Fis Rhagfyr diwethaf, rhannodd y Prosiect Llongau-U stori ryfeddol daeargi bach o’r enw Lotte a ddaeth i fyw ymhlith criw llong danfor Almaenig, yr U 91, yng ngwanwyn 1918. Os cofiwch, roedd yr U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio Môr Iwerddon. Yn ystod wythnos gyntaf y patrôl, fe dreuliodd yr U 91 y rhan fwyaf o’r amser yn cuddio rhag confois neubyth yn mynd yn ddigon agos at longau masnach i allu cychwyn ymosodiad.
Ond erbyn yr ail wythnos ar y môr fe ddechreuodd pethau newid ac ar 26 Ebrill fe ddaeth yr U 91 ar draws yr ETHEL, sgwner bren fach, a oedd yn cludo llwyth o lo Cymreig o Gaerdydd i New Ross. Yn eu brys i adael eu llong ddiarfog, anghofiodd y criw am gi’r llong, a gafodd ei achub gan y tanforwyr Almaenig a’i gymryd ar fwrdd yr U 91 cyn suddo’r ETHEL. Mabwysiadodd Alfred von Glasenapp y daeargi a’i enwi’n ‘Lotte’. Er boddhad pawb, ymgynefinodd yn gyflym iawn â bywyd ar fwrdd y llong danfor.
Mae Glasenapp yn disgrifio suddo’r ETHEL a mynd â Lotte ar fwrdd U 91 yn ei ddyddiadur preifat. Ffynhonnell: Bundesarchiv, RM 97/1032_ KTBU91, Alfred von Glasenapp.Lotte ar ddec yr U 91 rhwng Mr Main, gynnwr y LANDONIA, a James Goodwin, 2il Swyddog ar y BARON HARRIES. Ffynhonnell: Freundeskreis Traditionsarchiv Unterseeboote e.V.
Mewn un llun, gellir ei gweld rhwng dau garcharor rhyfel yr oedd yr U 91 wedi’u cipio yn ystod yr ymgyrch benodol hon. Yn ei ddyddiadur preifat, mae Glasenapp hefyd yn crybwyll bod Lotte’n ei mwynhau ei hun yn gorweddian yn yr haul rhwng y tanforwyr a oedd yn torheulo ar y dec yn ystod adegau llonydd ar y môr. Mewn llun arall, a dynnwyd yn un o ganolfannau llongau tanfor yr Almaenwyr yn haf 1918, fe’i gwelir yng nghwmni criw cyfan yr U 91.
Lotte, canol y rhes flaen, gyda chriw yr U 91 cyn iddynt gychwyn am yr Azores i ymgymryd â phatrôl rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 1918. Ffynhonnell: Freundeskreis Traditionsarchiv Unterseeboote e.V.
Pan aethom ati i rannu hanes Lotte a’r llong danfor Almaenig, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd i’r ci bach ar ôl y rhyfel ond roeddem yn awyddus iawn i ddarganfod mwy. Gwnaethom apêl am wybodaeth am dynged Lotte er mwyn llenwi’r bylchau. Cysylltwydâ’r cyfryngau Almaenig hyd yn oed yn y gobaith y byddent yn helpu i rannu stori Lotte. Buom yn aros, ac yn gobeithio, ond ni chlywsom gan neb – hyd fis Mehefin eleni pan gyrhaeddodd e-bost gan un o ddisgynyddion Glasenapp.
A dyma’r hyn a ysgrifennodd:
Dim ond ddoe y deuthum o hyd i’r cofnod am Lotte a’r U 91 ar eich gwefan, ac i ddechrau doeddwn i ddim yn gallu credu fy llygaid. Roeddwn i wedi clywed stori ‘Lotte’ lawer gwaith gartref a phrofiad arbennig iawn oedd ei gweld hi’n cael ei chodi o chwedlau teuluol i fyd hanes dogfennol. Doedd neb yn gwybod o ba long y daeth Lotte na sut yn union y cafodd y llong ei suddo, ond pleser gen i yn awr yw rhoi ychydig o wybodaeth am beth a ddigwyddodd i Lotte wedyn.
Alfred von Glasenapp, achubwr Lotte a chapten yr U 91, oedd fy nhad-cu ar ochr fy mam, ond wnes i ddim cyfarfod ag ef erioed. Yn ôl fy mam, cadwodd Lotte ar ei gwch hyd ddiwedd y rhyfel, ac ar ôl cael ei ryddhau o’r llynges, aeth â hi i fyw gydag ef yn Johannisburg (Pisz heddiw) yn Nwyrain Prwsia. Ond rywbryd wedyn, bu’n rhaid iddo ei gadael hi gyda pherthnasau. Yn y modd hwn y daeth Lotte yn gi teulu nhw, a gallai fy niweddar dad, a anwyd ym 1918, gofio chwarae gyda hi pan oedd yn ifanc iawn. Fe gafodd hi gŵn bach hefyd, ond bu farw yn y 1920au, o’r gynddaredd mae’n debyg. Ganwyd fy mam ym 1924, a dim ond storïau a glywsai hi amdani.
Wrth edrych drwy albymau’r teulu, daeth fy mam o hyd i ffotograff ohoni hi ei hun a chi bach o’r enw ‘Lotti’ – yn ôl yr ysgrifen o dan y llun. Mae’r ci hwn yn debyg o ran maint a lliw i Lotte. Dydy fy mam ddim yn cofio’r sefyllfa gan mai dwy oed yn unig oedd hi pan dynnwyd y llun, ond mae’n ddigon posibl bod Lotte’n dal yn fyw ym 1926.
Lotte a merch bach Alfred von Glasenapp yn 1926.
Sut bynnag, y wybodaeth a oedd yn fwy diddorol byth i mi yn eich erthygl oedd y sôn am ddyddiaduron preifat Glasenapp, yr oeddwn i’n meddwl eu bod wedi’u colli am byth. Yn ôl fy mam, pan gafodd fy nhad-cu a’m mam-gu eu gyrru o Silesia ym 1946, fe guddiodd fy mam-gu y dyddiaduron hyn mewn tas wair (o bob man), yn y gobaith y byddent yn gallu dod yn ôl yn fuan i’w nôl. Ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Mae’n ymddangos bod y dyddiaduron rhyfel yn bwysig iawn i’m tad-cu, gan iddo fynd mor bell â chael teipydd proffesiynol i wneud copi ohonynt a chynnwys ffotograffau ynddynt yr oedd wedi’u tynnu ar fwrdd ei long danfor. Ar hyd y blynyddoedd,byddai fy mam yn mynegi ei gofid bod y dogfennau hyn wedi mynd i ddifancoll.
Mae bron yn amhosibl credu bod y dyddiaduron wedi goroesi, ac eto rydw i’n eich gweld chi’n dyfynnu ohonynt mewn du a gwyn. Fe fyddwn i’n ddiolchgar iawn iawn pe gallech roi unrhyw wybodaeth i mi am leoliad presennol y dogfennau ac a oes modd cael copi ohonynt, ni waeth beth fydd y gost. Llawenydd mawr i’m mam, sy’n 95 oed, fyddai gweld y dystiolaeth hon o fywyd ei thad yn ailymddangos, yn wyrthiol, ar ôl mwy na saith degawd.
Tudalen o albwm lluniau preifat o darddiad anhysbys sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym meddiant ŵyr Alfred von Glasenapp. Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: (1) Y Capten Ellis Morris Roberts o’r BIRCHLEAF, a gymerwyd yn Garcharor Rhyfel gan yr U 91 ar 23 Chwefror 1918, gyda’r Capten John White o’r ROCKPOOL. (2) Ar fwrdd yr U 91 – mae’n bosibl mai von Glasenapp yw’r ail o’r chwith. (3 a 4) yr U 91 wedi dychwelyd i Wilhelmshaven ar ôl patrôl llwyddiannus ac yn cael ei chroesawu gan Gomander y Llyngesan Longau Tanfor.
Yn ogystal â chael holl hanes Lotte erbyn hyn, rydym wedi rhannu gwybodaeth am leoliad presennol y dyddiaduron â’r ŵyr Glasenapp a rhai o’r lluniau a dynnwyd ar fwrdd yr U 91 yn ystod y gwanwyn pan ddaeth Lotte i fyw ar y llong.
Hoffem ddiolch eto i ddisgynyddion Glasenapp am rannu gweddill stori Lotte gyda ni ac am roi caniatâd i gyhoeddi ei e-bost ar ein blog. Ar ôl credu am ddeng mlynedd a thrigain bod dyddiaduron preifat eu tad-cu a’u tad wedi’u colli am byth, gobeithiwn eu bod yn cael pleser o gau rhai o’r bylchau yn hanes eu teulu.