ENW LLONG: DRINA LLEOLIAD: -5.30, 51.67
ENW LLONG: DRINA LLEOLIAD: -5.30, 51.67
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r DRINA ydy’r llongddrylliad hwn.
Teithlong ager ag arfau amddiffynnol oedd y DRINA. Roedd hi’n teithio o Buenos Aires i Lerpwl pan drawodd ffrwydryn ar Ddydd Gŵyl Dewi 1917, ddwy filltir o Ynys Sgogwm, nid nepell o Aberdaugleddau. Roedd y DRINA wedi cael ei hawlio fel llong ysbyty a hi oedd y llong fasnach gyntaf i’w meddiannu at y pwrpas hwnnw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond adeg ei suddo roedd hi’n cludo cargo. Collodd pymtheg o bobl eu bywydau pan suddodd.
Teithlong ager Brydeinig oedd HMHS (Llong Ysbyty Ei Fawrhydi) DRINA. Cafodd ei hadeiladu gan Harland & Wolff, Ltd., Belfast, ym 1913 ac adeg ei cholli roedd hi’n eiddo i’r Royal Mail Steam Packet Company, Belfast. Roedd hi wedi cael ei hawlio gan y Morlys i’w defnyddio fel llong ysbyty yn gynharach yn y rhyfel. Ond yn gynnar ym 1916 penderfynwyd y byddai’n fwy defnyddiol fel llong gargo, a phan gafodd ei suddo roedd hi’n cludo cargo o goed, carbon a chig a 300 tunnell o goffi, yn ogystal â 189 o deithwyr. Roedd ganddi wn 6 modfedd ar ei starn hefyd.
Ar 1 Fawrth 1917, roedd y DRINA ar daith o Buenos Aires i Lerpwl ac yn dilyn arfordir Cymru yn y nos pan gafodd ei suddo gan ffrwydryn wedi’i osod gan y llong danfor Almaenig, yr UC 65, ddwy filltir i’r gorllewin o Ynys Sgogwm oddi ar Aberdaugleddau. Cafodd 319 o deithwyr a chriw eu hachub gan i’r llong aros ar yr wyneb am hanner awr, gan roi amser i lansio a llenwi’r badau achub. Sut bynnag, collodd dau o’r teithwyr ac 13 o’r criw eu bywydau pan suddodd y llong.
Un o’r 13 o longwyr a gollodd eu bywydau pan suddwyd y DRINA oedd Frederico Saldanha Jones o Gasnewydd a oedd yn 22 oed ac yn 4ydd peiriannydd ar y llong. Cafodd ei eni yn Rio de Janeiro, Brasil, ym 1896, yn fab i Cathleen Lloyd a David Morris Jones, ond roedd yn byw ym Merthyr Tudful ac aeth i’r ysgol yno.
Roedd y ffrwydryn môr a suddodd y DRINA wedi cael ei osod gan yr UC 65 dan reolaeth y KapLt Otto Steinbrinck dair wythnos yn gynharach. Mae dyddiadur rhyfel Steinbrinck a map wedi’i dynnu â llaw wedi ein helpu i ateb rhai o’r cwestiynau yn ymwneud â suddo’r DRINA. Yn y ffynonellau hanesyddol adroddir iddi gael ei suddo ar 1 Mawrth 1917 ger Sgogwm gan dorpido wedi’i danio gan yr UC 65. Ond y diwrnod hwnnw roedd yr UC 65 ar batrôl yn y Sianel lle ymosododd ar nifer o longau pysgota a’u dinistrio. Serch hynny, os edrychir ar y mapiau a dynnwyd gan y KapLt Steinbrinck, daw’n amlwg mai’r UC 65 a oedd yn gyfrifol am suddo’r DRINA hefyd gan i griw y llong danfor osod tri llinyn o ffrwydron môr dair wythnos yn gynt yn ystod cyrch beiddgar ar Aberdaugleddau.
Penderfynwyd defnyddio’r DRINA at ddefnydd masnachol eto gan fod prinder llongau â chyfleusterau oeri. Gallai’r DRINA gludo cargo mawr o gig oer neu gig rhew yn ei howldiau inswleiddiedig – cymaint â 75,000 o chwarthorion o gig eidion. Roedd ganddi hefyd adrannau oer ar gyfer cadw cynnyrch llaeth a ffrwythau’n ffres. Yn ogystal, roedd celiau sadio ganddi i sicrhau sefydlogrwydd, a 2440 tunnell o ddŵr balast mewn 12 tanc. Aeth 92 o fagiau o lythyrau a pharseli i lawr gyda’r llong.
Adeg ei suddo, roedd criw’r RADNORSHIRE ar fwrdd y DRINA. Roedd y RADNORSHIRE wedi cael ei chipio a’i suddo a’r criw wedi’u hanfon i’r Almaen. Roeddynt wedi cael eu rhyddhau ac ar eu ffordd yn ôl i Brydain ar y DRINA. Un o griw’r RADNORSHIRE oedd gŵr o’r enw A. da Silva, a restrwyd fel ‘Portugese Indian’ ac ‘officer servant’. Mae’n ymddangos i weithredwr weiarles y RADNORSHIRE, Edward Sheehy, Gwyddel 22 oed, ddioddef yn enbyd a bu farw ar 11 Gorffennaf 1917 yn ei gartref yn Tuam, Swydd Galway.
Llongwr arall ar fwrdd y DRINA oedd John Hamilton o Ganada, capten y MAYOLA, sgwner a gawsai ei suddo gan yr U 21 ar 16 Chwefror 1917.
Ffynonellau: Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1894. UC 65. Kriegstagebuch. 4 Chwef. 1917 – 20 Chwef. 1917. 'Drina.' Harland and Wolff: Shipbuilding & Engineering. TheYard.info. d.d. Gwefan. 'One Dive to HMHS DRINA.' Taff the Horns. Taffthehorns.com. d.d.-2018. Gwefan. The National Archives, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/3982. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 1–9 Mawr. 1917. 'British s.s. “DRINA” sunk by submarine', d.t. 'The S.S. Drina - first ship to be converted for use as a Hospital Ship during WW1.' Fascinating Facts Of The Great War. Fascinatingfactsofww1.blogspot.com. 6 Ebr. 2015. Gwefan.