Single Project

BOSCAWEN

BOSCAWEN
ENW LLONG: BOSCAWEN
LLEOLIAD: -5.43, 52.72

Credir mai’r BOSCAWEN ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.

Agerlong oedd y BOSCAWEN a gafodd ei suddo ar 21 Awst 1918 gan yr UB 92 pan oedd hi 23 milltir o Ynys Enlli. Roedd hi’n teithio o Benbedw i’r Barri. Cafodd un bywyd ei golli.

Llong lo ag arfau amddiffynnol a oedd yn eiddo i gwmni o Gaerdydd oedd yr SS BOSCAWEN. Cafodd ei hadeiladu gan Craig, Taylor & Co. Ltd yn Stockton-on-Tees ym 1909. Roedd hi’n pwyso 1,936 o dunelli ac yn mesur 279 x 40.8 o droedfeddi.

Roedd y BOSCAWEN yn teithio o Benbedw i’r Barri ‘mewn balast’ ar 21 Awst 1918 pan gafodd ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr UB 92, 23 milltir o Ynys Enlli. Goroesodd pob aelod ond un o’r criw – boddodd Oliver Jones o Bontardawe, gynnwr gyda Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, pan suddodd y llong.

Black and white portrait photo of a man
Oliver Jones, Pontardawe, bard and singer, drowned on the BOSCAWEN, 1918
Boddi Oliver Jones - Herald of Monmouthshire Recorder 31 Awst 1918

‘Oliver Jones – bardd a chanwr’

Oliver Jones, 28 oed, gynnwr gyda Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol, oedd mab Morgan a Sarah Jane Jones o 42 Grove Road, Pontardawe. Cyn y rhyfel buasai’n gweithio yng Ngwaith Tunplat Bryn gyda’i dad a’i frawd, Thomas Gunstone. Cymry Cymraeg oedd y teulu. Mae adroddiad papur newydd cyfoes am ei farwolaeth yn nodi bod Oliver yn fardd a chanwr adnabyddus yn lleol a oedd wedi ennill y wobr am ganu penillion (canu i gyfeiliant y delyn) yn Eisteddfod Treboeth pan oedd ar ryddhad o’r Llynges dair wythnos yn gynharach. Roedd wedi dyweddïo bryd hynny hefyd.

Ysgrifennodd y bardd cadeiriog ‘Gwilym Cynlais’ (William Terry) folawd i Oliver a gyhoeddwyd yn y papur newydd Llais Llafur ar 31 Awst 1918, ac a oedd yn cynnwys y llinellau a ganlyn:

Glas yw dy Gymru’r fynud hon,
Glas yw dy fedd yn erw’r don,
Difynor, diflodyn yw mynwent mor,
Cwsg Oliver, cwsg—mae’th goffa gan lor!

Roedd Oliver Jones wedi ysgrifennu ei gerdd olaf, ‘At Fardd Porth y Wawr’, a’i phostio i Gwilym Cynlais ychydig o ddyddiau cyn iddo foddi. I ddarllen hon, ac i ddarganfod mwy am lwyddiant Oliver mewn eisteddfodau, gweler yr eitem hon ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

BOSCAWEN – Aelodau criw o Gymru

Roedd y BOSCAWEN yn eiddo i gwmni o Gaerdydd a byddai’n hwylio o borthladdoedd yng Nghymru, felly nid yw’n syndod bod deuddeg o leiaf o’i chriw yn Gymry.

Mae tair rhestr griw o 1915 yn dangos mai John Edwards oedd capten y llong bryd hynny, mai  William Watkins oedd yr is-gapten a bod D Lewis Daniels yn un o’r llongwyr abl. Roedd yr holl forwyr hyn yn hanu o Aberystwyth. Y cogydd oedd John Edwards o Gaerfyrddin.

 

Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol ar longau masnach arfog

Byddai Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol (RNVR) yn gweithredu’r gynnau dec a gawsai eu gosod ar longau masnach yn ystod y rhyfel i’w hamddiffyn rhag ymosodiadau gan longau-U. Gellir tybio y byddai llong-U yn targedu’r gynnau ar fwrdd llong fasnach ac y byddai swydd y gynnwr felly yn un beryglus iawn. Câi’r Gwirfoddolwyr Wrth Gefn fwy o gyflog am weithio ar Longau Masnach ag Arfau Amddiffynnol (DAMS).

Yn ogystal ag Oliver Jones, bu farw tri dyn arall o Bontardawe wrth wasanaethu yn yr RNVR yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf:

  • George Jones, gweithiwr tunplat, a fu farw pan gafodd ei long, yr SS ARTIST, a oedd yn teithio o Gasnewydd gyda llwyth o lo, ei suddo gan yr U 55 ym 1917. Gynnwr oedd ef.
  • Howell Egbert Lewis, llafurwr, a fu farw pan gafodd ei long, yr SS NARRAGANSETT, ei suddo gan yr U 44 ym 1917. Gynnwr oedd ef.
  • David Jenkins, gweithiwr dur, a fu farw pan gafodd ei long, yr SS MINORCA, ei suddo gan yr U 64 ym 1917.

Mae’r pedwar yn cael eu coffáu ar Gofeb Lyngesol Plymouth, ac mae enwau pob un ohonynt heblaw am Oliver ar gofeb W Gilbertsons & Co. yn Neuadd Gyhoeddus ac Institiwt Pontardawe.

Yn ôl y cofnodion bu 34 o weithwyr tunplat o Gymru yn gwasanaethu yn yr RNVR yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffynonellau:

'BOSCAWEN.' UBoat.net. Gwefan.

'Drowned.' Herald of Wales and Monmouthshire Recorder. 31 Awst 1918. Papurau Newydd Cymru Arlein. Gwefan.

'The Gilbertson Works, Pontardawe.' Cyngor Abertawe Swansea Council.

The National Archives, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 337/88 - Z3333. 'Jones, Oliver.' d.t.