Mae’r system sonar amlbaladr a ddefnyddir ar long ymchwil Prifysgol Bangor yn allyrru tonnau sain ar siâp gwyntyll. Mae’r amser a gymerir i’r tonnau sain fownsio oddi ar wely’r môr a dychwelyd i’r derbynnydd ar y llong yn cael ei ddefnyddio i greu model manwl iawn o bwyntiau dyfnder dros longddrylliad.
Mae’r delweddau sonar yn rhoi cliwiau i ni am eiliadau olaf y llongau drwy ddatgelu’r difrod a achoswyd iddynt gan dorpidos a ffrwydron môr a thrwy gael eu bwrw.
Maen nhw’n rhoi llawer o wybodaeth i ni hefyd am gyflwr presennol llongddrylliadau’r Rhyfel Mawr ar hyd arfordir Cymru. Mae rhai bron yn gyfan o hyd, ond mae eraill yn cyrydu’n gyflym o ganlyniad i fod o dan y dŵr am dros 100 mlynedd ac yn dechrau syrthio’n ddarnau.