Single Project

CORK

CORK
ENW LLONG: CORK
LLEOLIAD: -4.19, 53.54

Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r CORK ydy’r llongddrylliad hwn.

Fferi a gafodd ei hadeiladu i’r City of Dublin Steam Packet Company i gludo teithwyr a gwartheg ar draws Môr Iwerddon fel rhan o’r fasnach rhwng Dulyn a Lerpwl oedd yr SS CORK.

Adeg ei suddo ar 26 Ionawr 1918, roedd y CORK yn teithio i’r gogledd-ddwyrain o Drwyn Eilian yn cludo cargo cyffredinol o ddefaid, ceffylau a gwartheg rhwng Dulyn a Lerpwl. Cafodd ei gweld rhwng un a dau o’r gloch y bore gan yr U 103, a daniodd dorpido a drawodd ochr chwith y llong, mewn safle ychydig o flaen ystafell yr injanau. Cafodd bad achub rhif tri ei ddinistrio yn y ffrwydrad. Aeth rhan flaen y llong ar dân. Heblaw am y prif beiriannydd, lladdwyd pawb yn ystafell yr injanau. Dan gyfarwyddyd y prif swyddog, ceisiodd gweddill y criw a’r teithwyr ddianc yn y badau achub.

Funud a hanner ar ôl i’r torpido cyntaf daro, cafodd y llong ei siglo gan ffrwydrad arall. Yn fuan wedyn, lansiwyd dau fab achub. Un o’r rhain oedd bad rhif pump. Gyda’r ail fêt, Mr Laurence Doyle, a dyn arall ynddo, fe gafodd ei ysgubo’n glir o’r llong gan y tonnau wrth i’r CORK fynd i lawr. Buont yn rhwyfo o gwmpas am dipyn heb ddod o hyd i unrhyw oroeswyr.

Yna daethant o hyd i rafft yr oedd y saer coed, J. Loughran, a’r ail stiward, J. Keegan, wedi dianc arni. Cawsant eu codi gan yr SS NEW PIONEER am bump o’r gloch y bore, ac wedyn fe ddaeth y llong o hyd i fad achub gyda 25 o ddynion arno. Roeddynt wedi ceisio hwylio tuag at arfordir Cymru, ond bu’r tywydd yn drech na nhw. Dim ond ar ôl llosgi goleuadau signalu y cawsant eu hachub. Roedd darn o fad achub arall wedi goroesi hefyd, ac un dyn arno.

Tystiodd Mr P. Maloney o Lerpwl, un o’r teithwyr a oroesodd, fod trydydd ffrwydrad wedi taflu glo a dodrefn i’r awyr ychydig cyn i’r CORK suddo.

Suddodd y llong mewn pum munud. Cafodd pump o’r criw a saith teithiwr eu lladd. Cafodd y prif beiriannydd ei gludo i Ysbyty Morwyr Stanley, yn fyddar o’r ffrwydrad ac mewn oferôls carpiog.

Yr SS CORK, un o longau’r City of Dublin Steam Packet Company. Ffynhonnell: Photograph of Cork, ‘City of Dublin SP Co’, Ian Boyle/Simplon Postcards, 1999-2004.

Un o’r teithwyr a gollwyd oedd Miss L. Garvey, 30 oed, teilwres. Roedd ei mam, a oedd yn byw yn Upper Rutland Street (Dulyn mae’n debyg) bryd hynny, yn dibynnu’n llwyr arni am gymorth ariannol. Roedd Miss Garvey a dwy fenyw arall ar y llong ar eu ffordd i Lerpwl i chwilio am waith yn y ffatrïoedd arfau.

Roedd adroddiad mewn un papur newydd am fenyw a roddodd enedigaeth ar y llong. Ni oroesodd y naill na’r llall.

Mae’r pum aelod criw isod yn cael eu coffáu ar gofeb Tower Hill i longwyr masnach:

  • Byrne, James. Llongwr. Ganwyd yn Kingstown, Swydd Dulyn. 40 oed.
  • Doyle, Thomas. Swyddog Cyflenwi. Ganwyd yn Swydd Down. 29 oed.
  • Henry, Olivia. Stiwardes. Ganwyd yn Belfast. 55 oed.
  • McGrath, Michael. Taniwr. Ganwyd yn Kilcarn, Swydd Louth. 42 oed.
  • Phillips, Thomas. Irwr. Ganwyd yn Nulyn. 33 oed.

Roedd y CORK yn bwysig iawn i’r cwmni. Cafodd adroddiad am ei lansio ei gyhoeddi yn y Greenock Telegraph and Clyde Shipping Gazette a rhoddwyd sylw mawr i’w dodrefn a’i chyfarpar.

Byddai suddo’r llong hon, a cholli dwy long arall (y LEINSTER yn un ohonynt a suddwyd ym Môr Iwerddon gyda cholledion mawr), yn cyfrannu at y problemau ariannol a arweiniodd at dranc y cwmni yn y pen draw. Dim ond dwy long a oedd ganddo erbyn diwedd y rhyfel ac roedd cwmnïau eraill yn adeiladu llongau newydd ac yn cymryd ei gontractau drosodd. Aeth y cwmni i’r wal ym 1924.

Ffynonellau:Byrne, James.’ Find war dead & cemeteries. CWGC Commonwealth War Graves Commission. Gwefan. 

‘Doyle, Thomas.’ Find war dead & cemeteries. CWGC Commonwealth War Graves Commission. Gwefan.

Greenock Telegraph and Clyde Shipping Gazette. 13 April 1899. The British Newspaper Archive. Gwefan.

‘Henry, Olivia.’ Find war dead & cemeteries. CWGC Commonwealth War Graves Commission. Gwefan.

Londonderry Sentinel. 31 January 1918. p.4 The British Newspaper Archive. Gwefan.

‘McGrath, Michael.’ Find war dead & cemeteries. CWGC Commonwealth War Graves Commission. Gwefan.

Pearce, Duncan and Anne, Lilian. 1914. ‘Report’, Christiana & Her Children; a Mystery Play. London, New York: Longmans, Green.

‘Phillips, Thomas.’ Find war dead & cemeteries. CWGC Commonwealth War Graves Commission. Gwefan.

Sheffield Daily Telegraph. 29 January 1918. p.5 The British Newspaper Archive. Gwefan.

Tutty, M. J. ‘The City of Dublin Steam Packet Company.’ In Dublin Historical Record, Vol. 18, No. 3 (Mehefin1963), t. 80-90. Cyhoeddwyd gan: Old Dublin Society.