ENW LLONG: CARTAGENA LLEOLIAD: ADD TO MAP -5.11, 52.76
ENW LLONG: CARTAGENA LLEOLIAD: ADD TO MAP -5.11, 52.76
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r CARTAGENA ydy’r llongddrylliad hwn.
Enw gwreiddiol y CARTAGENA oedd y TR4. Roedd hi’n un o 60 o dreill-longau ysgubo ffrwydron a archebwyd yng Nghanada at ddefnydd y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddynt yn gopïau o’r treill-longau Dosbarth Castle Prydeinig a oedd yn seiliedig ar y prototeip masnachol a ddyluniwyd gan y Smith Dock Company, Stockton-upon-Tees. Cafodd y TR4 ei hadeiladu gan y Port Arthur Shipbuilding Company, Ontario, a daeth yn rhan o Lynges Frenhinol Canada ym mis Mai 1918.
Y tasgau milwrol a roddwyd fel rheol i’r Treill-longau Morlys hyn oedd patrolio, hebrwng confois ac ysgubo ffrwydron. Cafodd mwy na 200 o’r llongau hyn eu suddo, gan ffrwydron gan amlaf, wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn.
Ar ôl y rhyfel, cafodd y dreill-long ei defnyddio yn y diwydiant pysgota o dan berchenogaeth y Boston Deep Sea Fishing & Ice Co. Ltd. Cafodd ei gwerthu i Weinyddiaeth Forol Brasil ym 1928 a gadawodd Fleetwood gyda chriw danfon ar 15 Ionawr 1928, gan anelu am Rio de Janeiro. Golchwyd bad achub i’r lan yn Llandudno ar 16 Ionawr a gwregys achub yn Carnforth ar 4 Chwefror. Daeth Ymchwiliad gan y Bwrdd Masnach i’r casgliad i’r llong gael ei cholli ar 15 Ionawr 1928, ac i’r criw cyfan foddi. Ar y dyddiad hwn roedd tymestl Grym 8 ym Môr Iwerddon.
Yn sgil y golled gyntaf ar y môr yn ystod y Rhyfel Mawr, pan gafodd yr AMPHION, sgowtgriwser a adeiladwyd yn Noc Penfro, ei suddo gan ffrwydron môr, daeth yn amlwg i’r Morlys nad oedd y llynges o longau ysgubo ffrwydron yn ddigon mawr i amddiffyn porthladdoedd Prydain a’r llwybrau môr o amgylch yr arfordir. Cafodd rhaglen i hawlio treill-longau a driffterau o lynges bysgota’r DU ei sefydlu ar fyrder a ffurfiwyd adran dreill-longau y Llynges Frenhinol Wrth Gefn. Hon oedd rhagflaenydd y llynges newydd o longau ysgubo ffrwydron pwrpasol a gâi ei datblygu wedyn. Erbyn diwedd 1916, nid oedd llawer o longau pysgota addas ar ôl, ac roedd yn hollbwysig sicrhau bod digon o longau pysgota ar gael i ddal pysgod i fwydo’r bobl.
Gofynnodd y Morlys i Smith’s Dock & Co. Ltd. o Middlesbrough, a thri adeiladydd llongau arall (Cook, Welton & Gemmel o Beverley, Cochrane o Selby, a Hall Russell o Aberdeen) i gyflwyno cynlluniau ar gyfer llongau a fyddai’n cyfuno rhinweddau gorau llongau pysgota Môr y Gogledd â rhai o rolau ‘llong ryfel fach’, gan gynnwys ysgubo ffrwydron, chwilio am longau-U a gweithredu rhwystrau amddiffynnol ar draws harbwrs. Gwnaeth y Morlys ychydig o newidiadau i’r cynlluniau ac yna rhoddodd archebion mawr i’r ierdydd hyn (ac eraill) ar gyfer llongau a gâi eu dynodi’n ddosbarth ‘Strath’, ‘Mersey’ neu ‘Castle’.
Mae stori’r CARTAGENA yn symud yn awr i Ganada, lle rhoddwyd archeb ym mis Ionawr 1917 gyda’r Port Arthur Shipbuilding Co. Ltd., Port Arthur, Canada, am 60 Treill-long Morlys Dosbarth ‘Castle’. Cafodd y treill-longau eu hadeiladu dan gyfarwyddyd Llynges Frenhinol Canada (RCN), a chafodd y TR4 ei chwblhau a’i derbyn ar 27 Tachwedd 1917. Treuliodd ei gaeaf cyntaf yn Quebec, yn sownd yn y rhew ar Afon Saint Lawrence. Ar ôl cael eu cwblhau a’u comisiynu, anfonwyd y llongau ymlaen i Sydney, Nova Scotia, i ymuno â llynges batrolio Arfordir y Dwyrain. Llongwyr o Ganada oedd criw’r TR4. Rhai o’r dynion a fu’n gwasanaethu arni oedd Harry Adlem RCN, capten, wedi’i ddilyn gan Nelson Watson Allen RCN, Denzil Stokes Howey, gweithredwr weiarles, o Wirfoddolwyr Wrth Gefn Brenhinol Canada (RCNVR), a Herbert Ward Stones, is-gapten. Pan ddaeth y rhyfel i ben, talwyd y criw a rhoddwyd y TR4 i’w chadw ym mis Mawrth 1919, gan ymuno â 60 treill-long arall ac 86 driffter nad oedd eu hangen mwyach.
Penodwyd yr Anderson Company o Efrog Newydd i geisio gwerthu’r llongau. Gwerthwyd chwech ohonynt i Lynges Mecsico, ond nid oedd modd eu gwerthu i brynwyr yn yr Unol Daleithiau oherwydd cyfreithiau llongau’r wlad.
Ym 1920, derbyniwyd cynnig gan y Rose Street Foundry & Engineering Co. Ltd., Inverness, i ddod â rhai o’r treill-longau a driffterau i’r DU i’w gwerthu. Hwyliasant mewn confoi ar draws yr Iwerydd, ac roedd y TR4 yn un o’r rheiny a roddwyd i’w cadw yn Muirtown Basin, Camlas y Caledonian, yn Inverness, yn barod i’w gwerthu ac, o bosibl, eu hailffitio i’w defnyddio’n dreill-longau ager.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, roedd y TR4 yn parhau yn Inverness, er bod llwyfan y gwn wedi’i dynnu a howld bysgod wedi’i chreu o flaen y byncer. Yn y diwedd fe gafodd ei phrynu gan y Boston Deep Sea Fishing & Ice Co. Ltd., Grimsby. Cafodd Fred Parkes o Blackpool ei benodi’r rheolwr. Newidiwyd enw’r TR4 i CARTAGENA a rhoddwyd rhif pysgota Fleetwood iddi (FD139).
Yna cafodd y CARTAGENA ei throsglwyddo i Grimsby i’w harchwilio gan y Bwrdd Masnach cyn hwylio ymlaen i Boulogne lle cafodd ei harolygu eto er mwyn derbyn dosbarthiad llong rhyngwladol gan gymdeithas dosbarthu llongau Ffrainc, y Bureau Veritas. Dychwelodd y CARTAGENA i Fleetwood i gwblhau’r archwiliadau angenrheidiol cyn gallu ei gwerthu i Weinyddiaeth Forol Brasil ym mis Rhagfyr 1927.
Ar 15 Ionawr 1928, dechreuodd y CARTAGENA ar ei thaith hir i Rio De Janeiro. John Rawlings o Grimsby oedd y capten ac roedd 13 aelod criw arall: Paul Petersen, Is-Gapten; W. H. Grayson, Trydydd Llongwr; Laurence Gratrix, Prif Beiriannydd; M. G. Wilson, Ail Beiriannydd; Peter Brennan, Taniwr; J. P. Monaghan, Taniwr; Albert a Richard Taylor, Decmyn; J. McFarlane, Decmon; W. A. Stelfox, Decmon, ac N. Robertson, Stiward.
Unig olion y dreill-long a ddarganfuwyd wedyn oedd drwm o dar a oedd ar ei dec a’i bad achub, a godwyd o’r môr ger Llandudno ar 16 Ionawr. Dair wythnos yn ddiweddarach, codwyd un o wregysau achub y llong ger Carnforth yn Mae Morecambe.
Roedd peth gwaith atgyweirio wedi’i wneud yn Fleetwood i blât yng nghorff y llong cyn iddi ymadael, ond daeth yr Ymchwiliad ffurfiol gan y Bwrdd Masnach a gynhaliwyd yn Lerpwl i’r casgliad nad oedd yn bosibl priodoli’r golled i hyn ac na ellid ond dyfalu beth oedd wedi digwydd.
Ym 1989, aeth deifwyr i lawr i longddrylliad a oedd wedi’i nodi ar y siartiau ers 1929 a darganfuwyd ei fod yn dreill-long gyfan. Yr enw ar y gloch a achubwyd o’r llong oedd ‘TR4’. Ers hynny mae aelodau Clwb Deifio Caer (BSAC) wedi bod yn ymchwilio i hanes y CARTAGENA a’i thaith drasig olaf.
Ar ddechrau’r rhyfel mawr, credai’r Morlys nad oedd angen ond 150 treill-long neu ddriffter i ffurfio gwasanaeth patrolio ac ysgubo ffrwydron. Ond erbyn diwedd y rhyfel roedd y Llynges Frenhinol wedi defnyddio 627 o Dreill-longau Morlys a oedd wedi cael eu hadeiladu’n bwrpasol, eu prynu gan wledydd tramor, neu eu cipio fel gwobrau. Cafodd 1,456 o dreill-longau eraill eu llogi a’u gweithredu, ynghyd â llawer math arall o long fach, fel Llongau Patrolio Atodol. O blith y treill-longau a logwyd, cafodd 266 eu colli wrth wasanaethu’r Llynges.
Y CARTAGENA yw un yn unig o’r ‘llongau rhyfel’ bach hyn a gyflawnodd gymaint mewn llawer o wahanol rolau. Mae’r criw a gollwyd pan suddodd y CARTAGENA yn cynrychioli’r miloedd o bysgotwyr a oedd mor aml yn ffurfio craidd eu criwiau adeg rhyfel.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Chris Holden, Neil Cossons ac aelodau eraill BSAC; Jim Porter o The Bosun’s Watch, rhan o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Forol Fleetwood; ac Ian Cundy o Uned Deifio Archaeolegol Malvern am eu cymorth wrth lunio’r hanes hwn.
Ffynonellau: Toghill, G. 2003, Royal Navy Trawlers Part One: Admiralty Trawlers, Liskeard: Maritime Books, t.77-83. Western Morning News. 29 Mawrth 1928. 9. British Newspaper Archive. Gwefan.