Single Project

DAMÃO

DAMÃO
ENW LLONG: DAMÃO
LLEOLIAD: -5.11, 52.76

Credir mai’r DAMÃO ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.

Ar 28 Ebrill 1918, yn oriau mân y bore ar noson olau leuad, roedd y DAMÃO, agerlong o Bortiwgal a oedd yn cludo cargo o blwm a sbelter sinc, yn teithio drwy Fôr Iwerddon fel rhan o gonfoi HN62. Capten y llong oedd C. Rocha, ac roedd yn cario 55 o bobl o Bortiwgal ac wyth o Brydain. Roedd y confoi wedi gadael Efrog Newydd ar 13 Ebrill ac roedd yn anelu am Lerpwl. Pan oedd y llongau tuag 20 cilometr o Ynys Enlli, ymosodwyd arnynt gan long danfor Almaenig, yr U 91, dan reolaeth y KapLt Alfred von Glasenapp.

Symudodd yr U 91 yn araf rhwng y llongau o’r tu blaen nes cyrraedd safle rhwng y ddwy agerlong fwyaf, yr ORONSA o Brydain a’r DAMÃO o Bortiwgal. O bellter o 530 metr, taniodd dorpido at yr ORONSA ond nid arhosodd i weld y canlyniad. Yn lle hynny, trodd prif beiriannydd yr U 91 y llong danfor o gwmpas ac anelodd am y DAMÃO. Wrth glywed y torpido cyntaf yn taro’r ORONSA, rhoddodd Glasenapp orchymyn i danio ail dorpido, y tro hwn at y DAMÃO, o 430 metr i ffwrdd. Trawodd yr ail dorpido yr agerlong y tu ôl i’r corn mwg. Er gwaethaf y ffrwydrad, ni suddodd y llong ar unwaith. Yn wir, yn ôl yr adroddiad swyddogol i’r Morlys Prydeinig gan gapten y llong, dychwelodd y criw i’r DAMÃO i geisio ei hachub cyn rhoi’r gorau iddi bedair awr yn ddiweddarach.

O blith y 63 o bobl a oedd ar fwrdd y DAMÃO, llwyddodd pawb ond pedwar i ddianc yn y badau achub. Lladdwyd y Trydydd Peiriannydd a thri thaniwr pan ffrwydrodd y torpido. Codwyd y rhai a oedd wedi goroesi gan y VANESSE.

Enw gwreiddiol y DAMÃO oedd y BRISBANE. Cafodd ei hadeiladu i’r Deutsch-Australische Dampfschiffs-Gesellschaft (Y Cwmni Agerlongau Almaenig-Awstralaidd) gan y cwmni Prydeinig, Swan, Hunter & Wigham Richardson Ltd, a chafodd ei lansio ym 1911. Roedd yn 135 metr o hyd ac 17.4 metr o led ac roedd ganddi dunelledd o 5,668 GRT (tunelledd cofrestredig crynswth). Roedd cyfleusterau oeri ar fwrdd y BRISBANE a byddai’n teithio’n rheolaidd rhwng yr Almaen, Awstralia ac India’r Dwyrain yr Iseldiroedd (Indonesia heddiw).

Ym mis Mehefin 1914, roedd y BRISBANE ar daith yn ôl o Sydney i Hamburg drwy Java. Pan oedd hi’n hwylio drwy Fôr Arabia, fe dorrodd rhyfel allan yn Ewrop a cheisiodd y llong noddfa yn harbwr Mormugão yn Goa, a oedd yn drefedigaeth Bortiwgeaidd bryd hynny.

Er bod Portiwgal yn wlad niwtral, mynnodd llywodraeth Prydain fod yn rhaid i bob llong Almaenig ac Awstraidd mewn porthladdoedd Portiwgeaidd gael eu cipio. Yn y diwedd, ym mis Chwefror 1916, ildiodd Portiwgal i’r pwysau a chipiodd y llongau Almaenig, gan gaethiwo eu criwiau mewn gwersylloedd carchar. Roedd deuddeg swyddog ymysg criw y BRISBANE. Cafodd y rhain eu cadw yng ngwersyll Bicholim. Cafodd llawer o’r criw eu dal yn y gwersyll hyd ddiwedd 1919, pan oedd yr Almaen ac Awstria, o’r diwedd, yn gallu talu am eu cael yn ôl. Ar ôl ei hailenwi, cafodd y BRISBANE ei throsglwyddo i’r cwmni llongau Transportes Maritimos do Estado a oedd yn eiddo i lywodraeth Portiwgal.

Wedi i’r Almaen ddatgan rhyfel yn erbyn Portiwgal, roedd y DAMÃO bellach ar gael i’r UDA a Phrydain i gefnogi ymdrech ryfel y cynghreiriaid. Fel rhan o’r gyd-ymdrech hon, ymunodd y DAMÃO â chonfoi HN62 pan adawodd borthladd Efrog Newydd ym mis Ebrill 1918.

 

Ffynonellau:
Barreiros, E. ac L. Barreiros. 2009. I Guerra Mundial 1914 – 1918 Índia Portuguesa Prisioneiros de guerra Alemães e Austríacos, em campos de concentração em Goa, CFP Boletim do Clube Filatélico de Portugal 410.

Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. U 91. Kriegstagebuch. 10 Ebrill 1918 – 6 Mai 1918.

Bundesarchiv, Militärarchiv, Freiburg. Unterseeboote der Kaiserlichen Marine. BArch RM 97/1032. ‘Abschrift aus dem Privatkriegstagebuch “U 91” (Kapitänleutnant v. Glasenapp).’

Cota, J. P. N. 2011. The Repatriation of the WWI German and Austrian internees in Portuguese India, CFP Boletim do Clube Filatélico de Portugal 432, 19-30.

‘Liste von deutschen Schiffen in portugisischen Häfen.’ Hamburgischer Correspondent und neue hamburgische Börsen-Halle, 1 Mawrth 1916. 17.

‘Shipping.’ The Brisbane Courier, 12 Mehefin 1914. 6.

Sondhaus, L. 2017. German Submarine Warfare in World War I: The Onset of Total War at Sea, Lanham: Rowman & Littlefield.

Yr Archifau Cenedlaethol, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4015. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 16–30 Apr. 1918. ‘Form S. A. Revised. British S.S. “Oronsa”’, dim lle cyhoeddi.