Plymiad Rhithwir CARTAGENA
Enw gwreiddiol y CARTAGENA oedd y TR4. Roedd hi’n un o 60 o dreill-longau ysgubo ffrwydron a archebwyd yng Nghanada at ddefnydd y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddynt yn gopïau o’r treill-longau Dosbarth British Castle a oedd yn seiliedig ar y prototeip masnachol a ddyluniwyd gan y Smith Dock Company, Stockton-upon-Tees. Cafodd y TR4 ei hadeiladu gan y Port Arthur Shipbuilding Company, Ontario, a daeth yn rhan o Lynges Frenhinol Canada ym mis Mai 1918.
Gweld mwy Plymiadau Rhithwir