ENW LLONG: AGBERI LLEOLIAD: -4.69, 53.41
ENW LLONG: AGBERI LLEOLIAD: -4.69, 53.41
Credir mai’r AGBERI ydy’r llongddrylliad hwn, ond heb gadarnhad ar hyn o bryd.
Teithlong ager oedd yr SS AGBERI a oedd yn eiddo i gwmni llongau Elder Dempster. Bu’n ymgymryd â dyletswyddau cludo ar ran y Cynghreiriaid yn ystod 1915 a 1916, gan wneud pedair taith rhwng Rwsia a Brest yn cario milwyr Rwsiaidd i Ffrainc ar ran llywodraeth y Tsar. Erbyn Diwrnod Nadolig 1917, roedd hi’n cael ei defnyddio i gludo cargo a theithwyr.
Ei chapten oedd Herbert Lamont ac roedd hi’n hwylio o Dakar yn Senegal i Lerpwl gyda chargo cyffredinol o gynnyrch Affricanaidd. Mae’n bosibl ei bod hi’n cario ifori ac arian bath hefyd. Roedd hi’n rhan o gonfoi pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Roedd hi’n igam-ogamu ar y pryd, er na wnaeth hynny fawr o les. Am 2:42 y.h. cafodd ei tharo gan dorpido ar ei hochr chwith yng nghanol y llong o flaen y bynceri. Roedd y criw a’r teithwyr yn ddisgybledig, a llwyddasant i fynd ar y badau bach a oedd ar y llong a gadael cyn iddi suddo. Cawsant eu codi gan y llongau hebrwng a’r cychod patrolio. Aeth yr AGBERI i lawr mewn llai na hanner awr. Byddai’r llongau a oedd yn hebrwng y confoi yn mynd i’r afael â’r U 87.
Aed â’r criw i Ysbyty Morwyr Stanley yng Nghaergybi. Cyrhaeddodd rhwng 35 a 63 o oroeswyr yr ysbyty ganol nos i dderbyn gofal arbenigol.
Roedd yr AGBERI yn perthyn i’r Dosbarth ‘Agberi’ o longau, a’i Rhif Swyddogol oedd 120880. Yn agerlong sgriw ddur, roedd ganddi ddau ddec a dec cysgodi. Rhai o’i chwaerlongau oedd y PATANI, y PRAHSU, yr ABURI, a’r FULANI.
Roedd hi’n pwyso 4889.218 o dunelli metrig cofrestredig crynswth, yn 113 metr o hyd, yn 15 metr o led, ac yn 6.6 metr o uchder. Cafodd ei hadeiladu gan Workman Clark & Co. Ltd, Belfast (Rhif Iard 220) i Elder Dempster & Co. Cafodd ei lansio yn iard longau’r cwmni yn Belfast ym 1915. Mae’n amlwg ei bod hi’n bwysig iawn i Workmans ac Elder Dempster gan iddynt hysbysebu ei howldiau enfawr a’i chabanau moethus ar gyfer teithwyr mewn papur newydd.
Roedd y suddo’n sicr yn ergyd i’r cwmni, ond roedd ganddo lynges fawr o longau a llwyddodd i oroesi’r rhyfel er iddo golli’r AGBERI a nifer o longau eraill. Roedd yr U 87 wedi suddo llong arall o eiddo Elder Dempster, sef y TAMELE, ar 16 Gorffennaf 1917.
3 Medi 1915 – bu’n cludo ffrwydron rhyfel i ogledd Rwsia dros Lywodraeth Ymerodrol Rwsia hyd 7 Hydref 1915.
1915 – 1916 – cwblhaodd bedair mordaith i’r Arctig, gan gario milwyr Rwsiaidd i Brest ar ran Llywodraeth Ymerodrol Rwsia.
14 Medi 1915 – cafodd ei herio gan y masnach-griwser arfog HMS HILARY (M 90), lleoliad bras 62°50 Gogledd 12°00 Gorllewin, a chafodd ganiatâd i hwylio ymlaen.
8 Hydref 1915 – bu’n cludo coed ar ran y Swyddfa Gweithfeydd ac yna dychwelodd i’r Môr Gwyn ar gyfer y gaeaf hyd 2 Tachwedd 1915.
3 Tachwedd 1915 – bu’n cludo ffrwydron rhyfel i ogledd Rwsia dros Lywodraeth Ymerodrol Rwsia hyd 27 Mehefin 1916.
28 Mehefin 1916 – bu’n gwasanaethu fel uchod hyd 11 Rhagfyr 1916 ond cafodd ei his-siartro i’r Hudson’s Bay Co o 13 Awst 1916 hyd 24 Medi 1916 yn gynhwysol.
Fel yn achos pob un o longau Elder Dempster, roedd nifer fawr o griw’r AGBERI yn dod o Sierra Leone yng Ngorllewin Affrica. Mae 25 o ddynion ifanc wedi’u rhestru yn y rhestr griw ar gyfer y fordaith hon, yn bennaf fel tanwyr a thrimwyr a weithiai dan y dec i borthi’r ffwrneisi â glo. Dyma eu henwau:
Ffynonellau: Northern Whig. 7 July 1905, p.8. The British Newspaper Archive. Gwefan. Pearce, Duncan and Anne, Lilian. 1914. ‘Report’, Christiana & Her Children; a Mystery Play. London, New York: Longmans, Green. ‘SS Agberi [+1917]’ Wreck Site. Wrecksite.eu. 2001 Gwefan. The Elder Dempster Fleet History: 1852-1985, James E. Cowden and John O. C. Duffy (1986). The National Archives, Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4007. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 16–30 Rhag. 1917. ‘British S.S. “AGBERI”’, d.t. ---., Kew. ADM–Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. ADM 137/4144. Assessments of results of attacks on German submarines. ‘I. D.—Form I. “P.56”’, d.t. ---., Kew. BT–Records of the Board of Trade and of successor and related bodies. BT 99/3345. Official Nos: […] 120880. ‘List C. & D. List of Crew, and Other Particulars of a Foreign Going or Home Trade Ship […] Agberi’, d.t.