Astudiaeth Achos: Charles William Gent o Abertawe

Charles William Gent o Abertawe

Adrannau

Roedd Charles William (Will) Gent yn beiriannydd ar fwrdd yr ILSTON, agerlong a oedd yn hwylio o Abertawe i Ffrainc gyda chargo o ddefnyddiau rheilffordd. Ar 20 Mehefin 1917, pan oedd hi’n bedair milltir oddi ar pen mwyaf deheuol Cernyw, taniodd llong danfor Almaenig, yr UB 23, dorpido a suddodd y llong. Collodd Will Gent a phum aelod arall o’r criw eu bywydau. Mae’r wybodaeth hon i’w chael ar y dudalen ar gyfer yr ILSTON ar wefan uboat.net.

Cargo

Roedd yr ILSTON yn cludo defnyddiau rheilffordd o Abertawe i Ffrainc. Ym 1917, roedd angen adeiladu rheilffyrdd ysgafn ar frys i gludo cyflenwadau ar draws Ffrainc i’r ffrynt. Rhwng mis Ionawr a mis Medi 1917 byddai’r rhwydwaith rheilffyrdd hwn yn tyfu i ryw 2,000 milltir o drac.

Find War Dead screenshotOs chwiliwch yr enwau ar gofrestr Beddau Rhyfel y Gymanwlad, gwelwch fod Will Gent yn gwasanaethu fel Trydydd Peiriannydd ar fwrdd yr ILSTON. Mae’r cofnod yn nodi ei fod yn 29 oed ac mae’n rhoi enwau ei rieni a’u cyfeiriad. Mae’n dweud wrthym fod ei enw wedi’i gofnodi ar Gofeb Tower Hill yn Llundain ac ar Senotaff Abertawe.

Fel rheol roedd y Trydydd Peiriannydd ar long yn gyfrifol am y boilerau, tanwydd ac injanau ategol, ac ef oedd y trydydd peiriannydd morol uchaf ei swydd ar fwrdd y llong.

 

Mae cofnod bedydd Will Gent ar Find my Past yn nodi iddo gael ei fedyddio’n Charles William Reginald yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe ar 7 Rhagfyr 1887, ac mai Reginald Hamilton ac Elizabeth yw ei rieni. Y cyfeiriad a roddir yw 25 Vincent Street, a ‘mariner’ yw ei dad.

cofnod bedydd Will GentY cofnod ar gyfer Will Gent yng nghofrestr bedyddiadau Eglwys y Santes Fair, Abertawe, 1885-1891 (P-123-CW-15).
25 Vincent Street, Abertawe (chwith) lle cafodd Will Gent ei eni ym 1887, a 36 Pentreguinea Road (de) lle bu’r teulu’n byw’n ddiweddarach, yn agos at y dociau yn ardal St Thomas, Abertawe. (Google Maps).

Mae’r cofnod hwn i’w gael ar Find My Past. Cafodd Will Gent ei gofrestru yn ysgol fabanod Kilvey ym 1896. Erbyn hyn mae’n byw yn 40 Kilvey Road gerllaw. Cofnodir mai ‘sailor’ yw ei dad, Reginald.

Cofnod ysgol
Cofnod ar gyfer Will Gent yng Nghofrestr Dderbyn Ysgol Gwaith Copr Kilvey (Bechgyn), 1896. (ES/18/28/2/1).

Mae cyfrifiad 1901, a gyrchwyd ar Find My Past yn dangos bod y teulu Gent yn byw yn 40 Kilvey Road, Abertawe:

darn o 1901 cyfrifiad
Mae Will yn 13 oed ac mae ganddo ddau frawd, David a George. Cofnodir bod mam Will, Elizabeth, wedi’i geni yn Llanymddyfri a’i bod hi, a brawd hynaf Will, David (Dai), yn siarad Cymraeg.

Nid yw’r tad, Reginald, wedi’i restru. Mae’n bosibl ei fod i ffwrdd ar y môr ar ddiwrnod y cyfrifiad, neu ei fod yn y carchar, gan fod cyfrifiad 1891 yn dangos bod Reginald yn garcharor yng ngharchar Abertawe ar ôl cael ei ddedfrydu i bedwar mis dan glo. Mae adroddiad papur newydd o’r cyfnod yn dweud nad oedd ef wedi talu benthyciad yn ôl. Mae yna gerdyn mynegai Llongwr Masnach o 1922 sy’n nodi bod Reginald yn gwasanaethu fel ‘Best Mate’ ar yr SS ENDYMION (Glasgow).

darn o 1911 cyfrifiadMae cyfrifiad 1911, a gafodd ei gyrchu ar Find My Past hefyd, yn dangos bod y teulu wedi symud i 36 Pentreguinea Road gerllaw.

Mae Reginald Gent yn cael ei restru fel ‘Master Mariner’ ar agerlong ac iddo gael ei eni yn Lerpwl, a gallwn weld bod Charles W R Gent (Will), ei fab, yn 23 oed ac yn gweithio fel ‘marine engineer’ yn y Gwasanaeth Masnachol. Mae ei frawd ieuengaf, George, yn 16 oed. Nid yw ei frawd hynaf, Dai, wedi’i restru yn y cyfrifiad hwn. Gwyddom felly fod Will Gent yn gwasanaethu fel peiriannydd ar longau cyn y rhyfel.

Fel y nodwyd uchod, mae Will Gent wedi’i restru fel peiriannydd yn y gwasanaeth masnachol yng nghyfrifiad 1911, felly gwyddom y buasai’n gweithio ar longau am flynyddoedd cyn y rhyfel.

Mae rhestr griw o fis Chwefror 1915 yn dangos ei fod yn Drydydd Peiriannydd ar agerlong o’r enw FULGENT. Cafodd y FULGENT ei suddo gan yr U-30 ar 30 Ebrill 1915 wrth gario glo o Gaerdydd i Scapa Flow. Lladdwyd dau o’r criw. Mae’n bosibl bod Will ar fwrdd y FULGENT pan gafodd ei suddo. Ni wyddom ar ba longau eraill y bu Will yn gwasanaethu cyn colli ei fywyd ym mis Mehefin 1917 gan nad oes unrhyw gofnod o’i enw yng nghronfa ddata rhestrau criw y CLIP.

Scapa Flow oedd angorfa ddynodedig Llynges Fawr Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1915 llosgai’r Llynges Fawr ryw 800 i 1000 tunnell o lo yr awr. Byddai llongau a gludai lo rhydd Cymreig o Gaerdydd i’r llynges yn Scapa Flow yn cael eu targedu gan y llongau-U ac oherwydd hynny cafodd llinell gyflenwi arall ei sefydlu ym 1915, sef y trenau a gâi eu galw’n ‘Jellicoe Specials’. Mae’r môr o gwmpas Ynysoedd Erch yn un o’r mynwentydd llongau mwyaf yn y byd.

Mae’r gofrestr ‘Deaths at Sea ar  Find My Past yn cofnodi marwolaeth Will Gent a’r pum dyn arall a fu farw pan suddwyd yr ILSTON:

Cofnod ar gyfer Will Gent yn ‘Deaths at Sea 1891-1972’ (BT 334).
Cofnod ar gyfer Will Gent yn ‘Deaths at Sea 1891-1972’ (BT 334).
Erthygl papur newyd yn Cambria Daily LeaderYmddangosodd adroddiad am farwolaeth Will yn The Cambria Daily Leader ar 5 Gorffennaf 1917 o dan y pennawd ‘Swansea Engineer Drowned’ er nad oes unrhyw sôn am y suddo na’r llong.

Mae’r adroddiad hwn yn dweud wrthym mai ei enw llawn oedd Charles William Reginald, ei fod yn byw yn ardal St Thomas yn Abertawe, ac mai ei frawd oedd y chwaraewr pêl-droed (rygbi) rhyngwladol adnabyddus, Dai Gent.

Ysgrif goffa yn Cambria Daily LeaderMae hysbysiad coffa, a gyhoeddwyd flwyddyn yn ddiweddarach gan ei rieni a’i frodyr yn The Cambria Daily Leader ar 29 Mehefin 1918, yn nodi ei fod yn cael ei alw’n ‘Will’ ac iddo gael ei ladd pan suddwyd ei long gan dorpido.

Unwaith eto, nid yw enw’r llong yn cael ei roi.

Obituary notice Cambria Daily LeaderYm 1919, ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Will, cafodd hysbysiad coffa pellach ei gyhoeddi am dri diwrnod yn olynol yn The Cambria Daily Leader.

Mae’r llong yn cael ei enwi y tro hwn, ac mae’n glir bod y teulu yn dal i deimlo’r golled i’r byw

Enw Will, C. W. R. Gent, yw un o 68 enw ar y garreg goffa yn Eglwys yr Holl Saint, Kilvey Road, Abertawe sy’n coffáu dynion y plwyf a fu farw yn y rhyfel. Gallwch ei weld yn y golofn ganol, ail o’r brig. Mae’r ffotograff hwn wedi’i ddigido ac mae ar gael ar-lein ar wefan Archifau Abertawe.

Cofeb ryfel Kilvey
Ffotograff o’r gofeb ryfel yn Eglwys yr Holl Saint, Kilvey, Abertawe.

Byddai llongwyr a fu’n gwasanaethu am chwe mis neu ragor yn ystod y rhyfel, ac a fu mewn ardal lle roedd y gelyn yn gweithredu, yn derbyn Medal y Llynges Fasnachol a Medal Ryfel Prydain gyda’i gilydd (TNA BT351/1/1-2).

Cerdyn medal Will GentNid oes llawer o wybodaeth ar  gerdyn medalau Will ond mae’n nodi i’r ddwy fedal hyn gael eu hanfon i gyfeiriad y teulu ym 1923. Mae’n bosibl bod y medalau gan y teulu o hyd.

Y Tad

Mae’n ymddangos i’r llongwr arall yn y teulu, tad Will, Reginald, wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar yr SS PLUTUS ymhlith llongau eraill. Daeth drwy’r rhyfel, derbyniodd ei fedalau ei hun a pharhaodd i weithio fel is-gapten ar longau masnach. Sut bynnag, mae yna nodyn mewn llawsygrifen ar ei gerdyn Llongwr Masnach sy’n dweud ‘Deceased 12.11.33’. Gan iddo gael ei eni ym 1856, roedd yn 77 oed pan fu farw. Mae ei gofnod claddu yn nodi mai ‘Henry C. Gent’ oedd y ficer a fu’n gwasanaethu yn yr angladd – tybed a oedd ef yn berthynas?

Y Fam

Mae cofnod claddu yn nodi i fam Will, Elizabeth Gent (Roderick cyn priodi), gael ei chladdu ar 23 Ionawr 1923. Mae’r cyfrifiad yn dweud wrthym iddi gael ei geni tua 1860, felly roedd hi tua 63 pan fu farw. Gwyddom o gyfrifiad 1911 iddi roi genedigaeth i chwech o blant ac y bu farw tri ohonynt yn blant ifanc. Gan i Will farw ym 1917, dim ond dau fab a’i goroesodd – Dai a George. Mae’r cyfrifiad hwn yn nodi ei bod hi’n hanu o Lanymddyfri a’i bod hi’n siarad Cymraeg.

Y Brawd Hynaf

David (Dai) Gent, y hynaf brawd WillDyma ffotograff o frawd hynaf Will, David (Dai) Gent, sy’n cael ei ddangos drwy gwrteisi gwefan Gloucester Rugby Heritage.

Chwaraeodd Dai i Lanymddyfri fel cefnwr a chafodd sawl gêm gyda Llanelli cyn symud i Glwb Rygbi Caerloyw. Chwaraeodd iddynt mewn 146 o gemau rhwng 1903 a 1911 fel mewnwr ac enillodd bum cap yn chwarae dros Loegr, y cyntaf ym 1905 yn erbyn tîm Seland Newydd ar daith gyntaf y Crysau Duon i’r Deyrnas Unedig. Daeth yn brifathro wedyn ac yn ohebydd rygbi i The Sunday Times, ac ysgrifennodd The Classic Guide to Rugby. Bu farw ym 1964 yn Hellingly, Sussex, yn 81 oed.

Erthygl yn y Cambrian Daily LeaderDyddiad yr erthygl hon o The Cambrian Daily Leader yw 21 Ionawr 1919.

Y Brawd Ieuengaf

Gwyddom i frawd ieuengaf Will, George Mayor Gent, wasanaethu fel Milwr Cyffredin gyda’r Swansea Pals (y 14eg Gatrawd Cymreig). Goroesodd y rhyfel.

Brodyr a Chwiorydd Eraill

Yn ôl y cofnodion claddu ar Find my Past roedd gan Will Gent frawd o’r un enw, Charles William Reginald Gent, wedi’i eni ym 1884 a fu farw’n 3 oed ychydig cyn i Will gael ei eni ym 1887, chwaer o’r enw Margaret Clarice Elizabeth a fu farw’n 17 fis oed ym 1891, a brawd o’r enw George Lawrence Roderick a fu farw’n 1 oed ym 1894.

Cafodd yr SS ILSTON ei hadeiladu yn Port Glasgow ym 1915 ac roedd hi’n eiddo i Swansea Steamers Ltd (Richards, Turpin Ltd). Roedd hi’n pwyso 2426 tunnell ac roedd ganddi griw o ryw 50 o ddynion o wahanol wledydd. (Roedd dau longwr o India ymhlith y pump arall a laddwyd.)

Mae’r llongddrylliad i’r de-ddwyrain o’r Lizard, de Cernyw, ar ddyfnder o 45-48 metr.

Ym 1969, adroddodd deifwyr fod llongddrylliad mawr (300 troefedd o hyd) yr ILSTON yn gorwedd yn gyfan oddi ar arfordir Cernyw, a bod ei hinjanau a’i chargo o gyfarpar rheilffordd yn yr howldiau yn dal yno.

Yn 2007, roedd y llongddrylliad yn parhau’n gyfan, ond roedd y cargo o wagenni rheilffordd wedi’i wasgaru dros wely’r môr. Roedd gwn y dec ar y starn o hyd, ynghyd â sieliau. Mae’r cabanau blaen yn parhau’n hygyrch heddiw ac mae darganfyddiadau diddorol yn dal i gael eu gwneud yno.

Mae’r hyn y gallwn ei ddarganfod am Will Gent a’i deulu ar-lein wedi’i gyfyngu i’r wybodaeth a ddangosir yma. Roedd cartref y teulu yn agos at ddociau Abertawe, felly gwyddom i Will gael ei fagu yng nghanol golygfeydd a sŵn porthladd prysur. Llongwr oedd ei dad a ddaeth yn is-gapten ac, wrth ymchwilio i siartiau achau, mae’n beth cyffredin i ddod o hyd i hynafiaid a aeth i’r môr gan fod cynifer o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwasanaeth masnach, yn enwedig yn nhrefi porthladd Cymru. Roedd yn aml yn yrfa a redai mewn teuluoedd.

Er ei fod yn 29 oed (neu 30 oed mewn rhai cofnodion) nid yw’n ymddangos bod Will wedi priodi nac wedi cael plant. Efallai nad oedd gweithio ar y môr, yn enwedig adeg rhyfel, yn caniatáu llawer o amser ar gyfer caru. Nid oes gennym ffotograff ohono ac mae hyn yn wir am lawer o’r dynion a menywod a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond mae’n bosibl bod gan ei deulu fwy o wybodaeth, er enghraifft, ei Fedal Llynges Fasnachol a ddyfarnwyd ym 1922, ffotograffau, llythyrau a anfonodd adref o’r môr, bathodyn torpido a roddwyd i longwyr masnach a oedd wedi goroesi ymosodiad gan long danfor, neu ddyddiadur. Mae’r pethau hyn wedi goroesi yn archifau llawer o deuluoedd a gobeithiwn y byddwn, drwy’r prosiect llongau-U, yn dod o hyd i fwy o ddogfennau a gwrthrychau sy’n ein hatgoffa o’r aberth ar y môr ganrif yn ôl.

Mae’r hyn rydym wedi’i ddarganfod, serch hynny, yn dweud llawer wrthym am y Rhyfel ar y Môr yn gyffredinol: o’r cargo allweddol a gâi ei gario gan y llongau Cymreig y gweithiai Will arnynt a rôl hollbwysig y gwasanaeth masnachol a morwyr profiadol, i’r ffyrdd y cafodd digwyddiadau ar y môr eu hadrodd mewn papurau newydd ac y cafodd marwolaethau eu cofnodi mewn dogfennau swyddogol. Yn y modd hwn, mae ymchwilio i fywyd un person yn gwella ein dealltwriaeth o’r rhyfel ac yn dangos mor bwysig yw parchu’r llongddrylliadau hynny sy’n ‘feddau yn y môr’ i’r llongwyr a gollwyd.