ENW LLONG: APAPA
LLEOLIAD: -4.42, 53.46
ENW LLONG: APAPA
LLEOLIAD: -4.42, 53.46
Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r APAPA ydy’r llongddrylliad hwn. Roedd yr SS APAPA yn teithio o Orllewin Affrica i Lerpwl pan gafodd ei suddo gan yr U 96 oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn, ar 28 Tachwedd 1917. Collodd 77 o deithwyr a chriw eu bywydau.
Agerlong oedd yr APAPA a gafodd ei hadeiladu ym 1914 i Gwmni Elder Dempster, Lerpwl. Byddai llongau’r cwmni’n cludo nwyddau a theithwyr rhwng Prydain a Gorllewin Affrica.
Ar ôl gadael Lagos am Lerpwl gyda 119 o deithwyr a 132 o griw ar 27 Tachwedd 1917, cafodd yr APAPA ei hebrwng gan 6 distrywlong tuag at arfordir Cymru. Ar ôl cyrraedd, gadawodd y distrywlongau am Aberdaugleddyf, gan adael yr APAPA a dwy long arall a oedd yn mynd i Lerpwl, i hwylio ymlaen ar eu pennau eu hunain.
Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar ôl colli cysylltiad â’r ddwy long arall, aeth ati i igam-ogamu, gan ddilyn y drefn i osgoi llongau tanfor. Aeth heibio i’r Moelrhoniaid. Roedd ymchwydd trwm a gwynt gorllewinol.
Roedd yr APAPA 2 filltir oddi ar Drwyn Eilian pan gafodd ei tharo gan dorpido ar ei hochr dde tua’r starn. Roedd capten yr U 96 Heinrich Jeß, wedi gweld rhodfa uchel yr APAPA yn rhy hwyr wrth iddi nesáu at ei long danfor, a chamfarnodd ei chyflymder. O ganlyniad fe daniodd yn rhy bell tua’r starn, ac nid oedd ei griw yn disgwyl i’r torpido wneud llawer o ddifrod o’r herwydd.
Ond roedd y llong wedi cael difrod mawr, a dywedodd yr ail beiriannydd yn ddiweddarach i 4 neu 5 ffrwydrad ddigwydd yn fuan ar ôl i’r torpido daro. Rhuthrodd dŵr i mewn i ystafell yr injanau a dim ond drwy ymdrechu’n galed y llwyddodd i achub un o’i beirianwyr rhag boddi. Yn dilyn hyn, bu’n rhaid iddynt adael.
Gorchmynnwyd i bawb adael y llong. Gan eu bod wedi ymarfer ddwywaith o’r blaen, dechreuodd pawb adael yn ddiffwdan. Diffoddwyd yr injanau ac aeth y llong gyda’r llif ar gyflymder o 14 not dros bellter o un rhan o dair o filltir.
Dywedodd Jeß wedyn nad oedd yn gwybod a oedd y torpido cyntaf wedi difrodi’r APAPA gan ei fod wedi camfarnu ei chyflymder, ac oherwydd hyn, a chyda chriw a oedd yn isel eu hysbryd ac yn awchu am suddo llong, taniodd ail dorpido. Roedd badau achub yn cael eu gostwng i’r dŵr erbyn hynny a dinistriwyd bad Rhif 9 ac anafwyd teithwyr mewn badau eraill gan y ffrwydrad a achoswyd gan y torpido hwn.
Dechreuodd y llong ogwyddo’n sydyn ac yn gyflym i’r starbord a neidiodd teithwyr i’r môr i osgoi cael eu gwasgu. Boddodd llawer ohonynt, er i rai gael eu codi gan y badau achub a oedd ar ôl.
Wrth i’r llong ogwyddo, daeth cynheiliaid y corn mwg yn rhydd, a syrthiodd ar fad achub Rhif 5, a oedd yn llawn teithwyr, cyn gallu ei ostwng i’r dŵr. Aeth bad 3 yn sownd yng ngwifrau weiarles y llong, a chafodd eraill eu sugno o dan y dŵr wrth i’r llong suddo. Yna diflannodd y llong yn gyflym o dan yr wyneb. Arhosodd y capten ar y bont wrth i’r llong suddo. Byddai’n dod i’r wyneb ac yn cael ei achub yn nes ymlaen. Aethpwyd â’r rhai a oedd wedi goroesi i Gaergybi.
Cyrff o’r APAPA a olchwyd i’r lan
Darganfuwyd corff Albert Taylor (50 oed), 2il Stiward, ger Miller’s Cottage, Towyn, gan Owen Roberts a’r Rhingyll John Worthington – gweithiwr a heddwas. Rhoddwyd y corff i orffwys gyda 2 berthynas yn bresennol.
Pobl eraill a ddarganfuwyd yn farw yn y dŵr oddi ar yr arfordir oedd Harold Hunting (28), masnachwr, E. O. Roper (50), peiriannydd sifil, John Thomas (32), dyn o Orllewin Affrica a oedd yn byw yn Lerpwl ac yn brif daniwr ar yr APAPA, T. Walter Jennings (oedran yn anhysbys), Mrs Ida Mabel Johnson (44), gwraig Trysorydd Trefedigaethol Sierra Leone, Harold Starling (39), prif stiward, ac Isaac Pembroke (er mai Peppel oedd ei enw iawn), taniwr, o Sierra Leone (oedran yn anhysbys).
Ymhlith y rheiny sydd wedi’u claddu yng Nghymru y mae Albert Taylor (Mynwent Abergele), Harold Hunting, John Thomas, Thomas Jennings ac Isaac Peppel (Mynwent Glanadda, Bangor).
Condemnio’r suddo yn y papurau newydd
Ar y pryd, cafodd y suddo ei gondemnio yn y papurau newydd ar draws Prydain. Roedd y Prydeinwyr yn credu nad oedd angen tanio’r ail dorpido. Lledodd sïon hefyd fod yr Almaenwyr wedi tanio ar y badau achub. Ond yn ôl logiau rhyfel yr Almaen a thystiolaeth arall ar gyfer yr U 96, nid oedd y capten a’r criw yn gwybod am y badau achub ac nid oeddynt yn credu eu bod wedi suddo’r llong â’r torpido cyntaf. Mae adroddiadau tystion yn y cwest yn cadarnhau na chafodd unrhyw ergydion eu tanio ar y badau.
Criw o Orllewin Affrica
Fel yn achos llongau eraill cwmni Elder Dempster, roedd nifer fawr o griw’r APAPA yn dod o Orllewin Affrica, ac roeddynt yn cyfrif am chwarter y criw a laddwyd. Yn eu plith yr oedd John Thomas, 32, y prif daniwr yn ystafell yr injanau. Roedd wedi bod ar y FALABA pan gafodd ei suddo ar 27 Mawrth 1915. Cafodd ei gorff ei adnabod gan ei gefnder, James Thomas, a oedd hefyd yn gweithio fel taniwr ar yr APAPA. Roedd John yn hanu o Lagos ac yn byw yn Lerpwl. Cyfarfu ag Amelia Andrews yno ac fe briodasant yn Eglwys Sant Pedr ar 22 Mawrth 1917. Daeth Amelia i angladd John ym Mynwent Glanadda, Bangor, ac ysgrifennodd y beddargraff ar gyfer ei garreg fedd, sy’n darllen, “Sleep on beloved one”. Roedd adroddiad am angladd John yn y North Wales Chronicle ond, fel llawer o bapurau newydd y dydd, rhoddodd yr argraff fod priodas John ac Amelia yn rhywbeth i ryfeddu ato: “On Saturday the interment took place at the cemetery of the two coloured firemen – John Thomas (whose wife, a white woman, was present) and Isaac Pepple.”
Blodau ar Fedd
Mae adroddiad papur newydd ar y dathliadau Ymerodraeth ym Mangor ym mis Mai 1919 yn nodi i aelodau Eglwys y Santes Fair roi blodau ar feddau ‘two coloured men of Upper Warwick Street, Liverpool’, a gawsai eu lladd ar yr APAPA.
Moethusrwydd ar fwrdd y llong
Mae cynlluniau’r llong, rhestri criw ac arteffactau a achubwyd o’r llongddrylliad yn rhoi amcan o’r amodau moethus yr oedd y teithwyr yn eu mwynhau ar fwrdd yr APAPA. Yr oedd 77 ystafell ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf, campfa, barrau a feranda. Gofalai tîm mawr o stiwardiaid am anghenion y teithwyr a chaent eu difyrru gan feiolinydd, sielydd a phianydd. Un o’r gwrthrychau a achubwyd oedd teilsen geramig wydrog o faddondy, sydd yr un fath â’r teils ar y TITANIC. Daethpwyd o hyd i lestri tsieni glas a gwyn gyda logo Elder Dempster arnynt hefyd.
Ffynonellau: 'Liner torpedoed off the Welsh Coast.' North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality. 7 Rhag. 1917. 2. Rhestr y Gwroniaid ar gyfer yr APAPA. Merseysiderollofhonour.co.uk. Gwefan. 1915 Crew lists for the APAPA on Royal Museums Greenwich, 1915 crew lists website. The Elder Dempster Fleet in the War 1914-18. Liverpool: Elder Dempster & Co. Ltd., 1921. Missions to Seamen. ‘Report.’ Christiana & Her Children. 1914. London: Longmans Green and Co., 1917. 3-9. Archive.org. Web. 2018.