ENW LLONG: DERBENT LLEOLIAD: -4.24, 53.47
ENW LLONG: DERBENT LLEOLIAD: -4.24, 53.47
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r DERBENT ydy’r llongddrylliad hwn.
Cafodd y DERBENT ei hadeiladu gan Armstrong Whitworth & Co. Ltd. yn Newcastle-upon-Tyne ym 1907. Adeiladwyd y llong i Soc Anon d’Armement, d’Industrie et de Commerce, Antwerp, a chafodd ei chwblhau ym mis Mawrth 1908. Cyn cael ei hawlio gan y Morlys ym 1914 bu’n hwylio i borthladdoedd fel Port Arthur, Efrog Newydd a Rangoon. Roedd y tancer ar ei ffordd o Lerpwl i Queenstown, yn cludo 3,860 tunnell o olew tanwydd, pan gafodd ei suddo gan yr U 96 ar 30 Tachwedd 1917 oddi ar Drwyn Eilian.
Adeiladwyd y DERBENT ar afon Tyne, yn iard longau enwog Armstrong Whitworth & Co. yn Low Walker. Roedd yr iard wedi cael ei sefydlu ym 1882 ac, erbyn dechrau’r rhyfel, roedd yn rhan o gwmni a oedd yn gweithgynhyrchu ceir, offer peiriant, pontydd troi, a gynnau ac arfau eraill. Roedd y cwmni’n cyflogi tua 30,000 o bobl. Yn ystod y ddwy flynedd rhwng archebu ac adeiladu’r DERBENT, bu iard Low Walker yn arbenigo mewn adeiladu tanceri (roedd rhif iard 801 OBERON a gwblhawyd ym 1907 hyd at rif iard 817 MAGIVE a gwblhawyd ym 1909 i gyd yn danceri).
Ymunodd y DERBENT â llynges Soc Anon d’Armement, d’Industrie et de Commerce, Antwerp. Mae dogfennau sydd wedi goroesi wedi rhoi ychydig o wybodaeth am symudiadau’r llong, er enghraifft, gwyddom iddi angori yn Gravesend chwe mis ar ôl iddi gael ei chwblhau ar 24 Medi 1908.
Ym mis Awst 1909, cyrhaeddodd y llong Port Arthur, Texas, lle roedd y diwydiant olew wedi dechrau ffynnu. Ym 1901, roedd y Capten Anthony F Lucas wedi darganfod olew o dan gromen halen Spindeltop Hill. Dyma’r tro cyntaf i olew gael ei ddarganfod ar Arfordir Gwlff yr Unol Daleithiau. Erbyn 1910, pan gyrhaeddodd y DERBENT Port Arthur, roedd Gulf Oil a Texaco, sydd bellach yn rhan o Gorfforaeth Chevron, wedi cael eu ffurfio i ddatblygu cynhyrchu olew yn Spindeltop ac roedd cronfeydd wrth gefn pellach wedi’u darganfod. Oherwydd maint y cronfeydd hyn, roedd bellach yn economaidd i ddefnyddio petroliwm at ddefnydd cyffredin. Roedd y DERBENT yn rhan o’r rhwydwaith cludo olew.
Ym mis Mawrth 1914, roedd y DERBENT yn galw yn Rangoon, Burma.
Dechreuodd wasanaethu’r Llynges Frenhinol ar 4 Medi 1914 pan gafodd cofrestrfa’r llong ei newid i Borthladd Llundain. Daeth yn eiddo i’r Arglwydd Uchel Lyngesydd, y Morlys, Llundain, SW1, sef Winston Churchill. Câi’r llong ei rheoli o ddydd i ddydd gan gwmni preifat, Messrs Lane and McAndrew, yn ôl yr arfer ar gyfer llongau’r Llynges Frenhinol Atodol.
Cafodd y llong ei hawlio i wasanaethu’r Llynges tua’r un adeg ag y llofnododd Twrci (yr Ymerodraeth Otomanaidd) y Cytundeb Twrcaidd-Almaenig, gan ymuno â’r rhyfel ar ochr yr Almaen ar 28 Hydref 1914. Pan oedd yr Ymerodraeth Otomanaidd yn niwtral, roedd yn bosibl anfon cyflenwadau i Rwsia (cynghrair Prydain a Ffrainc) drwy gulfor y Dardanelles i borthladdoedd yn y Môr Du. Yn awr bod y culfor ar gau, roedd perygl na fyddai’n bosibl cyflenwi Rwsia ar y môr o gyfeiriad y de.
Yn ystod misoedd y gaeaf wedyn, paratodd y Ffrancwyr gynlluniau i gipio’r culfor yn ôl, ond gwrthodwyd y rhain gan Brydain. Cynigiodd Prydain fanteision ariannol, ond methodd y rhain â darbwyllo’r Ymerodraeth Otomanaidd i newid ochr. Cynllun Winston Churchill oedd ymosodiad gan longau rhyfel ynghyd â meddiannu’r culfor gan fyddin fach. Y gobaith oedd y byddai ymosodiad ar yr Ymerodraeth Otomanaidd yn tynnu Bwlgaria a Groeg (gwledydd a oedd gynt dan reolaeth yr Otomaniaid) i mewn i’r rhyfel ar ochr y Cynghreiriaid. Daeth yr hwb terfynol i roi’r cynllun ar waith ym mis Ionawr 1915, pan apeliodd Rwsia am gymorth yn erbyn yr Otomaniaid a oedd wedi cychwyn ymosodiad ar y tir yn ardal ddwyreiniol y Môr Du (Georgia heddiw). Roedd cynllun y Cynghreiriaid yn uchelgeisiol – yn ogystal ag adennill rheolaeth dros y culfor a Môr Marmara, byddai prifddinas yr Otomaniaid, Caer Gystennin (Istanbul heddiw), yn cael ei chipio hefyd.
Dechreuodd cam cyntaf yr ymosodiad ar 17 Chwefror 1915, pan hedfanodd awyren fôr Brydeinig dros yr ardal ar gyrch ragchwilio. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, dechreuodd cyrchlu Eingl-Ffrengig, gan gynnwys y dreadnought Prydeinig HMS QUEEN ELIZABETH, beledu magnelfeydd arfordirol yr Ymerodraeth Otomanaidd o bell. Erbyn 25 Chwefror, roedd y caerau allanol yn rwbel a’r fynedfa i’r Dardanelles wedi’i chlirio’n rhannol o ffrwydron môr. Yna glaniwyd Môr-filwyr Brenhinol i ddinistrio’r magnelfeydd yn Kumkale a Seddülbahir, tra symudodd y llongau i beledu’r magnelfeydd rhwng Kumkale and Kephez.
Wedi’i galonogi gan y llwyddiannau cychwynnol hyn, lluniodd y Llyngesydd Sackville Carden gynlluniau newydd ar gyfer ymosodiad mwy o faint gan ddefnyddio mwy o longau o lynges Môr y Canoldir. Yn y digwyddiadau a ddilynodd hyn, chwaraeodd y DERBENT ran gefnogol fel un o longau’r Llynges Frenhinol Atodol. Er enghraifft, ar 8 Mawrth 1915, roedd y llong yn Port Mudros, Lemnos, un o ynysoedd Gwlad Groeg, yn dadlwytho 275 tunnell o olew tanwydd i’r criwser HMS PHAETON. Ar 18 Mawrth, dechreuodd HMS PHAETON a 18 cadlong, ynghyd â llu o griwserau a distrywlongau eraill, yr ymosodiad mawr yr oedd Carden wedi’i gynllunio. Cafodd HMS INFLEXIBLE, banerlong y Llynges Frenhinol ym Môr y Canoldir, ei tharo sawl gwaith a chafodd ei difrodi cymaint gan ffrwydryn môr fel y bu’n rhaid tirio’r llong ar ynys Bozcaada (Tenedos) i’w hatal rhag suddo. Cafodd ei hatgyweirio dros dro yn y fan honno. Yna, ar 6 Ebrill, cafodd ei hailgyflenwi â thanwydd gan y DERBENT er mwyn iddi allu hwylio i Malta i gwblhau’r gwaith atgyweirio.
Yn ôl yn y fynedfa i’r Dardanelles, gorfodwyd llyngesau Prydain a Ffrainc i gilio a rhoi’r gorau i’r ymosodiad yn sgil colledion cynyddol.
Y peth nesaf y gwyddom am y DERBENT yw ei bod yn rhan o gonfoi trawsiwerydd ym mis Gorffennaf 1917 a oedd yn cael ei arwain gan y criwser arfogHMS ROXBOROUGH. Mae stamp yng nghefn rhestr griw’r llong yn awgrymu i’r fordaith orffen yn Plymouth ar 2 Awst 1917.
Yna, drwy gydol mis Hydref ac ar ddechrau mis Tachwedd, roedd yn cael ei hebrwng gan dreill-longau arfog rhwng Queenstown, Y Barri, Manceinion a Lerpwl. Er enghraifft, rhoddwyd gorchymyn i’r 953 RODNEY a’r 1721 CARLEDA hebrwng y DERBENT ar 16 Hydref 1917 rhwng Queenstown a’r Barri, ac i’r 927 BRECK a’r 953 RODNEY ei hebrwng ar 22 Hydref 1917 rhwng Queenstown a Lerpwl.
Roedd y DERBENT wedi gadael Lerpwl am Queenstown am 11pm ar 29 Tachwedd. Er gosod gwylwyr ar y bont ac yn y nyth brân, a sicrhau bod y gynwyr yn barod i danio’r gwn ôl, ymosododd yr U 96 arni am 5.40 y.b. Suddodd starn y llong, ond yn ddigon araf i alluogi’r holl griw (a chudd-deithiwr) i ddianc i’r badau achub. Codwyd y criw gan y llong hebrwng, sef y dreill-long AUCKLAND, a aeth â nhw i Gaergybi.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Chris White ac aelodau eraill Cymdeithas Hanes y Llynges Frenhinol Atodol am eu cymorth wrth lunio hanes y DERBENT.