Plymiad Rhithwir APAPA
Roedd yr APAPA yn teithio o Orllewin Affrica i Lerpwl pan gafodd ei suddo gan yr U 96 oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn, ar 28 Tachwedd 1917. Collodd 77 o deithwyr a chriw eu bywydau. Agerlong oedd yr APAPA a gafodd ei hadeiladu ym 1914 i Gwmni Elder Dempster, Lerpwl. Byddai llongau’r cwmni’n cludo nwyddau a theithwyr rhwng Prydain a Gorllewin Affrica.
Gweld mwy Plymiadau Rhithwir