Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol i goffáu’r rheiny a wasanaethodd ar y môr yn ystod y Rhyfel Mawr yw’r Prosiect Llongau-U 1914-18.
Mae’r partneriaid yn y prosiect wedi defnyddio’r technegau delweddu tanddwr diweddaraf i archwilio llongau a gollwyd ar hyd arfordir Cymru o ganlyniad I ymosodiadau gan longau tanfor. Mae’r safleoedd a ddewiswyd yn sampl bach o’r 155 o longau a suddwyd, ond mae eu storïau’n adlewyrchu llawer o’r agweddau allweddol ar y brwydro.
Mae’r teyrngedau i’r arwyr ac arwresau cyffredin y rhoddir sylw iddynt yn yr arddangosfa hon wedi cael eu hawgrymu gan unigolion, grwpiau cymunedol, a’r rhwydwaith o amgueddfeydd ar hyd arfordir Cymru.