.  Am y tair blynedd nesaf, roedd yn eiddo i gwmni J. F. & F. Schellen o Rotterdam o dan yr enw JAN BLOCKX. Enwyd y llong ar ôl cyfansoddwr adnabyddus o Wlad Belg a fu farw yn yr un flwyddyn ag y newidiodd y llong ddwylo.

Roedd yn eiddo i Schellen am flwyddyn yn unig cyn cael ei gwerthu i Magnus Blikstad yn Oslo a’i hailenwi’n GIJONES. Ymddengys fod yr enw newydd hwn yn cadarnhau bod cysylltiadau masnachu cryf rhwng y cwmni a gogledd Sbaen, yn enwedig rhanbarthau cynhyrchu mwyn haearn fel Asturias (mae Gijones yn golygu rhywun sy’n perthyn i ddinas yn y rhanbarth hwn) a’r ardal o gwmpas Bilbao.

Cafwyd perchennog newydd eto ar ddechrau 1916. Prynodd pedwar cwmni llongau sefydledig o Norwy, Jacobsen & Co., Frithjof Hansen & Amund Utne, A Wilhelm Johannessen a Jan O. Østervold, gyfrannau yn y llong. Cafodd cwmni a oedd yn dwyn enw newydd y llong ei ffurfio i’w rheoli (A/S D/S JANVOLD). Sut bynnag, bedwar mis yn ddiweddarach, daeth Johannes Larsen o Bergen, yn unig berchennog, gan ychwanegu’r llong at ei lynges fach a oedd yn cynnwys y GUSTAF E FALCK, y LIBERTA ac, o fis Ebrill 1918, yr IBIS.

Mae’r ffotograff hwn o’r JANVOLD yn dangos y camau a gymerwyd gan y perchnogion i atal ymosodiadau ar y llong – cafodd enw’r llong, o ba wlad roedd yn dod (gwlad niwtral), a baneri Norwy eu paentio’n glir ar ei hochrau. Ffynhonnell: Llun drwy gwrteisi Uboat-Net.

Roedd Julius Christopher Meyer, capten y JANVOLD, yn brofiadol iawn. Yn ogystal, roedd criw’r llong wedi cael hyfforddiant yn y mesurau i’w cymryd pe bai llong danfor yn ymosod. Lai na mis yn gynharach, roedd hi wedi mynd i achub criw yr SS POITIERS yn ystod ymosodiad gan long-U. Roedd hi ar ei ffordd o Bilbao i Gaerdydd y tro hwnnw, gyda chargo o fwyn haearn, pan deimlwyd ysgytiad mawr drwy’r llong. Roedd y criw wedi lansio bron pob bad achub pan sylweddolwyd mai nid y JANVOLD oedd wedi cael ei tharo ond agerlong arall gerllaw.

Gadawodd Meyer ei griw yn y badau achub lle roeddynt yn weddol ddiogel a, gyda’r 2il Beiriannydd yn unig ar fwrdd y llong, yn ystafell yr injanau, fe lywiodd y JANVOLD at griw’r POITIERS a oedd yn y dŵr. Aeth torpido heibio i du blaen y JANVOLD wrth iddi droi i’r man lle roedd y POITIERS wedi suddo, a hynny mewn hanner munud. Cafodd ail agerlong, a thrydedd un, eu suddo nid nepell i ffwrdd hefyd yn ystod yr amser yr oedd y JANVOLD wedi achub un llond cwch o forwyr. Yna penderfynodd Meyer fynd â’r JANVOLD i’r dŵr basach islaw Hartland Point i aros am y badau achub a oedd wrthi’n codi mwy o oroeswyr.

Wrth i fadau achub y JANVOLD gael eu codi’n ôl ar y llong, saethodd torpidos eraill heibio i’w blaen a’i starn gan daro’r lan. Yna gadawyd llonydd i’r JANVOLD a aeth yn ei blaen yn araf gan lynu’n agos at yr arfordir. Darganfuwyd i ddeg o griw’r POITIERS gael eu lladd.

Wrth gyflwyno adroddiad am y digwyddiad ym mis Gorffennaf 1918, rhoddodd Meyer glod i’w griw am fod mor effeithlon a hunanfeddiannol – yn enwedig William Kihl, y Swyddog 1af, Olaf Saetre, yr 2il Swyddog, Bernard Hansen, y Prif Beiriannydd, Elis Fahlstrom, yr 2il Beiriannydd ac Evald Anderse, y Stiward.

Roedd yr aelodau criw hyn ar fwrdd y JANVOLD ar ei thaith dyngedfennol olaf. Ar 25 Mai, roedd y llong wedi cyrraedd Aberdaugleddau ac wedi angori, gan ddisgwyl cyfarwyddiadau newydd cyn parhau â’i mordaith i Glasgow. Cafodd orchmynion newydd, a neilltuwyd llong hebrwng iddi – y dreill-long HM LORD ALLENDALE. Roedd y ddwy long yn hwylio heibio i Ynys Enlli am tua 4 o’r gloch y bore ar 26 Mai pan drawyd tu ôl y JANVOLD gan dorpido. Yn ei adroddiad i’r ymchwiliad swyddogol i’r suddo, dywedodd Meyer i gefn cyfan y llong hedfan i’r awyr.

Pan redodd y dynion i’r ddau fad achub, darganfuwyd y byddai’n amhosibl lansio’r bad achub ar yr ochr dde gan fod plât metel mawr o’r dec ôl yn gorwedd arno. Aeth pawb wedyn i’r bad achub ar yr ochr chwith, gan lwyddo i’w ostwng i’r dŵr. Gan fod y JANVOLD erbyn hyn ar ogwydd o 30 gradd, roedd yn amlwg y byddai’r llong yn suddo’n gyflym iawn a rhoddodd Meyer orchymyn i bawb neidio i’r môr. Cafodd rhai o’r criw eu llusgo i lawr gan y sugn wrth i’r llong ddiflannu. Daeth rhai ohonynt yn ôl i’r wyneb eto a llwyddasant, gyda gweddill y criw a oedd wedi goroesi, i nofio i’r bad achub a oedd wedi’i ddinistrio. Nofiodd eraill i gwch modur a oedd gryn bellter i ffwrdd. Pan sylweddolodd criw’r LORD ALLENDALE fod y JANVOLD yn suddo, prysurodd draw i gymryd pawb ar ei bwrdd. Yna bu’n chwilio am ddwy awr arall am y pedwar dyn a oedd yn dal ar goll cyn dychwelyd i Aberdaugleddau.

Mae rhestr griw olaf y JANVOLD yn cofnodi enwau a dyletswyddau aelodau’r criw – er enghraifft, ‘maskinist’, sy’n golygu peiriannydd a ‘styrmand’ sy’n golygu llywiwr. Ffynhonnell: Amgueddfa Fôr Norwy / Norsk Maritimt Museum.

Heb yn wybod i griw’r LORD ALLENDALE, roedd yr U 98 wedi parhau i anelu am Ynys Enlli. Byddai’r llong-U wedi bod mewn cryn drafferth pe bai’r dreill-long wedi gwrthymosod. Mae log swyddogol y llong danfor yn nodi bod y hydroplan blaen wedi peidio â gweithio ar ddiwrnod cyntaf y patrôl (oherwydd difrod i’r berynnau). Roedd y Kapitänleutnant Rudolf Andler wedi penderfynu rhoi ei long danfor ar wely’r môr ger Ynys Enlli er mwyn ei hatgyweirio. Wrth osgoi agerlong arfog fach y diwrnod cynt, dim ond yn araf iawn yr oedd wedi gallu plymio i 50m fel na allai gwn ôl yr agerlong danio arno. Ysgrifennodd Andler, ‘Dydw i ddim eisiau gorwedd ar wely’r môr yn ystod y dydd gan nad yw’r llong yn wrth-olew bellach yn sgil tywydd drwg 23 Mai. Bydd yn rhaid i mi beidio ag ymosod pan fydd ymchwydd y môr mor uchel â hyn nes bod y broblem gyda’r hydroplan blaen wedi’i datrys. Mae plymio mewn argyfwng, plymio’n gyflym ac ailgodi i ddyfnder y perisgop i gyd yn symudiadau na ellir ymgymryd â hwy’n ddiogel heb yr hydroplan blaen.’

Nid oedd Andler yn siŵr a ddylai ymosod ar y JANVOLD ac ysgrifennodd, ‘Rydw i’n cloffi rhwng dau feddwl, rhwng archwilio’r hydroplan neu fynd i’r afael â’r agerlong. Penderfynu ar yr ail.’

Seliodd y penderfyniad hwnnw dynged y JANVOLD. Am 0:08 y bore, gwelwyd yr agerlong a’i threill-long hebrwng yng ngolau’r lleuad. Taniodd y llong-U o 1200m a throdd i ffwrdd yn gyflym. Ar ôl 3 munud 5 eiliad fe glywyd y ffrwydrad. Yna, drwy’r perisgop, gwelwyd cwmwl o fwg du yn codi uwchben yr agerlong. Yna dim ond y llong warchod (y LORD ALLENDALE) oedd i’w gweld lle bu’r JANVOLD.

Hoffem ddiolch yn arbennig i Marian Gray a Preben Vanberg o Brifysgol Aberystwyth ac Elisabeth Koren o Amgueddfa Fôr Norwy (Norsk Maritimt Museum) am eu cymorth caredig wrth roi stori’r JANVOLD wrth ei gilydd.
Ffynonellau: 

The National Archives, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4017. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 16–30 May 1918. ‘Form S. A. Norwegian SS JANVOLD’, n.p.