ENW LLONG: CHELFORD LLEOLIAD: -5.06, 52.78
ENW LLONG: CHELFORD LLEOLIAD: -5.06, 52.78
Credir mai’r CHELFORD ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.
Adeiladwyd y CHELFORD gan W. Gray & Co. Ltd., West Hartlepool, ym 1906 i’r brocer llongau Francis Yeoman & Co. o West Hartlepool. Bu farw Francis Yeoman ym 1914 ac ar y pryd, ei fab, Harry Yeoman, oedd rheolwr-berchennog y CHELFORD yn 133 Exchange Buildings, Caerdydd. Roedd y CHELFORD dan falast, h.y. nid oedd yn cludo cargo, ac ar ei ffordd o Glasgow i Barry Roads ar 14 Ebrill 1918 pan gafodd ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr UB 73 yn Sianel San Siôr. Llwyddodd y criw cyfan i ddianc cyn i’r llong suddo.
Roedd adeiladwyr y CHELFORD yn un o gyflogwyr mwyaf Hartlepool am ganrif bron. Adeiladodd lawer o longau ar gyfer y fasnach lo. Fel Caerdydd, roedd ffyniant y dref yn gysylltiedig ag allforio glo. Dechreuwyd datblygu’r porthladd o ddifrif yn y 1830au pan ffurfiwyd y Hartlepool Dock & Railway Co. (y North Eastern Railway wedyn), ac ym 1835 fe gafodd y glo cyntaf i’w allforio o Hartlepool ei gludo yno ar reilffordd o Haswell a Thornley yn Swydd Durham.
Yng Nghaerdydd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd mwy o ddociau er mwyn cynyddu i’r eithaf allu’r dref i allforio glo, a digwyddodd yr un peth yn Hartlepool. Ychwanegwyd Victoria Dock ym 1842, Jackson Dock ym 1852 a Swainson Dock ym 1856. Oherwydd ei chyfleusterau porthladd a chysylltiadau rheilffordd da fe gipiodd Hartlepool fusnes oddi ar ddociau ar afon Tees, a daeth yn un o borthladdoedd glo mwyaf llwyddiannus y Gogledd-Ddwyrain. Yn ystod y blynyddoedd y bu’r CHELFORD yn masnachu, roedd allforion glo a golosg o Hartlepool yn eu hanterth ac roedd Caerdydd yn ail yn unig i’r Barri fel y doc allforio glo mwyaf yn y byd.
Roedd William Gray yn rhedeg busnes dillad a defnyddiau llwyddiannus a daeth i mewn i’r diwydiant adeiladu llongau drwy ei fuddsoddiadau mewn nifer o longau. Ym 1863, ffurfiodd bartneriaeth ag adeiladydd llongau lleol, John Punshon Denton, i ganolbwyntio ar adeiladu llongau haearn yn iard Denton yn Middleton. Mor niferus oedd yr archebion fel y penderfynasant ehangu i ierdydd segur eraill a chyfnerthu daliadau tir a oedd yn cynnwys dau ddoc sych. Roedd hyn yn galluogi’r cwmni i atgyweirio ac adnewyddu llongau yn ogystal â’u hadeiladu.
Daeth y bartneriaeth gyda Denton i ben ym 1874. Ailenwyd y cwmni yn William Gray and Company a daeth yn fwy llwyddiannus byth. Ym 1878 fe gwblhaodd 18 llong ac enillodd wobr am y nifer mwyaf o longau a adeiladwyd mewn blwyddyn gan iard longau Brydeinig. Enillodd yr un wobr ym 1882, 1888, 1895, 1898 a 1900.
Gellir priodoli llwyddiant y cwmni i’r safle 10 erw o’i eiddo lle sefydlwyd y Central Marine Engine Works (CMEW). Enillodd y gwaith enw da am ansawdd ei waith mewn byr amser a thyfodd i gyflogi 1000 o ddynion. Yn wir, mae llyfr-iard William Gray yn cadarnhau bod y CHELFORD yn un o’r llu o longau wedi’u hadeiladu gan Gray y cynhyrchwyd eu hinjanau yn y Central Marine Engine Works.
Dechreuodd Francis Yeoman ei yrfa fel clerc yng nghwmni ei ewythr, Sherinton Foster, a oedd yn gapten llong yn ogystal â brocer a pherchennog llongau. Gwnaed Francis yn bartner maes o law a chafodd y cwmni ei ailenwi’n Foster & Yeoman. Pan fu farw ei ewythr fe gymerodd y busnes drosodd. Yna fe ffurfiodd bartneriaeth gyda’i frawd yng nghyfraith, Joseph Murrell, ym 1882. Diddymwyd y bartneriaeth ym 1902 ond parhaodd Francis Yeoman i redeg y busnes ar ei ben ei hun. Ym 1886, cafodd ei ethol yn ysgrifennydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Hartlepool, ac roedd yn ysgrifennydd y Ffederasiwn Llongau ym 1902. Bu farw ym 1914 a chymerodd ei feibion y busnes drosodd – fel y gwyddom, gwnaeth Harry Yeoman y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn ganolfan i’r cwmni.
Ychydig iawn o ddogfennau sydd wedi goroesi am fordeithiau masnachu’r CHELFORD. Serch hynny, mae’r holl dystiolaeth amgylchiadol yn awgrymu i’r llong barhau yn y fasnach lo Gymreig ar ôl cael ei basio gan y Gwasanaeth Archwilio yn Barry Roads, ac iddi gael caniatâd i symud ymlaen i’w hangorfa lwytho nesaf.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Mark Simmons, Curadur, Amgueddfa Hartlepool, am ei gymorth parod wrth ymchwilio i hanes y CHELFORD.
Ffynonellau: Daily Gazette for Middlesbrough. 29 April 1914. Hartlepool Then and Now. Web. Spaldin, Bert, 1986, Shipbuilders of the Hartlepool, Hartlepool Borough Council. Spaldin, Bert, 2005, Maritime Hartlepool, Printability Publishing Ltd.