Pecyn Offer Cymunedol: Darganfod y Bobl a Wasanaethai ar Fwrdd y Llongau

Darganfod y Bobl a Wasanaethai ar Fwrdd y Llongau

Adrannau

Ni fu amser gwell i ymchwilio i’r unigolion a fu’n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o ganlyniadau cyfnod y coffáu, 2014-18, yw bod cyfoeth o wybodaeth wedi cael ei uwchlwytho i wefannau gan sefydliadau a chymunedau wrth i ddeunydd newydd gael ei ddarganfod neu’i ddigido ac ymchwil newydd gael ei wneud. Yr hyn sy’n dilyn yw canllaw ‘camau cyntaf’ i’w ddefnyddio wrth ymchwilio i longwr neu longwraig unigol a fu’n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddefnyddio rhai o’r adnoddau hawdd eu cyrchu hyn.

Os bu farw’r unigolyn rydych chi’n ymchwilio iddo/iddi wrth wasanaethu ar long yn y Rhyfel Byd Cyntaf, un o’r lleoedd cyntaf i chwilio am wybodaeth yw gwefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Cafodd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ei sefydlu i goffáu’r rheiny a oedd wedi marw wrth wasanaethu yn lluoedd y Gymanwlad yn ystod y rhyfel. Roedd ei dasg bryd hynny, a heddiw, yn un enfawr – o godi a chynnal cerrig beddau a chofebau ar hyd a lled y Gymanwlad, i gofnodi mewn cofrestri y rheiny y mae’r Comisiwn yn eu coffáu, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt fedd hysbys a’r rhai a gollwyd ar y môr. Gallwch chwilio’r cofrestri hyn ar-lein erbyn hyn. Ewch i’r adran o wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad sydd â’r enw Find War Dead. Bydd hyn yn agor y dudalen chwilio ganlynol:

CWGC sgrînlun tudalen chwilio

Llenwch un neu ragor o’r blychau a chliciwch ‘search’. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn cynnwys rheng unigolyn, dyddiad ei eni, enw’r llong yr oedd yn gwasanaethu arni, ei oedran, perthynas agosaf, a chyfeiriad y berthynas agosaf.

CWGC screenshot
Enghraifft: Os teipiwch yr enw llong ‘Edernion’ yn y blwch chwilio ‘Unit’, bydd canlyniadau’r chwiliad yn dangos enwau’r 14 aelod o’r criw a gollodd eu bywydau pan suddwyd y llong ar 20 Awst 1917 gan yr UB-10. Yn eu plith yr oedd Hugh Griffith Hughes (17 oed) o Nefyn (wedi’i Seisnigeiddio i Nevin yn y cofnod). Rhoddir enwau rhieni Hugh a’u cyfeiriad hefyd.

Awgrym: Gallwch fireinio’r canlyniadau drwy roi tic yn y blychau ‘Served in Merchant Navy’ a/neu ‘Served in Navy’.

Awgrym: I chwilio am bobl o le penodol a fu farw, teipiwch enw lle, e.e. ‘Swansea’, yn y blwch ‘Additional Information’ heb lenwi unrhyw flwch arall.

Awgrym: Gallwch ddefnyddio’r dudalen chwilio Find Cemeteries & Memorials i chwilio am fynwent benodol. Dechreuwch ysgrifennu enw neu le mynwent yn y blwch ‘name’. Bydd hyn yn agor rhestr ac wedyn gallwch glicio ar yr un cywir. Yna cliciwch ‘search’ a bydd y cyswllt i’r dudalen fynwent honno yn ymddangos. Cliciwch hwn i weld enwau’r rhai sydd wedi’u claddu yno, e.e. mae’r cofnod ar gyfer ‘Holyhead (Maeshyfryd) Burial Board Cemetery’ yn rhestru’r wyth llongwr masnach o’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi’u claddu yno.

Awgrym: Gallwch lawrlwytho canlyniadau chwiliad fel ffeil gronfa ddata csv. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes gennych nifer fawr o ganlyniadau i chwilio drwyddynt, neu os ydych chi am ailddefnyddio’r data.

Mae cytundeb criw yn rhestru holl griw’r llong, eu rheng neu radd, dyddiad geni, man geni, cyfeiriad weithiau, cyflog, a dyddiadau ymuno a gadael y llong. Mae llongau yr oedd ganddynt gytundebau yn amrywio o gychod pysgota bach i’r teithlongau mwyaf a gyflogai adrannau cyfan o swyddogion dec, llongwyr, a staff peirianyddol ac arlwyo – gallai fod cymaint â 400 o unigolion arnynt. Mae menywod hefyd yn cael eu rhestru, yn stiwardesau, nyrsys, metronau ac ati. Mae llongau a suddwyd gan y gelyn weithiau’n ymddangos yn y rhestrau os oedd amser i adael y llong ac achub ei dogfennau.

Ble i ddod o hyd i restrau criw

Rhestrau Criw y Llynges Fasnachol – 1915 Mae rhestrau criw o’r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol (National Maritime Museum) a’r Archifau Cenedlaethol (The National Archives) wedi cael eu cyfuno a’u copïo gan wirfoddolwyr i gynhyrchu’r gronfa ddata chwiliadwy ar-lein hon, sy’n cynnwys cofnodion am fwy na 750,000 o longwyr a oedd yn gwasanaethu ym 1915. Rhoddant fanylion megis enw, oedran, cenedligrwydd, cyfeiriad, rheng ac enwau’r llongau y buont yn gwasanaethu arnynt.

Rhestr Criw APAPASgan o restr griw wreiddiol yr APAPA, dyddiedig 28 Mehefin 1915.

Ar gyfer blynyddoedd eraill y rhyfel: 1914 a 1916–18, chwiliwch y Maritime History Archive yn Newfoundland, lle mae’r rhan fwyaf o’r rhestrau criw sydd wedi goroesi yn cael eu cadw:

CLIP sgrînlun

Os byddwch yn chwilio’r gronfa ddata hon, mae’n ddefnyddiol cael rhif swyddogol y llong gan y byddai enwau llongau’n cael eu newid neu eu hailddefnyddio’n aml. Gallwch ddod o hyd i’r rhif swyddogol hwn ar-lein mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft:

Teipiwch enw’r llong, neu ran ohono, i mewn i dudalen chwilio llongau y CLIP. Byddwch yn gweld rhestr o longau sydd â’r enw dan sylw, ynghyd â’u rhifau swyddogol. Mae’r chwiliad uwch yn caniatáu i chi fewnbynnu amrediad o ddyddiadau a’r porthladd lle cafodd y llong ei chofrestru.

Neu gallwch fynd yn uniongyrchol i Restrau Criw y Llynges Fasnachol – 1915 a theipio enw’r llong yn y blwch chwilio. Er enghraifft, os chwiliwch am y llong APAPA fe gewch ddwy restr griw o 1915 ar y wefan ond hefyd rif swyddogol y llong: 136797. Pan deipiwch y rhif hwn ym mlwch chwilio ‘Official No.’ gwefan y Maritime History Archive, Newfoundland, bydd yn dangos bod ganddynt restrau criw ar gyfer 1916 a 1917. Dim ond rhestr griw 1915 sydd ar gael ar-lein. Bydd angen archebu’r rhestrau criw yn Newfoundland drwy glicio ar y cyswllt Ordering Crew Agreements ar waelod y dudalen. Codir tâl am anfon copïau o’r rhain a nodir y ffioedd ar y dudalen honno.

Nid yw cofnodion y Gofrestr Fynegeiedig Ganolog o Longwyr Masnach (Central Indexed Register of Merchant Seamen) ar gyfer 1913–17 wedi goroesi, ond mae’r cardiau gwreiddiol ar gyfer 1918-41 i’w cael yn Archifau Southampton. Gallwch eu cyrchu ar-lein drwy ddefnyddio gwefan FindMyPast. Gallwch chwilio’r set hon o gofnodion yn ôl enw a/neu fan geni. Er i’r cardiau mynegai hyn ddechrau cael eu creu ychydig ar ôl diwedd y rhyfel, byddai’r rhan fwyaf o’r llongwyr a gofnodir arnynt wedi gwasanaethu ar longau yn ystod y rhyfel, ac mae’r ffotograffau a gwybodaeth bersonol ar y cardiau yn adnodd hynod o gyfoethog i ymchwilwyr. Cofnodant swyddi’r llongwyr, y llongau y buont yn gwasanaethu arnynt, ble roeddynt yn byw, a disgrifiadau o’u tatŵs weithiau!

Mae’r cofnodion hyn yn arbennig o werthfawr gan eu bod yn rhoi manylion amrywiaeth eang iawn o bobl, yn ddinasyddion Prydeinig, dynion a menywod tramor wedi’u cofrestru ym Mhrydain, aelodau criw profiadol ac aelodau ifanc y criwiau caban.

Engraifft: Y cardiau Llongwr Masnach Prydeinig ar gyfer William Griffiths, stiward o Gaergybi, John Davis Freeman o Sierra Leone, ac Arthur James Davies, capten llong o Aberystwyth.

Dyma enghraifft o ganlyniadau chwilio am le ‘Llanelly’ (hen sillafiad) yn yr achos hwn. Mae’n cynhyrchu 378 o ganlyniadau ac mae clicio ar yr eicon camera glas ar yr ochr dde bellaf yn dangos sganiau o gardiau unigol y gellir eu lawrlwytho.

Find My Past sgrînlun

Awgrym: ar ôl cael canlyniadau’r chwiliad, mireiniwch nhw drwy ddefnyddio ‘Order by’ ‘Event’ yn y gwymplen. Dangosir y canlyniadau cynharaf yn gyntaf.

Mae cofnodion mwy na 43,000 o longwyr y Llynges Frenhinol a fu farw rhwng 1914 a 1920 ar gael ar Find my Past WW1 Naval Casualties. Gallwch gael gwybodaeth fel man geni, y llong yr oeddynt yn gwasanaethu arni, eu rhif gwasanaeth, achos eu marwolaeth, ac enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf.

Awgrym: Gallwch chwilio yn ôl y dref lle cawsant eu geni, e.e. bydd chwiliad sy’n defnyddio ‘Llanelly’ (hen sillafiad) yn dod o hyd i gofnodion naw llongwr; neu yn ôl hen sir, e.e. bydd chwiliad sy’n defnyddio ‘Anglesey’ yn dod o hyd i gofnodion 31 llongwr.

Cronfa ddata chwiliadwy o’r holl swyddogion a llongwyr a fu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yw Royal Navy First World War Lives at Sea. Mae wedi’i seilio ar y cofnodion gwasanaeth sy’n cael eu cadw yn Yr Archifau Cenedlaethol. Gallwch gael llawer o fanylion yma, megis rhif gwasanaeth, llongau y buont yn gwasanaethu arnynt, y brwydrau y buont ynddynt, galwedigaeth flaenorol, rheswm dros gael eu rhyddhau, a pherthynas agosaf. Gallwch ei chwilio yn ôl enw ac mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, yn ôl llong, tref neu bentref, neu alwedigaeth flaenorol.

Mae gwirfoddolwyr yn parhau i gopïo’r cofnodion gwreiddiol i’r wefan a disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn 2021.

Sylwer: nid yw’r gronfa ddata hon yn cynnwys y rheiny a fu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol Wrth Gefn, Gwirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol na Gwasanaeth Awyr y Llynges Frenhinol. Gweler isod am fwy o wybodaeth am y rhain.

Y tudalennau chwilio a chwiliad uwch ar y wefan Royal Navy First World War Lives at Sea.

Fe ddaeth llawer o ddynion o Gymru a fu’n gweithio mewn diwydiannau trwm megis dur a glo yn wirfoddolwyr yn Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR) neu Wirfoddolwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol (RNVR) cyn ac yn ystod y rhyfel, a buont yn gwasanaethu mewn brwydrau mawr ar y môr fel Brwydr Jutland ac yn Gallipoli. Byddai eraill yn gweithredu’r gynnau ar longau masnach arfog ac yn gwasanaethu ar dreill-longau a oedd yn chwilio am ffrwydron môr.

Mae cofnodion y llongwyr a fu’n gwasanaethu yn yr RNR a’r RNVR ar gael ar Find my Past yn y fan hyn: British Royal Naval Reserve 1899-1930.

Mae’r set hon o gofnodion yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol, megis dyddiadau gwasanaeth, galwedigaeth, rheng, llongau y gwasanaethwyd arnynt, sylwadau ar gymeriad y llongwr, dyrchafiadau a dyfarniadau.

Gwilyn Williams's recordEnghraifft: mae’r cofnod hwn ar gyfer Gwilym Williams yn nodi ei fod yn Gymro, yn alluog, yn llywiwr ardderchog a gofalus, ac yn deyrngar a dibynadwy.

Set arall o gofnodion y gallwch ei chwilio yw’r Royal Naval Division Service Records 1914-1920. Cardiau yw’r rhain sy’n rhoi manylion mwy na 50,000 o ddynion a ymunodd ag Adran y Llynges Frenhinol neu a fu yng nghanolfan hyfforddiant cychwynnol Crystal Palace yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maen nhw’n rhoi manylion personol fel crefydd, cyflogaeth sifil, rhif gwasanaeth, dyddiadau gwasanaeth a rhyddhau o wasanaeth, a chyfeiriad cartref. Maen nhw hefyd yn nodi unrhyw glwyfau a ddioddefwyd gan y llongwyr.

Enghraifft: Adran y Llynges Frenhinol: Cerdyn Gwasanaeth ar gyfer William Morris Hughes o Gwm-y-glo. Nodir mai ei alwedigaeth sifil yw ‘Ironmonger & Motor Engineer’ a’i fod yn gweithio ym maes ‘Signals & wireless’.

Awgrym: mae gan y cardiau hyn fwy nag un dudalen, felly cliciwch i’r dudalen nesaf i weld y cofnod llawn.

Gallwch chwilio’r set hon o gofnodion ar wefan Find My Past yn ôl enw person neu enw llong (yn y blwch ‘Location’). Bydd y canlyniadau’n rhoi’r manylion canlynol: enw, dyddiad marwolaeth, man lle bu farw, oedran, rheng, cenedligrwydd, cyfeiriad olaf ac achos marwolaeth.

Rhestr marwolaeth FALABA
Enghraifft: os chwiliwch am FALABA yn y blwch ‘Location’ bydd yn dangos y cofnod gwreiddiol ar gyfer pawb a gollwyd ar fwrdd y llong.

Yng Nghymru rydym ni’n ddigon ffodus i allu cyrchu papurau newydd o’r Rhyfel Byd Cyntaf am ddim drwy fanteisio ar y gronfa ddata Papurau Newydd Cymru Arlein. Defnyddiwch y wefan hon i ddarganfod adroddiadau papur newydd cyfoes am longwyr a llongwragedd, angladdau, ysgrifau coffa a chofebau, a phytiau niferus eraill o wybodaeth leol.

Awgrym: Defnyddiwch Chwiliad Uwch i chwilio am enw person, lle neu long, a mireiniwch yn ôl dyddiad (e.e. 1915–1919).

Sgrînlun Papurau Newydd Cymru Arlein

 

Erthygl yn y Barry Dock NewsEnghraifft: cafwyd hyd i’r toriad hwn yn sgil Chwiliad Uwch am ‘sailor’ a ‘Barry Dock’ rhwng 1917 a 1919. Mae’n dangos y math o fanylion sydd i’w cael mewn adroddiadau papur newydd, yn yr achos hwn oedran, cyfeiriad, enwau rhieni, ysgol a gweithle Alfred Doughty mewn adroddiad o’r Barry Dock News, 8 Mawrth 1918.

Awgrym: Wrth chwilio, rhowch gynnig ar ddefnyddio geiriau sy’n golygu’r un peth. Er enghraifft, adroddiadau sy’n defnyddio’r geiriau ‘llongwr’, ‘morwr’, ‘seaman’, ‘sailor’, ‘mariner’ ac ati. Yn aml mae’r ymadrodd ‘killed by enemy action’ yn golygu bod y llong wedi’i suddo gan dorpido neu ffrwydryn môr Almaenig. Mae llong-U yn cael ei galw’n ‘submarine’ yn aml. Nid yw llongau’n cael eu henwi fel rheol ond gallwch eu hadnabod yn ôl dyddiad a lleoliad y suddo.

Awgrym: Cofiwch fod llawer o’r adroddiadau yn Gymraeg ac y bydd angen i chi ddefnyddio geiriau Cymraeg i ddod o hyd i’r rhain.

I ddod o hyd i wybodaeth am unigolion sydd wedi’u henwi ar gofebau yng Nghymru, ynghyd â gwybodaeth a ffotograffau a lwythwyd i fyny gan gyfranwyr, chwiliwch y safleoedd canlynol:

Cafodd HistoryPoints.org ei sefydlu yng Nghonwy ym mis Ionawr 2012 i ddarparu llwyfan i gymdeithasau, cymdeithasau proffesiynol, cyrff cyhoeddus, sefydliadau addysgol a grwpiau cyffelyb ennyn diddordeb y cyhoedd yn hanes lleol. Mae’n cynnig gwybodaeth am amrywiaeth o wefannau priodol. Mae’r adran ar gofebau’n cynnwys manylion y rheiny sydd wedi’u henwi ar feddau rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ym mynwentydd Cymru. Gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud yr ymchwil i bob unigolyn ac mae’n cynnwys gwybodaeth nad yw ar gael yn unman arall.

Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am yr holl gofebau rhyfel yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Cafodd yr ymchwil ei wneud gan Steven John, a greodd y wefan ac sydd wedi cyflwyno gwybodaeth newydd i Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad am bobl nad ydynt wedi’u cynnwys yn ei gofnod. Nid yw llawer o’r wybodaeth am unigolion ar gael yn unman arall ac mae wedi’i hategu gan ffotograffau a thoriadau papur newydd weithiau.

Sefydlwyd y prosiect i ymchwilio i gofebau mewn capeli, gweithleoedd, ysgolion a chlybiau sy’n coffáu aelodau o’r lluoedd arfog a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain i’w cael ar y cronfeydd data presennol. Nod y prosiect yw cadw’r wybodaeth sydd ar y cofebau hyn a rhannu lluniau ohonynt ac unrhyw ymchwil sydd wedi’i wneud iddynt.

Find a Grave: mae’r wefan hon yn dwyn ynghyd filiynau o ffotograffau o feddau a gyfrannwyd gan wirfoddolwyr. Gallwch wneud cais am gopïau o ffotograffau a gofyn am wasanaeth gwirfoddolwr lleol i dynnu lluniau o fedd neilltuol.

Awgrym: gallwch chwilio yn ôl enw’r fynwent a mireinio yn ôl y dyddiad y bu farw’r sawl sydd wedi’i gladdu.

Sefydliad nid-er-elw yw’r War Graves Photographic Project. Mae’r wefan yn gartref i ffotograffau o feddau rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf a dynnwyd gan wirfoddolwyr. Gallwch chwilio’r rhain yn ôl enw a mynwent, eu gweld ar y wefan, a’u prynu am £4 (copi digidol).

Carreg fedd John MackayEnghraifft: Bydd chwilio am feddau rhyfel ym mynwent Bae Colwyn (Bronynant) yn eich arwain at garreg fedd anarferol John Mackay, llongwr abl, a dyn anhysbys y golchwyd eu cyrff i’r lan yn Llandrillo-yn-Rhos ar ôl i’r APAPA gael ei suddo oddi ar Ynys Môn ym 1917.
  • Y Llynges Frenhinol

Byddai amrywiaeth eang o fedalau’n cael eu dyfarnu i’r rheiny a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel swyddogion a dynion wedi’u listio yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn. Chwiliwch y Gallantry and Long Service Medals and Awards ar wefan Find my Past i ddod o hyd i gerdyn medalau unigolyn. Gallwch ei lawrlwytho wedyn o wefan Yr Archifau Cenedlaethol am dâl bach.

  • Y Gwasanaeth Masnachol

Ar ôl y rhyfel, creodd y Brenin Siôr V y teitl ‘Merchant Navy’ i anrhydeddu’r llongau masnach am y rhan allweddol yr oeddynt wedi’i chwarae yn yr ymladd. Cafodd medal newydd ei chyflwyno, Medal y Llynges Fasnachol (Mercantile Marine Medal). Roedd delweddau o agerlong, llong hwylio, a llong-U yn codi o’r tonnau ar y fedal hon.

Medalau Rhyfel Byd CyntafByddai llongwyr a fu’n gwasanaethu am chwe mis neu ragor yn ystod y rhyfel, ac a fu mewn ardal lle roedd y gelyn yn gweithredu, yn derbyn Medal y Llynges Fasnachol a Medal Ryfel Prydain gyda’i gilydd (TNA BT351/1/1-2).

Gallwch chwilio Cardiau Mynegai Medalau’r Llynges Fasnachol a Medalau Rhyfel Prydain ar wefan Find my Past i ddod o hyd i longwr unigol. Bydd gwybodaeth sylfaenol ar y cerdyn am y medalau a ddyfarnwyd i longwyr unigol a’r cyfeiriad yr anfonwyd y medalau iddo. Gellir lawrlwytho’r cardiau hyn am dâl bach o wefan Yr Archifau Cenedlaethol o dan BT/351.

Cerdyn medalau James HeadleyCerdyn medalau James Headley a oedd yn hanu o Barbados ac a fu’n gwasanaethu yn y gwasanaeth masnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd ar ôl y rhyfel a derbyniodd y ddwy fedal.

Ar ôl i chi ddarganfod gwybodaeth am unigolyn yn yr adnoddau uchod, gallwch chwilio am fwy o wybodaeth am ei deulu, cartref, ysgol a gwaith mewn ffynonellau hanes teulu. Gallwch chwilio gwefan Find My Past gartref, neu yn eich archifdy neu lyfrgell leol lle gallwch ei chyrchu am ddim. Mae Find my Past wedi derbyn cofnodion am fedyddiadau, gostegion, priodasau a chladdedigaethau yng Nghymru gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Grŵp Archifyddion Sirol Cymru a fydd yn eich helpu gyda’ch ymchwil. Bydd y cyfrifiadau, yn enwedig cyfrifiad 1911, yn rhoi manylion eu teuluoedd a ble roeddynt yn byw cyn y rhyfel.

Yn 2021, pan fydd cyfrifiad 1921 ar gael i’r cyhoedd, byddwch chi’n gallu gweld manylion unigolion a theuluoedd a oedd yn byw yn y cyfnod ychydig ar ôl i’r rhyfel ddod i ben. Bydd hyn yn ddefnyddiol o ran cael gwybodaeth am y morwyr hynny a ddaeth i fyw ym mhorthladdoedd Cymru ar ôl y rhyfel ac am eu teuluoedd a’u galwedigaethau.

Gallwch ddarganfod mwy drwy chwilota ym mhapurau newydd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ar gronfa ddata Papurau Newydd Cymru Arlein. Defnyddiwch y wefan hon i ddarganfod adroddiadau papur newydd cyfoes am longwyr a llongwragedd, angladdau, ysgrifau coffa a chofebau, a phytiau niferus eraill o wybodaeth leol.

Ymwelwch neu cysylltwch â’ch archifdy lleol i gael gwybodaeth o gofnodion eraill fel cofnodion geni, priodi a chladdu, cofnodion ysgol, ewyllysiau, a chofrestri etholiadol. Gallwch chwilio catalogau’r gwahanol gasgliadau i ddarganfod cofnodion eraill, fel llythyrau a ffotograffau, neu recordiadau hanes llafar.

Gweler y rhestr o gysylltau i archifdai yng Nghymru.

Ewch i adran astudiaethau lleol eich llyfrgell i chwilio am gasgliadau o ffotograffau a memorabilia, yn ogystal â llyfrau am yr ardal leol.

Ymwelwch â’ch amgueddfa leol i weld arteffactau, ffotograffau a memorabilia o’r cyfnod.

Gweler y rhestr o gysylltau i amgueddfeydd yng Nghymru y mae ganddynt gasgliadau’n ymwneud â’r môr.