ENW LLONG: H5 LLEOLIAD: -4.70, 53.09
ENW LLONG: H5 LLEOLIAD: -4.70, 53.09
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r H5 ydy’r llongddrylliad hwn.
‘I regret to report that Submarine H.5, having failed to return from patrol, is considered to have been lost with all hands. It is further considered that she was the Submarine referred to in the following message from Vice Admiral, Milford Haven: observing that her line of patrol was in Lat 53 6N between Long 4 30’ and 4 50’ W.
Message begins: “Master of S. S. RUTHERGLEN reports that his Vessel rammed Submarine 2030, 2 nd. March within position Lat. 53 4’ N, Long. 4 40’ W. Submarine was crossing bow at considerable speed. After collision cries were heard and men seen in the water, also there was a strong smell of petrol vapour. Forepeak of “Rutherglen” is flooded”. Ends.’
Felly y dechreuodd yr adroddiad a anfonwyd ar 7 Mawrth 1918 gan y Capten Martin Nasmith, V.C. (Croes Fictoria), at yr Is-Lyngesydd Syr Lewis Bayley, Llyngesydd â Rheolaeth ar y Dynesfeydd Gorllewinol.
Erbyn diwedd 1917, roedd lluoedd America a Phrydain yn cydweithredu yn eu hymdrechion i ddinistrio llongau-U ym Môr Iwerddon. Yn gynnar ym 1918, rhoddwyd ‘Ymgyrch GF’ ar waith: byddai wyth llong danfor Brydeinig yn gweithio gyda’r USS BUSHNELL a saith llong danfor dosbarth AL o amgylch arfordir Iwerddon ac ym Môr Iwerddon. Fel rhan o’r bartneriaeth, byddai swyddogion o Lynges yr Unol Daleithiau yn ymgymryd â theithiau ymgyfarwyddo ar fwrdd llongau tanfor Prydeinig. Roedd yr ymgyrch mor gyfrinachol fel na roddwyd gwybod i longau masnach a llongau a oedd yn hebrwng confois bod llongau tanfor Prydeinig yn gweithredu yn yr ardal.
Ar 26 Chwefror 1918, hwyliodd un o’r llongau tanfor Prydeinig, yr HMS H5, o Berehaven dan reolaeth y Lefftenant A. W. Forbes, D.S.O. (Urdd Gwasanaeth Nodedig). Roedd Earle Childs, Swyddog Cyswllt gyda Llynges yr UD, ar fwrdd y llong ar daith hyfforddi ac roedd disgwyl iddi ddychwelyd i’w phorthladd ar fore 6 Mawrth. Ond ar 2 Mawrth fe adroddodd capten yr SS RUTHERGLEN yn Aberdaugleddau fod y llong wedi taro llong danfor a oedd yn croesi o’i blaen yn gyflym iawn yn y lleoliad Lledred 53° 4 Gogledd, Hydred 4° 40 Gorllewin. Adroddwyd hefyd i ddynion gael eu clywed yn gweiddi a stryffaglu yn y dŵr. Roedd y RUTHERGLEN dan orchymyn i osgoi mynd yn ysglyfaeth i longau-U eraill gerllaw, felly hwyliodd ymlaen. Bu farw pob aelod o griw yr H5.
Yng ngoleuni adroddiad capten y RUTHERGLEN a diflaniad yr H5, argymhellodd Capten Nasmith y dylid rhoi’r argraff i griw’r RUTHERGLEN eu bod wedi suddo llong danfor Almaenig ac y dylid talu’r wobr safonol iddynt am y fath gamp.
Llong danfor Dosbarth ‘H’ a oedd yn seiliedig ar y cynllun 602 Americanaidd oedd yr HMS H5. Byddai rhannau’n cael eu harchebu o’r UD i’w cydosod yng Nghanada. Ar ôl cael eu cwblhau, byddai’r llongau tanfor yn croesi Môr Iwerydd ac roeddynt ymhlith y cyntaf i wneud y daith. Roedd gan yr H5 bedwar tiwb torpido 18 modfedd (45.72 cm) a chariai wyth torpido. Byddai ganddi griw safonol o 22 o ddynion fel rheol, ond ym 1918 roedd ganddi griw o 26.
Roedd y Lefftenant Cromwell Hanford Varley yn un o gapteiniaid cyntaf yr H5. Bu’r llong danfor yn gweithredu am gyfnod o Harwich a suddodd hi’r U 51 ar 14 Gorffennaf 1916. Treuliodd amser wedyn ym Môr Iwerddon yn Queenstown a Rathmullen, ac ym mis Medi 1917 ymunodd â’r llynges o longau tanfor a oedd yn gweithredu o Berehaven ym Mae Bantry ac yn Killybegs, Iwerddon. Gan weithio o’r llongau depo HMS VULCAN ac HMS AMBROSE, ei gwaith hi oedd dal a dinistrio llongau-U a oedd yn gweithredu o amgylch arfordir Iwerddon, ac yn y Dynesfeydd Gorllewinol a Môr Iwerddon. Ar ôl i Varley adael yr H5 fe gymerodd Forbes drosodd. Roedd yn swyddog profiadol ac roedd gan ei benaethiaid, gan gynnwys Nasmith, feddwl mawr ohono. Erbyn 1918 roedd gan yr H5 griw o 26. Roedd gan bump ohonynt Fedal Gwasanaeth Nodedig (D.S.M.) ac roedd gan y comander fedal Urdd Gwasanaeth Nodedig. Mae’n bosibl bod un o’r criw yn perthyn i’r teulu Anson enwog.
Collodd criw yr H5 eu bywydau o ganlyniad i bum ffactor anffodus. Yn gyntaf oll, roedd llongau-U yn gweithredu ym Môr Iwerddon, felly roedd codi goroeswyr yn beth peryglus i unrhyw long ei wneud. Roedd dau o griwserau’r Llynges Frenhinol wedi cael eu taro gan dorpidos ar ôl stopio i helpu llongwyr o un o’u llongau eu hunain ym 1914, ac felly roedd y Morlys wedi cynghori llongau y dylent adael goroeswyr i’w tynged er mwyn eu hachub eu hunain. Yn ail, roedd llongau tanfor Prydeinig, fel y rhai Almaenig, yn amrywio’n fawr o ran eu siâp a’u maint. Heb wybodaeth arbenigol am amlinellau llongau tanfor Prydeinig, byddai gwylwyr ar longau nad oeddynt yn gyfarwydd ag arfau newydd o’r fath yn dibynnu’n aml ar farciau adnabod i wahaniaethu rhwng cyfaill a gelyn. Mae nifer y llongau tanfor a suddwyd gan eu hochr eu hun yn y Rhyfel Mawr yn isel o’i gymharu â’r holl longau tanfor a gollwyd. Cafodd o leiaf 56 eu colli a dim ond pedair o’r rheiny a suddwyd gan eu hochr eu hun. Serch hynny, digwyddodd bron pob un o’r colledion hyn o ganlyniad i fethiant unedau cyfeillgar i adnabod signalau neu farciau. Yn achos yr H5, ychwanegwyd at y dryswch gan ddau ffactor arall – roedd yn dywyll ac yn anodd gweld dim, ac nid oedd y llongau masnach yn gwybod bod yr H5 yn y cyffiniau.
Yn olaf, gan nad oedd arfau ar y RUTHERGLEN i’w hamddiffyn ei hun, yr unig ffordd y gallasai’r llong fasnach oroesi pe bai’r H5 wedi bod yn llong-U fyddai drwy ymladd neu ffoi. Yn wir, dim ond pedwar mis ar ôl i’r RUTHERGLEN daro a suddo’r H5, fe gafodd ei suddo ei hun gan long-U ym Môr y Canoldir.
Heddiw, mae aelodau criw’r H5 yn cael eu coffáu ar banel 29 yn Amgueddfa Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol, ac ar Gofebau’r Llynges yn Chatham, Plymouth a Portsmouth. Mae enw’r Lefftenant Childs ar gofeb yn y Fynwent Americanaidd yn Brookwood. Ef oedd y tanforwr Americanaidd cyntaf i farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ers mis Rhagfyr 2001 mae HMSM H5 yn cael ei diogelu fel Safle Rheoledig o dan Ddeddf Gwarchod Gweddillion Milwrol 1968. Mae’r offeryn statudol presennol yn diffinio ardal gyfyngedig â radiws o 300m wedi’i chanoli ar 53 05.483G, 04 41.975Gn (offeryn statudol 2008/950). O dan Ddeddf Gwarchod Gweddillion Milwrol 1968 mae’n anghyfreithlon i gynnal unrhyw weithrediadau (gan gynnwys deifio) o fewn parth rheoledig a allai darfu ar y gweddillion oni cheir trwydded i wneud hynny gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ffynonellau: ‘Ambrose's Flotilla.’ The Dreadnought Project. 6 Mehefin 2016. Gwefan. Armstrong, P. a Young, R. 2010. Silent Warriors: Submarine Wrecks of the United Kingdom, Clawr 3, Briscombe Port: History Press Limited. Evans, S. A. 1986, Beneath the Waves: A History of HM Submarine Losses, 1904 - 1971, Barnsley: Pen & Sword. ‘Eighth Submarine Flotilla (Royal Navy).’ The Dreadnought Project. 6 Gorff. 2018. Gwefan. ‘Fourteenth Submarine Flotilla (Royal Navy).’ The Dreadnought Project. 3 Tach. 2015. Gwefan. Gray, Edwyn. 2016, British Submarines at War: 1914 - 1918. Barnsley: Pen & Sword. ‘H Class.’ Battleships-Cruisers.co.uk. d.d. Gwefan. ‘H-Class Submarines- Photo Gallery.’ The World War I Document Archive. d.d. Gwefan. ‘Holyhead H.M. Submarine H5 War Memorial.’ Role of Honour: Lest We Foret. Martin Edwards. 2015. Gwefan. Kemp, Paul J. 1990, British Submarines of World War One, Llundain: Arms & Armour. Massie, Robert K. 2004, Castles of Steel: Britain, Germany, and the Winning of the Great War at Sea, New York: Ballantine Books. Perkins, J. D. 1999. ‘The Canadian Built British H-Boats.’ The World War I Document Archive. GWPDA.org. 12 Gorff. 1999. Gwefan. Raymond, R. and Walsh, Jean M. 1999. Roll of Honour: Royal Navy and Royal Naval Volunteer Reserve Casualties in the Submarine Services, 1914-1918. Blackburn: T.H.C.L Books. ‘Second Submarine Flotilla (Royal Navy).’ The Dreadnought Project. 5 Gorff. 2018. Gwefan. ‘Submarine Losses.’ National Museum of the Royal Navy.d.d. Gwefan. Tennent, A. J. 1990, British Merchant Ships Sunk by U Boats in the 1914 - 1918 War, Newport: Starling Press. Terraine, John. 1989, Business in Great Waters. The U-Boat Wars 1916 - 1945. Llundain: Leo Cooper. The National Archives, Kew. ADM - Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/2076. Commodore (S) War Records, Volume X. Reports of Proceedings of Submarines Attached to HMS Dolphin, HMS Vulcan, HMS Platypus, HMS Adamant, HMS Bonaventure and HMS Ambrose t.664-668. ‘USS Childs (DD-241/ AVP-14/ AVD-1).’ Navsource Naval History: Photographic History of the United States Navy. 1996-2017. Gwefan. Whitehouse, Arch. 1961. Subs and Submariners. Llundain: Frederick Muller Limited.