Pecyn Offer Cymunedol: Casglu Storïau Lleol

Casglu Storïau Lleol

Adrannau

Roedd effaith y Rhyfel ar y Môr ar gymunedau yng Nghymru yn enfawr, nid yn unig mewn ardaloedd arfordirol â hanes hir o fynd i’r môr, megis penrhyn Llŷn, ond hefyd mewn lleoedd lle gwirfoddolodd cyfran uchel o’r dynion i wasanaethu yn y llynges wrth gefn, er enghraifft, gweithfeydd tunplat Llanelli. Mae enwau llongwyr a gollwyd ar y môr ar bron pob cofeb ryfel ym mhentrefi a threfi Cymru.

'In Memoriam' o’r Cambrian Daily Leader, 6 Rhagfyr 1917; a’r llyfr ‘Royal Naval Reserve’ ar gyfer Norman Lloyd Williams o Gaergybi.

Pan oedd anwyliaid i ffwrdd ar y môr gallai eu teuluoedd dreulio misoedd yn aros am newyddion, a phe bai’r gwaethaf yn digwydd a’u perthynas yn cael ei boddi, ni fyddai corff i’w gladdu yn aml iawn. Byddai’r straen o hawlio iawndal gan y cwmni llongau a phensiwn gan y llywodraeth, yn ogystal â’r tlodi a ddeuai yn sgil colli enillwr cyflog, hefyd yn cael effaith fawr ar deuluoedd a chymunedau.

Cafodd y prinder bwyd a dogni a achoswyd o ganlyniad i golli cymaint o longau masnach effaith ar gartrefi a busnesau lleol ar hyd a lled Cymru.

Anghofir am yr effeithiau tymor-hir yn aml. Roedd llawer o’r rheiny a oroesodd wedi cael eu hanafu neu eu trawmateiddio wrth wasanaethu ar y môr ac effeithiodd hyn ar eu gallu i ddod ag arian i mewn ar ôl y rhyfel. Mae’n debyg hefyd i effeithiau emosiynol y trawma gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Beryl Makkers, 91 oed, a ffotograff o’i thad, John Freeman o Jamaica, a oedd yn llongwr yn y Rhyfel Mawr ac a ymgartrefodd yn Nhre-biwt.

Cafodd llongwyr du a llongwyr o leiafrifoedd ethnig mewn porthladdoedd fel Caerdydd a’r Barri ddylanwad mawr ar eu cymunedau, gan briodi menywod lleol a magu teuluoedd yn aml. Cafodd elfennau o’u diwylliant brodorol, megis bwyd a cherddoriaeth, eu cyflwyno ganddynt i’w cymunedau ac aethant ati i greu sefydliadau fel Clwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACS) yn Nhre-biwt, a gynhyrchodd sbortsmyn fel Joe Erskine a Billy Boston. Cafodd y terfysgoedd hil ym 1919, a’r tlodi a achoswyd gan ddiweithdra yn y dociau ar ôl y rhyfel, effeithiau hirbarhaol.

Un o’r agweddau pwysicaf ar y prosiect llongau-U yw gweithio gyda chymunedau i ddarganfod storïau lleol o bob rhan o Gymru nad yw llawer o bobl yn gwybod amdanynt. Mae unigolion wedi dod atom gyda ffotograffau, llythyrau, dogfennau a gwybodaeth sydd wedi bod yn eu teuluoedd ers cenedlaethau. Mae’r trysorau hyn yn werthfawr iawn gan eu bod yn ychwanegu manylion a storïau dynol at y darlun ehangach o Gymru a’i rhan yn y Rhyfel ar y Môr. Credwn fod yna lawer mwy ohonynt yn aros i gael eu darganfod a’u rhannu.

Digwyddiad cymunedol

  • Cynnal digwyddiad cymunedol yn eich neuadd neu lyfrgell leol neu mewn lleoliad cyfleus arall a gwahodd pobl i ddod â’u gwybodaeth i’w chofnodi â sganiwr a/neu gamera.
  • Defnyddio fideo, neu sain yn unig, i recordio pobl yn adrodd eu hanesion.
  • Ymweld â chartref preswyl neu ganolfan ddydd i’r henoed i roi sgwrs ac i gofnodi atgofion a storïau.
  • Gwneud ymchwil i stori leol.
  • Tynnu ffotograffau o gerrig beddi a chofebau lleol a gwneud ymchwil i’r enwau.
  • Dod â phobl at ei gilydd i wneud rhywbeth creadigol, er enghraifft, cerflun, paentiad neu gerdd.

Awgrym: Hysbysebwch eich digwyddiad drwy roi posteri mewn siopau a llyfrgelloedd ac ar hysbysfyrddau. Rhowch hysbysiad yn y papurau lleol a chysylltwch â grwpiau Facebook a’r orsaf radio leol i wneud cyhoeddiad.

Awgrym: Os ydych chi’n recordio rhywun mae’n well gwneud hynny mewn ystafell lle mae llawer o ddodrefn meddal, fel ystafell fyw, i dawelu seiniau. Recordiwch gyfeillion neu deulu yn siarad â’i gilydd gan fod hyn yn helpu’r sgwrs i lifo.

Awgrym: Gwnewch nodiadau am beth rydych chi wedi’i gofnodi a defnyddiwch gyfeirnod i gysylltu’ch nodiadau â’r wybodaeth a gofnodwyd, e.e. byddai gan ffotograff wedi’i sganio yr un rhif ffeil â’r nodyn sy’n dweud pwy ddaeth â’r ffotograff, beth mae’n ei ddangos, y dyddiad, ac unrhyw fanylion defnyddiol eraill.

Awgrym: Os ydych chi am ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwch ar-lein neu mewn arddangosfa, sicrhewch eich bod chi’n cael caniatâd y perchennog. Gallwch argraffu ffurflen ganiatâd sy’n egluro i beth y byddwch chi’n defnyddio’r wybodaeth, a’i rhoi i berchennog y wybodaeth i’w llofnodi i ddangos ei fod yn cytuno.