• Home 2
  • William Williams, Amlwch a’i Weithred Ddewr

William Williams, Amlwch a’i Weithred Ddewr

You may also like

Ganwyd William Williams yn Amlwch ar 5 Hydref 1890 ac ymunodd â gwasanaeth Llu Wrth Gefn y Llynges Frenhinol ym mis Medi 1914. Yn ystod 1917, fe’i anfonwyd ar fwrdd yr HMS PARGUST, llong-Q, sef llongau masnachol oedd hefyd yn cario arfau cudd, dan esgus bod yn longau teithwyr. Ar 7 Mehefin 1917, fe wnaeth llong danfor Almaenig UC 29 ymosod ar yr PARGUST ym Môr yr Iwerydd. Yn ystod yr ymosodiad daeth gorchuddion y gynnau yn rhydd, a gwirfoddolodd William Williams i aros ar ôl er mwyn dal y gorchuddion yn eu lle rhag peidio datgelu’r arfau yn rhy fuan. Aeth y criw decoy oddi ar y llong ar fadau achub. Wrth weld hyn, daeth UC 29 i’r wyneb gan agosáu at y llong. Pan oedd y llong danfor o fewn 50 troedfedd, tynnwyd y gorchuddion a thaniwyd y gynnau. Fe suddwyd UC 29 gyda 23 o bobl ar ei bwrdd.

Cafodd William Williams ei enwebu gan griw y PARGUST, am ei ddewrder, i dderbyn Croes Victoria. Fe wnaeth Williams hefyd dderbyn y fedal Gwasanaeth Arbennig ddwywaith yn ystod y rhyfel.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Ceri Williams. Ar y cyd ag Oriel Môn, Llangefni.